Skip to main content
Advertisement

Ruby Evans wins Wales’ first gold medal at the Commonwealth Games

Ruby Evans, 19, won Wales’ first gold medal at the Commonwealth Games by finishing top in the women’s floor exercise in Glasgow.

·2 min read
Ruby Evans

Mae Cymru wedi ennill naw medal yn yr Alban hyd yma. Mae'r fabolgampwraig Ruby Evans wedi ennill medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

Daeth Evans, 19 oed, i'r brig yn yr elfen olaf o'r cystadlaethau gymnasteg yn Glasgow - y gwaith llawr. Abigail Martin o Loegr ddaeth yn ail, gyda Shantae-Eve Amankwaah o Loegr yn cipio'r efydd.

Daw'r fuddugoliaeth wedi i Evans gael ei gweld yn ei dagrau nos Wener, ar ôl gorffen yn chweched mewn cystadleuaeth unigol - a hynny wedi i Gymru orffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth tîm.

Dyma'r fedal aur gyntaf i Gymru ei hennill yn yr Alban, gan ychwanegu at ddwy fedal arian a chwe medal efydd.

Advertisement

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pa gyd-destun sydd tu ôl i'r fuddugoliaeth?

Daeth y fuddugoliaeth ar ôl i Evans gael ei gweld yn emosiynol nos Wener, pan orffennodd yn chweched mewn cystadleuaeth unigol. Roedd hynny ar ôl i Gymru orffen yn bedwerydd yn y gystadleuaeth tîm.

Pa mor bwysig yw'r fedal i Gymru?

Dyma'r fedal aur gyntaf i Gymru ei hennill yn yr Alban, ac mae'n ychwanegu at gyfanswm Cymru hyd yma yn y cystadlaethau hyn. Mae Cymru wedi ennill naw medal yn yr Alban hyd yma, gan gynnwys dwy fedal arian a chwe medal efydd.

Key Facts

  • Ruby Evans, 19 oed, enillodd aur yng nghystadleuaeth gwaith llawr y gymnasteg yn Glasgow.
  • Abigail Martin o Loegr ddaeth yn ail.
  • Shantae-Eve Amankwaah o Loegr enillodd yr efydd.
  • Mae Cymru wedi ennill naw medal yn yr Alban hyd yma: dwy arian a chwe efydd, ynghyd ag aur Evans.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News