Cyhoeddi Enwau Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn ymestyn i fod yn ŵyl 7 diwrnod eleni.
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi enwau saith person fydd yn cael eu hanrhydeddu eleni yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn am eu cyfraniad arbennig i'r mudiad.
Mae'r mudiad yn cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn flynyddol.
Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld ag Ynys Môn ers 2004.
Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn fydd:
- Edward Morus Jones (Llangristiolus)
- Grês Pritchard (Llannerch-y-medd)
- Helen Evans (Talwrn)
- Rhian Lloyd Jones (Bodffordd)
- Alwen Jones (Amlwch)
- Ann Peters Jones (Caergybi)
- Derek Evans (Llannerch-y-medd)
"Mae'r saith sy'n cael eu hanrhydeddu eleni wedi rhoi blynyddoedd o gefnogaeth i'r Mudiad. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith yr Urdd, ac edrychwn ymlaen yn arw at gydnabod ymrwymiad a gwaith y pedwar mewn seremoni arbennig ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Sul, 24 Mai." - Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd
Am y tro cyntaf erioed, bydd Eisteddfod yr Urdd yn ymestyn i fod yn ŵyl 7 diwrnod eleni, ac yn cael ei chynnal yng Nghae Sioe Môn rhwng dydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Gwener, 29 Mai.

Alwen Jones, Amlwch
Daw Alwen Jones yn wreiddiol o Amlwch ac mae wedi ymwneud â'r Urdd mewn amryw o ffyrdd ers ei dyddiau yn Ysgol Syr Thomas Jones.
Cafodd Eisteddfod lwyddiannus iawn pan ddaeth yr Urdd i Borthaethwy yn 1976 gan ennill ar y Siarad Cyhoeddus, dod yn ail yng Nghystadleuaeth y Gadair, a dod yn drydydd yng Nghystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth.
Ar ôl symud yn ôl i Fôn, ymunodd ag Aelwyd yr Ynys gan ddechrau hyfforddi. Bu'n ysgrifennydd y Rhanbarth am chwarter canrif, a oedd yn cynnwys y cyfrifoldeb heriol o drefnu eisteddfodau sir. Hi hefyd oedd ysgrifennydd y Pwyllgor gwaith pan ddaeth yr Eisteddfod i Fôn yn 2004.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, teimla ei bod wedi cael modd i fyw fel aelod gweithgar o'r Pwyllgor Apêl Lleol yn Amlwch, gan gydweithio ag unigolion a mudiadau sydd, fel hithau, yn gwerthfawrogi cyfraniad yr Urdd at fywydau ieuenctid Cymru.
Ann Peters Jones, Caergybi
Yn enedigol o Bont-rhyd-y-bont, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd y Fali, Ysgol Uwchradd Caergybi a Choleg Cartrefle Wrecsam, lle enillodd ddiploma ALCM.
Wedi gyrfa ym myd addysg fel Pennaeth Cerdd yn Ysgol Gyfun Llangefni am bymtheg mlynedd, mae bellach yn gerddor llawrydd ac yn gweithio i Wasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn ac elusen dementia 'Forget me not'. Ers dros ddeugain mlynedd, mae hi hefyd yn dysgu llais a phiano yn breifat ac yn ymfalchïo yn llwyddiannau ei disgyblion yn genedlaethol.
Mae ei diddordebau yn cynnwys cyfansoddi caneuon i blant, ac mae'n hynod falch fod pedair o'r caneuon a gyd-gyfansoddodd gyda'i ffrind Delyth Wyn Jones wedi cael eu cynnwys yn nhestunau prifwyl yr Urdd eleni.
Derek Evans, Llannerch-y-medd
Mae Derek wedi ei fagu ar yr ynys, gan gael ei addysg gynradd yn Ysgol Bodorgan cyn mynd yn ei flaen i Ysgol Gyfun Llangefni. Dechreuodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Rhoscolyn yn 1978 ac yn y flwyddyn honno fe ddaeth yn rhan o Bwyllgor Cylch yr Urdd am y tro cyntaf.
Yn 2004 cafodd y fraint o gael ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Môn, profiad bythgofiadwy y mae'n ei drysori.
Mae Derek yn parhau i fod yn aelod ffyddlon o Bwyllgor Rhanbarth Ynys Môn ac wedi cadeirio'r Pwyllgor ers blynyddoedd bellach. Mae wedi gweld y mudiad yn mynd o nerth i nerth ar yr ynys o dan arweiniad sawl Swyddog Datblygu medrus.

