Martin Huws yw enillydd Coron Eisteddfod y Garreg Las, a Fan[-]go oedd ffugenw'r gwaith buddugol. Eleni, roedd 41 wedi cystadlu am Goron Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, gyda'r dasg o gyfansoddi cerdd neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau ar y testun 'Adnabod'.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Martin Huws yn byw yn Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf, ers mwy na 30 mlynedd. Treuliodd ran helaeth ei yrfa'n y maes newyddiadurol, gan weithio i Golwg, y Western Mail, ac ITV Cymru, cyn ei benodi a threulio blynyddoedd fel uwch-newyddiadurwr ar wefan BBC Cymru Fyw.
Mae Martin wedi cyhoeddi dwy nofel, dwy gyfrol o straeon byrion, cyfrol o farddoniaeth a llyfryn am hanes Caerdydd. Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007 roedd ei nofel, 'Mae Heddwch yn Brifo', yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen.
Yn 2016 enillodd Gadair Gŵyl Aberteifi a Choron Eisteddfod Llambed ac yn 2017 fe ddaeth ei gyfrol o straeon byrion, 'Yr Awyr yn Troi'n Inc', yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 enillodd y gystadleuaeth cyfansoddi Dwy Fonolog Gyferbyniol ac yn 2024 yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf enillodd y gystadleuaeth cyfansoddi Sgript Gomedi.
How was the winning work described?
Damian Walford Davies a draddododd y feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid Gwynfor Dafydd a Nia Powell. Dywedodd fod gan y gystadleuaeth eleni "gryn gyfoeth – a hynny yn syniadol ac o ran crefft".
Wrth drafod gwaith Fan[-]go, dywedodd ei fod yn "gasgliad ysgytiol o ran thema, ac o ran crefft a chreadigrwydd beiddgar yr ymdriniaeth.
"Trafodir un o'r themâu mwyaf heriol posibl – thema ddirdynnol ac oesol, sef cam-drin ac ymyrraeth."
Ychwanegodd:
"Yr hyn a'n harweiniondd ni at Fan[-]go wedi trafodaeth bellach oedd y cytundeb fod gan ei hawen feiddgar a'i hymdriniaeth ddigyfaddawd â thema affwysol (ac affwysol newydd yn ein barddoniaeth) rym na ellid dianc rhagddo, ac nad oedd yn bosibl ei ddiystyru.
"Nid oedd y penderfyniad terfynol i bennu Fan[-]go yn fardd coronog Eisteddfod y Garreg Las yn teimlo fel cyfaddawd."
What else was happening at the Eisteddfod?
'Does dim geiriau': Urddo aelodau newydd i'r Orsedd. Roedd y Goron yn un o brif wobrau'r ŵyl, a chafodd ei chyflwyno gan deulu'r Parchedig W J Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro'r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal.
Cafodd y wobr ariannol o £750 ei rhoi gan bapur bro Y Cardi Bach er cof am eu cyn-olygyddion Mrs Rhoswen Llewellyn a'r Parchedig Euros Wyn Jones. Roedd hyn yn rhan o'r cydnabyddiaeth ehangach o waith a chyfraniad pobl a chymunedau lleol i'r digwyddiad.

Who designed the Crown?
Cafodd y Goron ei chynllunio a'i chreu gan Elen a Dylan Bowen, gŵr a gwraig, yn eu gweithdy yng Nghastellnewydd Emlyn. Dywedon nhw eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan yr hen ddihareb amaethyddol, 'Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, newyn dan y grug', sy'n cyfeirio at ansawdd gwahanol dirweddau.
Dywedodd Elen:
"Rydyn ni wedi ceisio cyfleu y tirwedd bryniog yng nghynllun y Goron. Ar fryniau'r Preselau mae cerrig unigol yn sefyll yn browd, ac rydyn ni wedi cynnwys hyn yn y Goron hefyd."
Dyma'r tro cyntaf i Elen a Dylan gynllunio a chreu Coron ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae'r ddau yn credu ei bod yn anrhydedd fawr, yn enwedig gan mai dim ond ers tair blynedd maen nhw wedi bod yn rhedeg eu cwmni gemwaith - Bowen Jewellery.
Mae gan y ddau eu rôl benodol yn y gwaith o gynllunio a chreu gemwaith - Elen yn cyfuno technegau gof aur traddodiadol gyda chelf gyfoes a Dylan yn gofalu am ochr dechnegol y gwaith a sicrhau bod pob darn yn strwythurol gadarn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







