Mae Mari Grug wedi dweud bod cael ei hethol gan y bobl leol yn “golygu’r byd” iddi, wrth iddi ddechrau ei chyfnod fel llywydd Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ar ddiwrnod cynta’r Eisteddfod, dywedodd y cyflwynydd a’r llais cyfarwydd o Sir Benfro ei bod yn “anrhydedd enfawr” i ddal y teitl.
Y tro diwethaf i’r Eisteddfod ddod i’r ardal yn 2002, Mari oedd cyflwynydd y Flodeuged yn ystod y prif seremonïau.
Roces o Fynachlog-ddu?
Cafodd Mari ei magu ar fferm ym Mynachlog-ddu, ac mae ei gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal hon. Fe dderbyniodd ei haddysg yn Ysgol y Preseli cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna mynd ymlaen i weithio i’r cyfryngau.
Wrth siarad â Cymru Fyw fore Sadwrn, dywedodd:
“Ma' cael bod yn llywydd ar Eisteddfod y Garreg Las yn anrhydedd enfawr.
“Ma' cael fy newis gan y bobl leol, achos bo' fi yn roces leol, dwi'n roces o Fynachlog ddu yng ngogledd Sir Benfro, felly ma' cael fy newis ganddyn nhw yn golygu'r byd i fi.
“A ma' cael croesawu'r Eisteddfod i'r ardal arbennig yma, mae wedi bod yn sbel fowr ers i'r eisteddfod ymweld â'r ardal yma ddiwethaf, felly ma' cael cerdded ar y maes yma heddiw... fi wir yn teimlo mor gyffrous erbyn heddiw.”
Mae Mari yn cyflwyno Heno a Prynhawn da.

Er iddi fod yn cystadlu tipyn pan yn iau, bellach mae'n ymweld â'r Eisteddfod yn flynyddol gyda'i theulu.
“Wel fel arfer mae'r eisteddfod erbyn hyn wedi troi'n wythnos o wylie i ni fel teulu, ni'n dod yn y garafán i fwynhau, ambell i ddyletswydd falle fan hyn a fan 'co,
“Ond ma' eleni yn sicr am fod yn flwyddyn wahanol ond dwi'n ei groesawu fe ac yn ei glodfori e gyda dwylo agored.
“Dyw e' ddim yn digwydd yn aml iawn pan ma' steddfod yn dod i'ch patchyn chi, ond na, dwi'n edrych ymlaen at wythnos amrywiol, bishi, ond dwi hefyd yn gobeithio bydd amser i joio hefyd.”
Mae bod yn llywydd yn “anrhydedd enfawr”, medd Mari Grug.
Mae'n wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn cyflwyno Heno a Prynhawn da, wedi cyflwyno ystod o raglenni diwylliannol yn y gorffennol megis yr Urdd a'r Ŵyl Cerdd Dant ac yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru.
Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaeth Mari ddatgelu ei bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig a hithau ond yn 38 oed ar y pryd. Erbyn heddiw, mae'n byw gyda'r canser sydd wedi lledu i'w nodau lymff a'i hafu.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi bod yn derbyn triniaeth cemotherapi rheolaidd.
Licen i ddiolch i Mam a Dad?
Yn ystod seremoni agoriadol yr eisteddfod yn y pafiliwn brynhawn Sadwrn, cafodd Mari gyfle i gyflwyno araith. Fe soniodd am ei magwraeth yn Sir Benfro a’r holl gyfleoedd y cafodd o’r llefaru, i’r ensemblau lleisiol, i gwrdd â ffrindiau oes yn y brifwyl.
Ac wrth ddiolch i’r bobl bu’n ei helpu ar y daith, fe wnaeth hi ddiolch yn arbennig i’w rhieni.
“Licen i ddiolch i chi mam a dad am feithrin fy nghariad tuag at yr ŵyl arbennig hon.
“O'n i ddim yn mynd ar lot o wylie pan o'n i'n fach, ond oedd rhaid mynd i'r Sioe Fawr yn Llanelwedd a'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.
“O'n i mor lwcus i gael fy magu mewn ardal oedd yn rhoi gymaint o gyfleoedd i bobl ifanc, a fi'n credu 'dych chi ddim yn sylweddoli tan bo' chi'n rhiant yr ymroddiad a'r dylanwad mae'r bobl yna yn cael arnoch chi.”
Aeth yn ei blaen i sôn sut mae’r Eisteddfod yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’i bywyd a’i bod bellach yn mwynhau carafanio yn flynyddol gyda chriw o deuluoedd eraill.
Wrth gloi ei haraith, fe bwysleisiodd fod yr eisteddfod hon “wedi dod â phobl at ei gilydd yn sicr”, gan annog pawb i ymweld yr wythnos hon.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig?
Straeon perthnasol?
Cyhoeddi enillwyr prif wobrau celfyddydol Eisteddfod y Garreg Las
Creu arwyddion cynhwysol i roi croeso i bawb i'r Eisteddfod
Sefyll ar y Sgwâr: 'Byse Richard a Wyn wrth eu boddau'







