Pat Frost gyda John Stones, amddiffynwr Lloegr
Lloegr fydd yn chwarae yn erbyn yr Ariannin heno yn y Mercedes-Benz Stadium yn Atlanta, yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd 2026.
Mae Pat Frost wedi bod yn gyfrifol am offer tîm dynion Lloegr ers 2018. Yn ogystal â’i gariad at West Brom, mae ganddo gysylltiad arbennig gyda Chlwb Pêl-Droed Caernarfon.
Ers blynyddoedd mae Pat wedi bod yn dilyn y Cofis ledled Cymru, ac mae bellach yn aelod o fwrdd rheoli’r clwb yng Nghymru Premier.
Mae rhai wedi sylwi ar faner Lloegr gyda’r geiriau 'Caernarfon Town' yn ystod Cwpan y Byd eleni.
Ond beth sy’n gwneud i rywun sy’n byw dros 100 milltir o’r Oval ddilyn a bod yn rhan o stori’r 'Canaries'?
Cysylltiad Pat â Chlwb Caernarfon
Dechreuodd cysylltiad Pat gyda’r ardal pan symudodd ei deulu yno yn 1967.
"Fe symudon ni o ardal West Bromwich gan fod Dad wedi prynu gwesty Plas y Bryn ym Montnewydd, felly yno fuon ni'n byw am flynyddoedd," meddai wrth Cymru Fyw.
"'Nes i ddechrau mynd i wylio Caernarfon yn eithaf buan gyda Dad neu fy mrodyr a chwiorydd - pwy bynnag oedd ar gael!"
"Ond yng nghanol yr 80au fe symudon ni'n ôl i ganolbarth Lloegr a 'nes i golli cysylltiad gyda phawb o'n i'n eu 'nabod i ddweud y gwir…"
"Mi oedden ni'n dod am benwythnos bach fan hyn a fan draw i weld y teulu ac i dreulio amser yn Ninas Dinlle, ond doedd o ddim yr un peth."

Yn colli tua chwe gêm bob tymor
Newidiodd pethau pan aeth i wylio gêm yn yr Oval tua phum mlynedd yn ôl.
"Nes i weld llwyth o bobl do'n i heb weld ers oes a ges i fy nhynnu nôl mewn."
Er bod yn dal i fyw yng nghanolbarth Lloegr ac yn dilyn West Brom yn grefyddol, mae’n colli tua chwe gêm Caernarfon bob tymor oherwydd nifer y gemau sy’n cael eu chwarae ar nos Wener neu yng nghanol yr wythnos.
"Dwi'n cofio un cefnogwr yn dweud wrtha' i 'mae 'na rai cefnogwyr sydd heb ddigon o fynadd i gerdded i gemau, ond ti'n dewis teithio pum awr yma ac yn ôl'."
"Mae dilyn Caernarfon yn gwbl wahanol i ddilyn West Brom, mae'r clwb yng nghalon y dref, gwirfoddolwyr sy'n ei reoli ac mae'r cefnogwyr yn anhygoel. Mae'r holl beth reit humbling i ddweud y gwir."
Uchafbwyntiau gyda’r clwb
Un o uchafbwyntiau Pat ers iddo ddechrau dilyn y clwb oedd gwylio Caernarfon yn ennill yn erbyn y Crusaders yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd wahoddiad i ymuno â bwrdd rheoli’r clwb tua phedair blynedd yn ôl ac mae’n edrych ymlaen at weld y clwb yn parhau i ddatblygu dros y blynyddoedd i ddod.
"Pan ddechreuais i doedd gan y clwb ddim pres - 'sa ni'n cael cyfarfod i benderfynu os oedden ni'n gallu sbario £100 i brynu oergell newydd - roedden ni wir mewn sefyllfa anodd yn ariannol."
"Mae pethau'n well erbyn hyn diolch i'r arian gawsom ni am gyrraedd Ewrop, ond yr un bobl sydd yma, mae'r stadiwm yr un fath."
Taith Ewropeaidd Caernarfon
Ychwanegodd mai un o’r uchafbwyntiau ers iddo ailddechrau dilyn y clwb oedd taith Ewropeaidd y Cofis a’u buddugoliaeth yn erbyn Crusaders ddwy flynedd yn ôl.
"Oherwydd fy ngwaith 'nes i fethu'r cymal cyntaf, ond y diwrnod ar ôl i mi gyrraedd 'nôl o'r Almaen - ar ôl 60 diwrnod gyda thîm Lloegr - 'nes i ddal fferi draw i Ddulyn i weld y gêm. Mi oedd o'n anhygoel."
Pat Frost a Chymdeithas Bêl-droed Lloegr
Mae Pat wedi gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr ers 2004 ac ers 2018 mae’n gyfrifol am gadw trefn ar offer tîm cyntaf y dynion. Mae’n dweud bod y staff a’r chwaraewyr bellach yn ymwybodol o’i gysylltiad â gogledd Cymru.
"Mi oedd pawb yn arfer holi am West Brom, ond erbyn hyn mae'r staff a'r chwaraewyr i gyd yn holi am hanes Caernarfon, sut 'da ni'n 'neud eleni ac ati."
"Yn ystod yr Euros yn Yr Almaen [2024] fe lwyddodd y tîm video analysis i gael gêm Caernarfon yn erbyn Crusaders ar y sgrîn fawr yn yr ystafell gemau."
"Roedd Gareth Southgate, Steve Holland a rhwng 20 a 30 o staff a chwaraewyr yn eistedd yn gwylio'r gêm efo fi."
"Fe wnaeth Ollie Watkins ddweud, gyda thafod yn ei foch, y byddai'n gorffen ei yrfa gyda Chaernarfon os o'n i dal yn ymwneud â'r clwb. Fydda i bendant yn ei ffonio mewn ryw bum neu chwe mlynedd!"

Teithio gyda Lloegr a baner Caernarfon
Mae Pat yn teithio i bob un o gemau tîm dynion Lloegr fel rhan o’i swydd, ac mae’n teithio gyda fo i bob gêm mae ei faner - rhywbeth a ddenodd sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr Euros yn 2024.
"Nes i 'falu'r we' y noson honno! Ond i fod yn onest, mi wnaeth rhai o'r sylwadau fynd ar fy nerfau."

Roedd ymateb ar-lein i faner Pat yn ystod ymgyrch Lloegr yn Euro 2024, gan gynnwys rhai sylwadau negyddol.
"Roedd 'na ryw agwedd gan rai nad oedd hawl gan Sais fel fi i ddilyn Caernarfon - dwi'n cofio un person yn dweud 'o mae'n siŵr na ryw Sais efo jet ski ac ail gartref ydi hwn'."
"Ond y gwir ydi, dwi wedi rhoi lot o arian fy hun i mewn i'r clwb, ac mae taith i wylio gêm gartref yn gallu bod yn wyth awr i mi ar adegau."
"Ond er i rai geisio beirniadu, mi wnaeth y 'Cofi Army' fy amddiffyn chwarae teg."
Mae Pat yn edrych ymlaen at arddangos y faner wrth deithio ledled y byd gyda Lloegr yn ystod yr ymgyrch nesaf, a pharhau i ddangos baner y 'West Brom Cofis' yn yr Oval hefyd wrth gwrs.

Mae’r erthygl hon yn addasiad o erthygl a gyhoeddwyd yn 2025.







