Ysgrifennu yw'r 'therapi gorau posib' i ddyn sy'n wynebu heriau bywyd
Dywedodd Andrew Thomas mai'r
"therapi mwya' a gorau i fi"oedd ysgrifennu'r llyfr.
Yn 2025 roedd Andrew Thomas wedi cyrraedd beth mae'n ei ddisgrifio fel
"croesffordd yn ei fywyd".
Roedd yn wynebu canser a chyflwr ffibromyalgia, sy'n achosi poen difrifol a allai fod wedi golygu y byddai'n rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn.
Wrth iddo gymryd seibiant o'i waith i geisio gwella, dechreuodd ysgrifennu am brofiadau ei fywyd, o'r dwfn i'r doniol a phopeth yn y canol.
Y broses yna, meddai, wnaeth iddo
"ddeall pa mor drawmatig yw rhai o'r pethe 'di bod yn fy mywyd i", ac mae nawr yn dweud mai ysgrifennu yw'r
"therapi gorau posib".

Bydd y gyfrol o 50 o straeon o'i fywyd yn cael ei chyhoeddi ar ei ben-blwydd yn 50 - hanesion
"mae lot o bobl wedi cael sioc"o'u clywed.
'Ysgrifennu wedi newid fy mywyd'
Symudodd Andrew, sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, i Lundain yn 1998 gan weithio ym myd ffasiwn gydag artistiaid fel y cynllunydd Hussein Chalayan.
Bu'n gweithio ar brosiectau fel lansio persawr newydd, cynllunio dillad a hyd yn oed clawr albwm i Kylie Minogue.
Aeth ymlaen i weithio gyda brandiau fel Berghaus a Canterbury, a bellach mae'n gynllunydd creadigol gyda Google.
Ond ochr yn ochr â llwyddiant yn ei yrfa, mae Andrew hefyd wedi gorfod wynebu heriau mawr.
"Mae lot o bobl wedi cael sioc o glywed rhai o storis fy mywyd i,"meddai Andrew.
Fe gafodd ddiagnosis o salwch difrifol yn ei arddegau.
"Trwy bywyd fi dwi 'di bod yn sâl, ac roedd rhaid i fi weithio yn fwy caled oherwydd hyn a chanolbwyntio ar be' o'n i yn gallu 'neud yn dda sef bod yn greadigol,"meddai.
"Hyd yn oed yn y blynydde' diwetha' pan fi 'di bod yn really sâl gyda chanser ac ati, fi 'di byw mewn ffordd greadigol yn fy ngwaith a gyda fy nheulu, a nawr ma' 'sgrifennu llyfr wedi newid fy mywyd i."
Yn y pedair blynedd diwethaf mae wedi wynebu math o melanoma, canser y croen, sy'n dychwelyd dro ar ôl tro.
Mae wedi cael llawdriniaethau cymhleth a chemotherapi, ac ar hyn o bryd mae'n disgwyl am lawdriniaeth fawr arall fydd yn golygu ailadeiladu rhan o'i wyneb.
"Mae'r canser wedi newid persbectif fi ar fywyd,"meddai.
"Fi'n trio canolbwyntio nid ar y salwch ond cymryd yr egni o'r salwch a throi e mewn i rywbeth mwy positif. Fi yn berson positif."
'Mae gan bawb ei stori'
Llynedd pan oedd Andrew yn dioddef yn fwy gyda'r canser a ffibromyalgia, roedd rhaid camu'n ôl.
"Es i drwy'r flwyddyn yn dweud wrth bobl yn gwaith 'Fi yn ok'."
"Ond roedd pobl yn gwaith yn dweud wrtha i bod canser 'da fi, bod gyda fi'r cyflwr ofnadwy 'ma sy'n achosi poen difrifol i fi, a hefyd bod babi bach gyda fi, a bod angen i fi gymryd peth amser bant o gwaith."
Yn y diwedd fe wrandodd, a chymryd hoe.
"Fe wnaeth hwnnw roi egni i fi a newid y ffordd fi yn edrych ar fywyd a dyna pryd nes i ddechrau meddwl am ddodi fy stori lawr ar bapur mewn llyfr."
Mae'n disgrifio ei fywyd fel
"rollercoaster", ac yn siarad yn onest am ei brofiadau sy'n amrywio o ddigalondid llwyr i adegau o orfoledd.
"Mae straeon amdana i yn cwympo i gysgu yn reidio beic, mae straeon amdana i yn cael sgwrs hir swreal am rygbi Cymru gyda Keanu Reeves,"meddai.
Ond hefyd mae digwyddiadau difrifol a gafodd effaith fawr arno, fel cael ei drywanu ar ôl gwylio band The Stone Roses yn Llundain.
"Daeth dyn ato fi a thrio mynd a'm waled, ac fe ges i fy nhrywanu yn y stumog.
Doedd e ddim rhy ddwfn, ond i fi roedd hwnna just yn fricsen arall yn y wal o adeiladu fy mywyd."
Mae'n sôn am gyfnodau ar hyd ei fywyd sydd wedi gadael eu hôl, gan gynnwys pan oedd ganddo fath o epilepsi oedd yn achosi i'w galon stopio.
"Fi yn cofio bod mewn clwb a ges i ffit a bues i farw ar y dancefloor a bu rhaid adfywio fi."

Ar hyn o bryd mae Andrew yn derbyn therapi yn wythnosol, sy'n
"help massive i fi".
Ond dywedodd mai'r
"therapi mwya' a gorau i fi"oedd ysgrifennu'r llyfr.
"Mae lot o bobl wedi cael sioc o glywed rhai o storis fy mywyd i.
Wrth 'sgrifennu nhw lawr fi wedi deall pa mor drawmatig yw rhai o'r pethe 'di bod yn fy mywyd i."
Wrth edrych ymlaen at weld ei lyfr yn cael ei gyhoeddi mae'n dweud fod gan
"bawb ei stori, ond mae yn dibynnu sut y' chi yn dweud y stori yna".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







