Skip to main content
Advertisement

Bardd a saer maen Hedd Bleddyn dies at 87

Bu farw’r bardd, saer maen a chyn-gynghorydd sir ym Mhowys, Hedd Bleddyn, yn 87 oed. Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol Sir Drefaldwyn.

·3 min read
Hedd Bleddyn

Roedd Hedd Bleddyn yn adnabyddus ym mywyd diwylliannol ei ardal - yn fardd, cyn-gynghorydd a chrefftwr cerrig beddi. Yn 87 oed bu farw'r bardd, saer maen a'r cyn-gynghorydd sir ym Mhowys, Hedd Bleddyn.

Yn wreiddiol o Lanbrynmair, roedd wedi ymgartrefu ym Mhenegoes ger Machynlleth ar ôl ymddeol. Roedd yn ffigwr adnabyddus ym mywyd diwylliannol a chyhoeddus Sir Drefaldwyn am ddegawdau, gan wasanaethu fel cynghorydd sir annibynnol dros ardal Llanbrynmair ar Gyngor Sir Powys am gyfnod.

Yn 15 oed gadawodd yr ysgol gan ddilyn yn ôl troed ei dad a dod yn saer maen ym musnes naddu cerrig beddi y teulu.

Roedd y cwmni yn Llanbrynmair wedi ei sefydlu'n wreiddiol ym 1918 gan T R Jones o Bennal, a chafodd ei brynu gan dad Hedd Bleddyn, I B Williams ym 1938.

Trosglwyddwyd y busnes i Hedd Bleddyn ei hun ym 1960, a'i fab Rhys Bleddyn sydd bellach yn rhedeg y cwmni.

Rhys a Hedd Bleddyn
Disgrifiad o’r llun, Hedd Bleddyn gyda'i fab Rhys, sydd bellach yn rhedeg y busnes teulu yn naddu cerrig beddi

Hedd Bleddyn gyda'i fab Rhys, sydd bellach yn rhedeg y busnes teulu yn naddu cerrig beddi

Ym 1995 cafodd ei ethol yn gynghorydd dros Lanbrynmair yn yr etholiad cyntaf i gyngor newydd Powys, a chynrychioli'r ward hyd at 2008.

Bu'n aelod o dîm Talwrn Maldwyn am flynyddoedd, ac roedd yn gyn-archdderwydd Eisteddfod Powys.

Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 2011, a chyhoeddodd ei hunangofiant yn 2013 o dan y teitl 'Dwyn i Gof a Dyna i Gyd'

Bu farw ei wraig Marian ym mis Mehefin eleni.

Advertisement
Hedd Bleddyn

Roedd yn dad i ddau o blant - Rhys a Nia – ac yn daid i bump o wyrion.

Dywedodd Aled Griffiths, cyfaill i Hedd Bleddyn a chadeirydd Eisteddfod Genedlaethol 2027, wrth BBC Radio Cymru ei fod yn

"yn fardd, yn gymeriad lleol hoffus iawn, ac yn ddyn busnes"

"Ond yn fwy na hynny, oedd o'n ddyn poblogaidd a dwi'n credu dyna sut 'dan ni yn ei gofio fo,"
meddai.

"Oedd Hedd yn un o'r bobl 'ma oedd yn gallu troi ei law at unrhyw beth a dyna sut 'dan ni yn ei gofio fo.

"Wrth gwrs, beth sydd yn taro rhywun ydi bod Hedd yn ddyn 'Steddfod mawr.

"Fydd y Babell Lên byth yr un peth heb Hedd Bleddyn, ma' hynny'n sicr, a beth sy'n glên ydi bod o wedi gallu dod yma i fwrlwm yr Eisteddfod ond bod o wedi ein gadael ni yn ystod y 'Steddfod hefyd.

"'Dan ni gyd yn meddwl am y teuluoedd yr wythnos yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Key Facts

  • Bu farw Hedd Bleddyn yn 87 oed.
  • Roedd yn fardd, saer maen, cyn-gynghorydd sir ym Mhowys a chyn-archdderwydd Eisteddfod Powys.
  • Roedd yn dod o Lanbrynmair ac yn byw ym Mhenegoes ger Machynlleth ar ôl ymddeol.
  • Cafodd ei ethol yn gynghorydd dros Lanbrynmair ym 1995 a gwasanaethodd hyd at 2008.
  • Cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 2011 a chyhoeddodd ei hunangofiant yn 2013.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News