Skip to main content
Advertisement

Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad dros y blynyddoedd

Golwg ar hanes Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad, o Hamilton 1930 i Birmingham 2022, wrth i Glasgow gynnal y gemau eleni.

·8 min read
Blaser, medal, Olivia Breen

Mae Tîm Cymru yn cystadlu mewn 10 camp yng Ngemau'r Gymanwlad eleni, sydd yn cael ei chynnal rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst yn Glasgow. Dyma'r 23ain tro i Gymru gymryd rhan yn y gemau; roedd Cymru'n un o'r 11 gwlad a oedd yn y Gemau cyntaf un yn ôl yn 1930, ac mae wedi cystadlu bob tro ers hynny.

Dyma gipolwg ar rai o ymddangosiadau Cymru yn y Gemau dros y blynyddoedd:

Cyhoeddi Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad

1930 - Hamilton, Canada

Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig oedd enw gwreiddiol y gemau, gyda'r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Hamilton, Canada ym mis Awst 1930. Dim ond 400 cystadleuydd o 11 gwlad a gymerodd ran yn y flwyddyn gyntaf. Daeth Cymru yn 7fed, gan ennill dwy fedal arian ac un efydd, oll gan y nofwraig Valerie Davies.

Dim ond tîm nofio gafodd ei anfon o Gymru draw i'r Gemau, ac fe gystadlodd ambell i athletwr - fel y rhedwr, Reg Thomas - ar ran Lloegr yn lle.

Medal 1930
Disgrifiad o’r llun, Medal cystadleuydd (anhysbys) i nodi'r Gemau cyntaf yn 1930

1938 - Sydney, Awstralia

Jim Alford, athro o Gaerdydd, a enillodd fedal aur gyntaf Cymru yn y Gemau, a hynny yn y ras 1 milltir.

Erbyn diwedd y gemau, roedd ail fedal aur wedi ei hennill, yn y bocsio, a medal arian yn y pwll. Gorffennodd Cymru yn 6ed.

Medal aur - blaen a chefn
Disgrifiad o’r llun, Medal aur Jim Alford

1958 - Caerdydd, Cymru

Roedd Caerdydd i fod i groesawu'r Gemau yn 1946, ond cafodd y rhain eu canslo, a Gemau 1942 cyn hynny, oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y brifddinas y cyfle o'r diwedd ym mis Gorffennaf 1958.

Enillodd Cymru 11 medal - y rhan fwyaf ohonynt o'r sgwâr bocsio. Roedd y rhan fwyaf o'r campau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, ond ar Lyn Padarn oedd y cystadlaethau rhwyfo, lle enillodd Cymru fedal efydd yn y gamp Pedwar heb Lywiwr (Coxless Four).

Baner a chwpan yn cofio Gemau 1958
Disgrifiad o’r llun, Baner a chwpan i gofio'r Gemau yng Nghaerdydd

Seremoni agoriadol
Disgrifiad o’r llun, Tîm Cymru yn cyrraedd yn gorymdeithio yn y seremoni agoridaol ym Mharc yr Arfau

1962 - Perth, Awstralia

Dwy fedal arian a phedair efydd ddaeth adref i Gymru o Awstralia; tair o'r medalau am godi pwysau. Roedd Cymru yn safle 13 o'r 35 gwlad a gystadlodd yn y Gemau, a gafodd eu cynnal ddiwedd Tachwedd.

Enillodd Cymru arian yn y gamp rhwyfo Pedwar heb Lywiwr. Dyma lun tracwisg Jeremy Luke (ail o'r chwith).

Dyma oedd y tro cyntaf i'r Gemau Paraplegig y Gymanwlad gael eu cynnal hefyd, a hynny ychydig wythnosau cyn Gemau'r Gymanwlad.

Tîm rhwyfo a thracwisg
Disgrifiad o’r llun, Enillodd Cymru arian yn y gamp rhwyfo Pedwar heb Lywiwr. Dyma lun tracwisg Jeremy Luke (ail o'r chwith)

1966 - Kingston, Jamaica

Enillodd Cymru saith medal y flwyddyn honno - gan ennill medalau aur, arian ac efydd am godi pwysau. Cafodd medal aur am saethu ei rhoi i John Vivian, 4ydd Barwn Abertawe.

