Gemau Euro yn 'rhywbeth i'r clwb a'r gymuned yng Nghaernarfon'
"Pwy fasai'n meddwl fasen ni'n cael twrnamaint Ewropeaidd yma ar yr Oval 'de?"
I Paul Evans, cadeirydd clwb pêl-droed Caernarfon, mae cynnal gemau Euro dan 19 yn yr Oval yn rhywbeth arbennig i'r gymuned gyfan.
Wrth i'r clwb baratoi ar gyfer y gêm gyntaf Euro dan 19 ar 29 Mehefin lle bydd yr Eidal yn wynebu Serbia, meddai:
"Mae o'n beth mawr iawn i'r clwb. Mae o'n sbeshal, mae o'n adeg hanesyddol i ni fel clwb.
Fydd o'n beth mawr i ni fel clwb ond hefyd i'r gymuned a phlant yr ardal i allu dod yma a gweld y dosbarth yma o bêl-droed."

Buddsoddiad
Gyda buddsoddiad o tua £1.1 miliwn gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru a buddsoddiad o dros £350,000 gan glwb pêl-droed Caernarfon, mae nifer o welliannau wedi bod i'r clwb, yn ôl Paul:
"Mae rhan fwyaf o'r gwaith ar y cae wrth gwrs. Mi oedd yna rediad o naw troedfedd ac mae hwnna wedi mynd lawr i jest i ddim rŵan.
Weithiau rydyn ni'n edrych ar y cae rŵan a mae o bron yn lefel. Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r pêl-droed 'da ni'n ei weld ar y cae yma.
Ac hefyd rydyn ni wedi cael ystafelloedd newid newydd. Mae rheini'n state of the art ac maen nhw fel rhai Premier League yn Lloegr. 'Da ni wedi tarmacio ac wrth gwrs mae stand newydd yma rŵan, a fydd yn galluogi ni i chwarae gemau Ewro."

Gyda nifer o sêr y byd pêl-droed yn cychwyn mewn twrnameintau dan 19, mae Paul yn gyffrous i weld sêr y dyfodol yn chwarae ar yr Oval:
"Mae'n deimlad da – mae'n sbeshal, 'da ni'n edrych arno fel rhywbeth i'r clwb a'r gymuned.
Meddyliwch chi am blant bach yr ardal yn dod yma i wylio gêm Ewropeaidd dan 19 ac mewn blynyddoedd i ddod bydd rhai o'r chwaraewyr yma yn y gêm oedolion a bydd ein plant ni yn gallu dweud 'welais i'r chwaraewr 'na yn chwarae ar yr Oval yn 2026'.
Mae hwnna'n sbeshal i ni ac i bawb arall."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
Lluniau: Cefnogwyr Caernarfon a Fflint
Caernarfon yn ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes







