Skip to main content
Advertisement

Sioe Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig yn cael ei chanslo ar ôl cofrestriadau isel

Mae sioe i ddathlu 125 mlwyddiant Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig wedi cael ei chanslo oherwydd nifer isel o gofrestriadau, gyda chostau cynyddol a ffliw ceffylau yn effeithio ar y digwyddiad.

·4 min read
Cob Cymreig yn y Sioe Frenhinol yn 2016

Canslo sioe 125 mlwyddiant Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig

Mae sioe i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig (WPCS) yn 125 oed wedi cael ei chanslo ar ôl i lai na chant o gystadleuwyr gofrestru.

Roedd y digwyddiad i fod i gael ei gynnal ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ym mis Awst, ond yn ôl y trefnwyr, mae'r nifer isel o gofrestriadau'n golygu nad yw hi'n bosibl yn ariannol i barhau â'r cynlluniau.

Mewn datganiad, dywedodd y gymdeithas eu bod wedi gwneud y

"penderfyniad anodd ond cyfrifol"
yn dilyn adolygiad o'r cofrestriadau cyn y dyddiad cau.

Ychwanegodd y gymdeithas - sef cymdeithas bridiau brodorol fwyaf y DU gyda mwy na 5,000 o aelodau ar draws y byd - fod y gefnogaeth ar gyfer y digwyddiad wedi bod yn

"siomedig"
.

Effaith ffliw ceffylau a chostau cynyddol ar y digwyddiad

Mae'r sefydliad yn cydnabod effaith yr achosion diweddar o ffliw ceffylau a chostau tanwydd cynyddol ar gystadleuwyr, ond doedden nhw ddim yn disgwyl cyn lleied o gofrestriadau.

Pe bai nifer y cofrestriadau'n dyblu cyn y dyddiad cau, byddai'r digwyddiad dal yn anghynaliadwy'n ariannol, meddai ymddiriedolwyr, oherwydd costau cynnal y digwyddiad.

Ychwanegodd y gymdeithas y byddai oedi cyn gwneud penderfyniad wedi arwain at gostau canslo ychwanegol.

Siom Ifor Lloyd a sylwadau ar y penderfyniad

Mae Ifor Lloyd yn siomedig iawn ond yn dweud nad oedd dewis arall os oedd y gymdeithas yn credu

"bod e ddim yn mynd i fod yn broffidiol"
.

Dywedodd Ifor Lloyd, sydd wedi bod yn aelod o'r gymdeithas ers tua 60 o flynyddoedd, fod y newyddion yn

"siom i ni gyd"
.

Roedd y bridiwr enwog o Bennant yng Ngheredigion yn edrych ymlaen at y digwyddiad.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd:

"Mae unrhyw ddathliad yn achlysur i'w gefnogi - mae'n rhaid bod y trefnwyr wedi cael cymaint o siom."

Advertisement

Er nad yw ar y cyngor bellach, ychwanegodd Mr Lloyd:

"Os o'n nhw'n teimlo bod cyn lleied wedi rhoi eu henw gerbron a bod e ddim yn mynd i fod yn broffidiol doedd dim llawer o ddewis gyda nhw."

Ifor Lloyd
Disgrifiad o’r llun, Mae Ifor Lloyd yn siomedig iawn ond yn dweud nad oedd dewis arall os oedd y gymdeithas yn credu "bod e ddim yn mynd i fod yn broffidiol"

Cynlluniau i nodi'r garreg filltir mewn ffyrdd eraill

Er fod y gymdeithas wedi canslo'r digwyddiad, dywedon nhw eu bod dal yn awyddus i ystyried ffyrdd eraill o nodi'r garreg filltir.

Felly maen nhw'n bwriadu bwrw ymlaen â chynlluniau i gynnal cystadleuaeth y beirniaid ifanc a oedd i fod i gael ei chynnal yn ystod y sioe.

Bydd y gymdeithas hefyd yn cysylltu â'r rhai hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad neu wedi'i noddi ynghylch trefniadau ad-dalu.

Prisiau cynyddol yn effeithio ar y gymdeithas

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, ychwanegodd Mr Lloyd ei fod yn meddwl

"mai yn 'neud ag arian oedd e', oherwydd o nhw ddim wedi cael digon o enwau gerbron i gystadlu ac felly oedd yr ochr ariannol yn dod yn bwysig"
.

"Ac wrth gwrs mae'r bobl sydd ar y cyngor bellach ma' 'da nhw gyfrifoldeb i ofalu ar ôl cyllid y gymdeithas yn ogystal."

"Mae'n anodd cymharu'r sioe hon a sioeau'r gorffennol.

"Ond i gymharu â'r nifer sy'n mynd i'r Sioe Frenhinol, wrth gwrs, wel, dim ond llond dwrn sy'n mynd.

"Ond ma' gymaint o ffactorau chi'n gweld - ma pris tanwydd wedi mynd fyny, ma' pris bwyd ceffylau wedi mynd fyny - ma' pob peth wedi mynd fyny a dim byd wedi mynd lawr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News