Edward Morus Jones, Llangristiolus
Ac yntau wedi ei fagu yn Llanuwchllyn, sef ardal sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, doedd hi'n fawr o syndod i Edward ymaelodi yn gynnar iawn yn ei hanes. Roedd hynny bron i 75 mlynedd yn ôl. Daeth llu o gyfleoedd gwerthfawr iddo trwy'r Urdd ar hyd y blynyddoedd.
Cadeiriodd bwyllgorau Cylch a Sir y mudiad am flynyddoedd, gan ddod yn aelod o'r Cyngor am dros bum mlynedd ar hugain, gan arwain y Panel Dyngarol a drefnai'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da. Edward a arweiniodd un o sesiynau jamborî mawr cyntaf yr Urdd, a bu'n cyd-drefnu'r recordio ac yn perfformio ar y record hir, 'Caneuon Gwersyll', yng Nglan-llyn.
Roedd yn un o'r tîm bach a drefnodd i wahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Ynys Môn y tro diwethaf iddi ymweld yn 2004. Yn sgil ei swydd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, mentrodd ysgwyddo un swydd eithaf annisgwyl, sef trefnydd holl anghenion maes carafanau'r ŵyl!
Grês Pritchard, Llannerch-y-medd
Ers yn blentyn ifanc iawn breuddwydiai Grês am gael chwarae'r piano a dysgu plant bach. Cafodd ei thalent unigryw ei gydnabod wrth iddi hi gael ei hurddo gyda'r Wisg Werdd 1960 a'r wisg wen yn 2006. Bu'n gyfeilydd Côr Meibion y Traeth am 46 o flynyddoedd a chael ei anrhydeddu gyda'r MBE yn 2010. Yn ystod y cyfnod yma hefyd bu'n cyfeilio i Hogia Bryngwran - criw o gantorion oedd yn llenwi capeli a neuaddau cyngerdd gyda'u perfformiadau lliwgar.
Mae eisteddfodau'r Urdd wedi bod yn rhan bwysig iawn o'i gyrfa ac yn agos iawn at ei chalon.
Mae miloedd o blant a phobl ifanc wedi elwa o'i harweiniad cadarn. Byddai Ysgol gynradd Amlwch yn dod i'r brig yn gyson o dan ei harweinyddiaeth ac yna Ysgol gynradd Penysarn rhwng 1980 a 2015.
Helen Evans, Talwrn
Yn enedigol o Laneilian, mae Helen wedi ymgartrefu ers blynyddoedd lawer ym mhentref Talwrn ger Llangefni, efo'i gŵr, Gareth, a'r plant, Nia a Geraint.
Yn dilyn cyfnod yn gweithio yn Wrecsam, dychwelodd i Fôn ac i Ysgol Gyfun Llangefni lle bu'n gyfrifol am yr Urdd am dros ddeng mlynedd ar hugain. Ar hyd y blynyddoedd, bu'n rhan allweddol o Bwyllgor Cylch Cefni a Phwyllgor Rhanbarth Môn, ac am gyfnod bu'n Ysgrifennydd Eisteddfodau Rhanbarth Cynradd ac Uwchradd Môn.
Yn ystod yr 1980au roedd Helen yn un o griw o rieni a ailsefydlodd yr Aelwyd yn Nhalwrn, a fu'n boblogaidd iawn am flynyddoedd. Mae'r Urdd yn parhau'n bwysig iawn i Helen gan fod ei merch yn un o sefydlwyr ac arweinyddion Uwch Adran ac Aelwyd Yr Ynys ac Adran Bro Alaw.
Rhian Lloyd Jones, Bodffordd
Yn wreiddiol o Sir Feirionnydd, cafodd Rhian sylfaen ardderchog ym myd canu a chystadlu yn Adran yr Urdd Corwen, yn Ysgol y Berwyn ac yna yn Ysgol y Gader. Wedi cyfnod yn y Coleg Normal lle bu'n cyfeilio i gôr ac eisteddfod y coleg, symudodd Rhian i Fôn i'w swydd gyntaf fel athrawes yn Ysgol Llanfachraeth. Yma cafodd y cyfle cyntaf i hyfforddi nifer o blant i ganu yn unigol ac mewn partïon a chorau.
Mae Rhian yn falch o'r cyfleon a gafodd ac yn hynod o ddiolchgar i'r cenedlaethau o blant, ynghyd â chydweithwyr, am yr hwyl, y gefnogaeth a'r asbri.
Sefydlwyd Adran Bentref yn Bodffordd, ble mae Rhian yn byw, a bu'n un o'r hyfforddwyr a ddaeth â chryn lwyddiant i'r pentref dros y blynyddoedd.