Roedd llwyddiant hefyd i David Winters yn y Gemau Paraplegig pan enillodd ddwy fedal, ar ôl ennill ei gyntaf yn ôl yn Perth yn '62 mewn cleddyfaeth (fencing).

Daeth y Gemau Paraplegig i ben yn 1974 ar ôl cael eu cynnal bedair gwaith.

Bathodyn, medal a bathodyn ar flaser
Disgrifiad o’r llun, Rhaid o atgofion David Winters o gystadlu yn Jamaica

1970 - Caeredin, Yr Alban

Dyma oedd y gemau cyntaf i gael eu galw yn Gemau'r Gymanwlad, ar ôl cael eu galw yn Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad ers 1954.

Yn y gemau hyn yr enillodd Lynn 'The Leap' Davies ei ail fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn y Naid Hir, ar ôl ennill y gyntaf yn 1966.

Daeth Cymru yn 12fed yn y tabl, ar ôl ennill 12 medal, gyda phump wedi eu hennill yn y pwll.

Y bathodyn ar flaser tîm Cymru, a medal aur Lynn Davies
Disgrifiad o’r llun, Y bathodyn ar flaser tîm Cymru, a medal aur Lynn Davies

1978 - Edmonton, Canada

Nawfed oedd safle Cymru yn y gemau yn Edmonton, gan ennill wyth medal. Bowls Lawnt oedd prif gamp y Cymry y flwyddyn honno; daeth tair medal efydd yn ôl adref.

Enillodd Berwyn Price fedal aur yn y Clwydi 110m, gan wella ei ganlyniad yn 1974 yn Christchurch, lle daeth yn ail.

Medal a bathodyn ar flaser
Disgrifiad o’r llun, Medal efydd Anthony Feal yn y bocsio, a blaser aelod o'r tîm bowls, a enillodd dair medal efydd

Advertisement

1986 - Caeredin, Yr Alban

Roedd y Gemau yn llwyddiannus iawn i'r rhedwraig Kirsty Wade, a wnaeth y 'dwbl', gan ennill aur yn yr 800m a'r 1,500m, y fenyw gyntaf i wneud hynny o fewn yr un Gemau. Daeth medalau aur eraill Cymru o'r bowls lawnt a'r bocsio.

Yn safle 5 oedd Cymru ar ddiwedd y Gemau ar ôl ennill 23 medal; chwech aur, pump arian a 12 efydd. Un o enillwyr y medalau arian oedd y Colin Jackson 19 oed yn y Clwydi 110m.

Lynn Williams, Kirsty Wade, Debbie Bowker
Disgrifiad o’r llun, Kirsty Wade (canol) a ddaeth yn fuddugol yn y ras 1,500m, gan guro Debbie Bowker (arian) a Lynn Williams (efydd) o Ganada

1994 - Victoria, Canada

Medal aur ddaeth i Colin Jackson yn y Clwydi 110m y tro yma, ond hefyd medal efydd i Gymru, wrth i Paul Gray ddod yn 3ydd.

Roedd 128 yn sgwad Cymru y flwyddyn honno, a daethon nhw adref gydag 19 medal. Enillodd Gareth Hives dair medal efydd mewn codi pwysau.

Tony Jarrett, Colin Jackson, Paul Gray
Disgrifiad o’r llun, Tony Jarrett o Loegr ddaeth yn ail, Colin Jackson yn gyntaf a Paul Gray yn drydydd

2002 - Manceinion, Lloegr

Enillodd Cymru 31 o fedalau, gan gynnwys aur gan y seiclwr ifanc o Abertawe, Nicole Cooke; yr enillydd cyntaf erioed i Gymru yn y ras ar y ffordd.

Roedd hefyd yn ddigwyddiad llwyddiannus - ond yn ddiwedd cyfnod - i'r codwr pwysau, Dave Morgan; yr unig gystadleuydd erioed i ennill medal mewn chwe Gemau'r Gymanwlad, gan ddechrau pan oedd yn 17 oed yn 1982. Ym Manceinion, enillodd ddwy fedal aur ac un arian.

