Mae Penri Williams yn cael ei anrhydeddu am wneud "cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg y gymuned dros sawl degawd". Fe fydd medal sy'n coffáu un o fawrion yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cydnabod cyfraniad cymwynaswyr bro yn cael ei rhoi eleni i ŵr sydd wedi rhoi "dros 40 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i'r Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru".
Penri Williams - yn enedigol o Borthmadog ond wedi ymgartrefu yn ardal Rhondda Cynon Taf - sy'n derbyn Medal R. Alun yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026. Dywed yr Eisteddfod ei fod "wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg y gymuned dros sawl degawd", gan gynnwys golygu papur bro Tafod Elái am 38 mlynedd.
Fe fydd yn derbyn y fedal mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod yn Llantwd brynhawn Sul, 2 Awst.
Wenna Bevan Jones i dderbyn Medal R Alun ym mlwyddyn gyntaf y wobr
Medal i gofio cyfraniad arbennig R Alun Evans
Fel un o sylfaenwyr Clwb y Dwrlyn yn 1979 mae Penri Williams, medd y trefnwyr, "wedi bod yn ganolog i gynnal gweithgareddau Cymraeg yn ardal Creigiau, Gwaelod y Garth a Phentyrch, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth Plygain ac ymweliad blynyddol y Fari Lwyd".
"Cyn ymddeol roedd yn beiriannydd ym mhwerdy Aberddawan ger Y Barri. Drwy'r cyfnod hwnnw ac ers hynny mae wedi defnyddio ei gefndir mewn technoleg i wneud gwaith arloesol gyda mentrau iaith, hyrwyddo addysg Gymraeg, cefnogi mudiadau diwylliannol yn ogystal â chryfhau presenoldeb y Gymraeg ar-lein."
Mae'r wobr hefyd yn nodi ei gyfraniad i nifer o gorau, gan gynnwys Côr Godre'r Garth, Côr y Mochyn Du/Hen Nodiant a Chôrdydd.
Fe dderbyniodd Ryddfraint Cymuned Pentyrch yn 2022 am ei wasanaeth dros y Gymraeg a Cymreictod y cylch.
Mae R. Alun Evans yn ffigwr amlwg o fewn llywodraethiant yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ymgymryd â sawl rôl dros y blynyddoedd.

Cyfraniad 'amhrisiadwy'
Cafodd ei enwebu ar gyfer yr anrhydedd gan Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
"Mae cyfraniad Penri i Gymreictod yr ardal yn amhrisiadwy," dywedodd. "Mae'n un o'r bobl yna cewch bob amser ddibynnu arno.
"Defnyddiwn y gair 'anhygoel' yn rhy aml o lawer ond mae'r gamp mae wedi'i chyflawni gyda'r papur bro gan gyhoeddi 403 rhifyn, wir wedi bod yn anhygoel.
"Rydym fel tîm newydd yn ymdrechu i lenwi ei esgidiau ond mae'n her a hanner."
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Williams:
"Roeddwn yn eistedd yn y gynulleidfa ac yn gwrando ar Helen ac yn ceisio dyfalu am pwy roedd hi'n siarad.
"Doeddwn ddim yn disgwyl iddi fy enwi i a daeth fel bach o sioc. Rwy'n hynod falch o'r anrhydedd ac yn ei werthfawrogi'n fawr."
Roedd R. Alun Evans yn ffigwr amlwg o fewn llywodraethiant yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ymgymryd â sawl rôl dros y blynyddoedd.
Penri Williams yw'r ail berson i dderbyn y fedal, sy'n cael ei rhoi er cof am y diweddar Barchedig R. Alun Evans - y darlledwr, awdur a gweinidog gyda'r Annibynwyr a fu farw yn 2023 yn 86 oed.
Roedd yn ffigwr canolog yn hanes yr Eisteddfod, gan ymgymryd â sawl rôl allweddol dros y blynyddoedd, cyn cael ei anrhydeddu'n Gymrawd am oes o wasanaeth i'r Brifwyl.
Mae ei deulu wedi croesawu'r cyhoeddiad mai Penri Williams sy'n cael y wobr eleni.
Dywedodd ei ferch, Betsan Powys:
"Dwi'n nabod Penri ers blynyddoedd, ac yn gwybod o brofiad amdano fel rhywun sy'n cyfrannu'n dawel yn y cefndir, yn holi sut gall e helpu ac yn ateb y galw.
"Mae hynny'n wir amdano mewn pob math o feysydd ond amlycaf i fi, fel cyd-aelod o Gôrdydd.
"Roedd clywed, felly, mai Penri fydd yn cael Medal R. Alun eleni yn newyddion bendigedig. Sôn am 'gymwynaswr bro' - dyna Penri."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







