Mae arddangosfa newydd yn Storiel yn rhoi cipolwg ar 150 o flynyddoedd o hanes pêl-droed cystadleuol ym Mangor. Mae’r casgliad yn cynnwys hen grysau, baneri, lluniau ac erthyglau papur newydd, ac mae un o gefnogwyr hir-amser y clwb, Dafydd Hughes, wedi helpu i’w churadu.
Mae’r arddangosfa hefyd yn egluro pam fod cleddyf yng nghanol y posteri a’r crysau sy’n cofnodi hanes y gêm yn y ddinas.

Napoli ym Mangor
Mae Bangor wedi chwarae yn erbyn rhai o dimau mwyaf Ewrop dros y blynyddoedd, ac mae Dafydd yn cofio’n iawn y diwrnod y daeth Napoli i chwarae i gae Ffordd Farrar ar gyfer Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, ar ôl i Fangor guro Wrecsam i ennill Cwpan Cymru.
“5 Medi 1962, dwi'n cofio bod yn y dorf y diwrnod hwnnw,”
meddai.
“Doedd rhywun ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Roedd Bangor wedi mynd i mewn i Ewrop cyn llawer o'r timau Saesnig, fel Lerpwl a Man City.
Yr arwyr rhan amser: Cofio Bangor yn curo Napoli yn '62
“Ennill 2-0 yn erbyn Napoli; dwi'n meddwl heblaw am y stwff mae Caerdydd a Wrecsam efallai wedi ei gyflawni ers hynny, yn un o'r canlyniad mwyaf syfrdanol i dîm o Gymru mewn un o gystadlaethau Ewrop.”
Ar ôl chwarae draw yn Napoli, wedyn mewn gêm ail-gyfle yn Llundain, yn anffodus colli oedd hanes Bangor yn erbyn y tîm o’r Eidal.
Mae Dafydd Hughes yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Bangor

Cleddyf y Sbaenwyr
Ni chwaraeodd y tîm yn Ewrop eto tan dymor 1985-6.
Yn dilyn gemau yn erbyn y tîm gymharol fach o Norwy, Fredrikstad FK yn y rownd gyntaf, wynebodd Fangor dîm mawr ar 23 Hydref 1985 yn yr ail rownd.
“Roedden nhw ddigon lwcus i gael Atlético Madrid yn dod i Ffordd Farrar,”
eglurodd Dafydd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
Ond roedd angen ychydig o addasu ar y cae, meddai, am fod y gêm yn cael ei darlledu yn fyw ar rwydwaith ITV.
“Roedden nhw'n gorfod rhoi goleuadau ychwanegol ar y llifoleuadau. O'dd 'na ddipyn o ffys am y peth.”
Colli oedd hanes y Cymry yn y gêm yna, ac roedd yr ail gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Vincente Calderon. Mae sôn fod aelod o dîm Bangor, Viv Williams, wedi cael cryn argraff ar y Sbaenwyr, a bod ganddyn nhw ddiddordeb yn ei arwyddo.
Ond beth yw arwyddocâd y cleddyf, felly?
“Mae'r cleddyf 'ma yn arbennig iawn; wedi ei roi gan lywydd Atlético Madrid i gadeirydd Bangor, fel memento o'r gêm. Mae o 'di bod ar goll am dipyn, ond 'da ni'n falch o weld erbyn hyn ei fod o wedi cael ei roi mewn câs pwrpasol.
“Bydd o yma yn yr arddangosfa, wedyn i gae Nantporth, sef cae newydd dinas Bangor.”
“Un o’r problemau oedd ganddon ni oedd beth i’w rhoi ar y waliau, a beth i’w adael allan.”
Dafydd Hughes yn sgwrsio ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru

Chwarae yn Ewrop eto?
Mae llwyddiant mwy diweddar Bangor yn Ewrop yn cael ei ddathlu yn yr arddangosfa hefyd, a hynny gan y tîm merched.
“Os ewch chi nôl i ddechrau'r 2000au,”
meddai Dafydd,
“roedd gan Bangor dîm oedd yn chwarae yn erbyn Lerpwl, Arsenal, Wolves.
“Nid yn unig hynny, 'naethon nhw gynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cynta'. Mae 'na faner AZS Wrocław yng Ngwlad Pwyl [yma] a 'naethon nhw chwarae yn erbyn HJK Helsinki.
“Mae 'na dipyn o'r chwaraewyr dal o gwmpas deud y gwir, ac atgofion melys ganddyn nhw. Mae'n hollbwysig bod ni'n adlewyrchu eu camp nhw.”
Rhai o raglenni gemau tîm merched Bangor yn erbyn timoedd mawr fel Lerpwl ac Arsenal

Yn dilyn pryderon am ddyfodol ariannol CPD Dinas Bangor, cafodd tîm newydd ei sefydlu gan y cefnogwyr yn 2019. Bellach yn defnyddio’r enw, CPD Dinas Bangor 1876, un tîm sydd yn y ddinas, ar ôl i’r tîm gwreiddiol ddod i ben yn 2022.
Does yr un tîm ym Mangor wedi chwarae’n gystadleuol yn Ewrop ers tymor 2017-18, ond mae Dafydd yn obeithiol y bydd ‘na gemau ar y cyfandir yn fuan unwaith eto.
“Mae 'na drafferthion 'di bod ond 'da ni ar y ffordd yn ôl, a'r peth mawr 'da ni'n gobeithio amdano fo ydy dyrchafiad y flwyddyn yma yn ôl i'r brif haen yng Nghymru, fel bod ni eto yn medru mynd am Ewrop.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Gemau Euro yn 'rhywbeth i'r clwb a'r gymuned yng Nghaernarfon'
Cymro Caersws wnaeth reoli tîm pêl-droed UDA