Daeth Iwan Thomas, Matt Elias, Jamie Baulch a Tim Benjamin â medal arian arall adref, a hynny yn y ras gyfnewid 4x400m.

Dyma'r flwyddyn y daeth chwaraeon anabl yn rhan o Gemau'r Gymanwlad, yn hytrach nac yn ddigwyddiad ar wahân fel sy'n digwydd mewn pencampwriaethau eraill.

Nicole Cooke, Jamie Baulch ac Iwan Thomas, a Dave Morgan
Disgrifiad o’r llun, Nicole Cooke, Jamie Baulch ac Iwan Thomas, a Dave Morgan gyda phum medal aur o Gemau'r Gymanwlad

2010 - Delhi, India

Cyfanswm medalau Cymru yn Delhi oedd 19. Enillodd Becky James a Jazz Carlin fedal arian a medal efydd yr un; y naill ar y beic a'r llall yn y pwll.

Ychwanegodd y codwr pwysau a chapten Tîm Cymru y flwyddyn honno, Michaela Breeze, fedal arian at yr aur enillodd ym Melbourne a'r arian ym Manceinion. Aeth ymlaen i fachu'r efydd yn 2014.

Enillodd y chwaraewr bowls, Robert Weale, fedal aur, 24 mlynedd ers ei aur gyntaf yng Nghaeredin yn 1986. Cafodd y fraint o gario'r Ddraig Goch yn y seremoni clo.

Arian a Michaela Breeze
Disgrifiad o’r llun, Darn arian a gafodd ei wneud gan y Bathdy Brenhinol ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi, a'r ymdrech a enillodd y fedal arian i Michaela Breeze

2018 - Arfordir Aur, Awstralia

Dyma oedd Gemau mwyaf llwyddiannus Cymru, gyda 36 o fedalau - 10 ohonynt yn rhai aur.

Cafodd bocswyr Cymru hwyl arni, gyda medalau aur i Lauren Price a Sammy Lee, arian i Rosie Eccles ac efydd i Mickey McDonagh. Enillodd Olivia Breen aur yn y naid hir-T38, ac efydd yn y 100m-T38. Olivia yw capten Tîm Cymru yn y Gemau yn Glasgow eleni.

Lauren Price, Rosie Eccles, Olivia Breen
Disgrifiad o’r llun, Lauren Price yn paratoi ar gyfer ei gornest, gyda Rosie Eccles a oedd eisoes wedi ennill ei medal arian, ac Olivia Breen yn dathlu ei medal efydd yn y 100m-T38

2022 - Birmingham, Lloegr

Y seiclwr, Geraint Thomas, a'r chwaraewr sboncen, Tesni Evans, oedd yn cario'r faner yn y seremoni agoriadol yn Birmingham. Enillodd Geraint yr efydd yn y ras unigol yn erbyn y cloc.

Aeth y sgwad yn ôl adref i Gymru gyda 28 medal, gan gynnwys aur i Aled Sion Davies ac efydd i Harrison Walsh yn y taflu disgen F44/F64.

Roedd hi hefyd yn Gemau llwyddiannus i'r seiclwr James Ball a ddaeth yn gyntaf yn y ras gwibio tandem ac yn ail yn y ras tandem yn erbyn y cloc, ac i'r efeilliaid Croft o Grymych yn y bocsio - enillodd Ioan fedal aur, ac i Garan, medal efydd.

Tesni Evans, Geraint Thomas, Aled Siôn Davies, Harrison Wales, James Ball a Matt Rotherham
Disgrifiad o’r llun, Y Ddraig Goch yn y seremoni agoriadol, llwyddiant i Aled Sion Davies a Harrison Walsh, a James Ball a'i beilot, Matt Rotherham, yn dathlu buddugoliaeth yn y gwibio

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

Aled Sion Davies yn 'credu mai dyma'r tro olaf i fi wisgo crys Cymru'

Efeilliaid o Grymych yn targedu teitlau wrth ddychwelyd i'r sgwâr focsio

Sut wnaeth y Cymry yng Ngemau Olympaidd Paris 1924?

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News