Efan, sy'n bedair oed, o Landysul yn archwilio'r peiriannau. Roedd yr haul yn tywynnu ym Mhowys ar ddiwrnod agoriadol y Sioe Fawr yn Llanelwedd, ac roedd amrywiaeth o olygfeydd i'w gweld drwy gydol y dydd.
Dyma flas bach o'r hyn oedd i'w weld yn y sioe heddiw.
Gwartheg Charolais yn cael eu harddangos.

Y bwyellwyr, o Seland Newydd, Yr Iseldiroedd, Lloegr, Iwerddon, Y Weriniaeth Tsiec a thu hwnt yn cystadlu brynhawn Llun.

Macsen o Gwm Gwaun yn helpu Dad i baratoi'r defaid.

Sied y defaid yn llawn, gyda digon i'w gweld wrth i'r cystadlu a'r paratoadau barhau drwy'r prynhawn.

Mae angen help i gyrraedd pennau y ceffylau gwedd.

Ac o'r ceffylau mawr i'r ceffylau bychain... Jac ac Alfie o Ynys Môn gyda'u ceffylau Shetland minature.

Cneifio gyda gwellau, a'r Cymro Elfed Jackson yn fuddugol yn ei gymal.

Y Llu Awyr Brenhinol yn rhoi sioe uwchben y prif gylch.

Ceffylau yn y prif gylch, gan ychwanegu at yr amrywiaeth o gystadlaethau a sioeau a welwyd yn Llanelwedd ar ddiwrnod agoriadol y Sioe Fawr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
Cyllideb taliadau amaeth tan 2030 yn cynnig 'sicrwydd i ffermwyr'
'Cefnogi'r ieuenctid sy'n bwysig' - Llywydd y Sioe Fawr



