Skip to main content
Advertisement

Cymdeithas yr Iaith yn galw am adolygiad o waith Comisiynydd y Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am adolygiad o waith Comisiynydd y Gymraeg, gan ddadlau ei bod yn gwanhau ffocws ar hawliau iaith. Mae Efa Gruffudd Jones a Llywodraeth Cymru yn gwrthod hynny.

·4 min read
Sian Howys

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Weinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn galw am adolygiad o waith Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r mudiad yn dweud bod y comisiynydd yn "gweithredu yn groes i'w phrif nod statudol".

Mae'r alwad yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y Gymdeithas, sydd, yn ôl datganiad gan y mudiad, yn dangos bod y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, wedi gorfod gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ddefnyddio'r gair "hawl" yn ei pholisi rheoleiddio.

Dywedodd Siân Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, ei bod wedi "synnu a siomi'n fawr bod Gweinidog Llafur wedi gorfod dweud wrth y Comisiynydd y dylai sôn am hawliau i'r Gymraeg".

Mae'r mudiad yn rhestru nifer o bryderon am y ffordd mae'r Comisiynydd presennol yn ymgymryd â'i rôl, gan gynnwys yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "methiant i ymchwilio i fwyafrif helaeth y cwynion dilys a gyflwynwyd".

Dywed y Comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, ei bod yn "gwbl ymrwymedig" i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg. Fe ddechreuodd Efa Gruffudd Jones ar ei gwaith fel Comisiynydd y Gymraeg yn Ionawr 2023.

Efa Gruffudd Jones
Disgrifiad o’r llun, Fe ddechreuodd Efa Gruffudd Jones ar ei gwaith fel Comisiynydd y Gymraeg yn Ionawr 2023

Yn ôl y mudiad, gostyngodd canran yr ymchwiliadau i'w lefel isaf erioed yn 2024-25, sef 26%. Mewn ymateb, dywedodd Efa Gruffudd Jones nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi'r awgrym ei bod yn llai parod i ymchwilio i gwynion.

"Ers mis Tachwedd mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno 76 o gwynion at fy sylw, a dim ond chwech o'r rheiny sydd wedi arwain at benderfyniad i beidio ag ymchwilio," meddai.
"Mae'n gwbl ymrwymedig i barhau i ddefnyddio pob un o'r pwerau sydd ar gael imi i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.
"Dyna fu ffocws fy ngwaith hyd yma, a dyna fydd fy ffocws hyd ddiwedd fy nhymor fel Comisiynydd."

Pa bryderon mae Cymdeithas yr Iaith yn eu codi?

Dywedodd y mudiad ei fod yn anfodlon â'r diffyg pwyslais ar hawliau iaith Gymraeg ac â'r hyn y mae'n ei weld fel gwanhau ffocws rheoleiddiol y swydd.

"Rydym yn anfodlon iawn â'r diffyg pwyslais gan y Comisiynydd ar sicrhau hawliau iaith Gymraeg.
"Allwn ni ddim troi'r llanw o blaid y Gymraeg gydag ymddygiad fel hyn gan Gomisiynydd y Gymraeg."

Gwrthododd y Comisiynydd y feirniadaeth honno. Dywedodd hefyd nad ymchwilio i gwynion yn unig oedd gwaith y Comisiynydd, gan nodi ei bod wedi cyhoeddi adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg, rhoi cyngor statudol i Weinidogion, paratoi Safonau'r Gymraeg ar gyfer cymdeithasau tai, a chynnal ymgyrch genedlaethol i gryfhau gwasanaethau Cymraeg.

Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "diogelu a chryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn flaenoriaeth"

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "diogelu a chryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn flaenoriaeth". Dywedodd hefyd nad rôl Comisiynydd y Gymraeg oedd "mabwysiadu safbwyntiau unrhyw fudiad ymgyrchu, nac unrhyw lywodraeth", ond gweithredu "yn unol â'r gyfraith a'r dyletswyddau a roddwyd i mi gan y Senedd".

Advertisement
"Mae'r egwyddor o hawliau iaith eisoes wedi'i gosod yn glir yn y Mesur.
"Fodd bynnag, mae'r hawliau iaith hynny yn cael eu gwireddu nid yn unig drwy eu datgan, ond drwy sicrhau bod sefydliadau'n newid eu hymddygiad.
"Dyna sut y daw hawliau yn realiti i ddefnyddwyr y Gymraeg."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod "diogelu a chryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn flaenoriaeth i ni.

"Mae gan y Comisiynydd rôl bwysig i hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg, ac i reoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol, sy'n cynnwys defnyddio ei phwerau gorfodi yn llawn pan fo angen hynny.
"Ein nod yw cydweithio'n adeiladol â'r Comisiynydd er lles siaradwyr Cymraeg."

Pa gefndir sydd i'r ddadl?

Mae'r ddadl yn dod wrth i Efa Gruffudd Jones baratoi ar gyfer digwyddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd, lle bydd y Comisiynydd yn edrych yn ôl ar ddeng mlynedd ers cyflwyno Safonau'r Gymraeg.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae'r Safonau wedi trawsnewid y ddarpariaeth Gymraeg a helpu i sicrhau mwy o gysondeb gan roi hawliau cliriach. Ond mae hi'n poeni bod "rhai o'r gwasanaethau pwysicaf y mae pobl yn eu defnyddio o ddydd i ddydd, gan gynnwys gwasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau, a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yn parhau y tu allan i'r drefn".

Mae Efa Gruffudd Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i "weithredu ar ei hymrwymiad i ymestyn cwmpas y Safonau i ragor o sefydliadau a sectorau".

Pwyllgor ASau yn cymeradwyo Efa Gruffudd Jones

Angen i garchardai barhau gyda gwella darpariaeth y Gymraeg - Comisiynydd

Comisiynydd y Gymraeg 'wedi colli'i ffordd' - Cymdeithas yr Iaith

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News