Bu farw Meg Draper o Meningitis B y llynedd
Mae rhieni myfyriwr a fu farw o Meningitis B yn mynegi pryder y gallai achos tebyg i'r un yng Nghaint ddigwydd os na fydd y brechlyn MenB yn cael ei gyflwyno'n ehangach.
Bu farw Meg Draper, merch 18 oed o Bont-y-pŵl, Torfaen, o Meningitis B tra'n astudio ym Mhrifysgol Bournemouth ym mis Hydref 2025.
Roedd Meg wedi cael brechlyn yn erbyn mathau A, C, W ac Y o lid yr ymennydd pan oedd hi'n 14 oed drwy gynllun brechu'r GIG, ond ni chafodd frechlyn MenB gan fod y brechlyn hwn ar gael yn unig i blant a anwyd ar ôl 2015.
Daeth marwolaeth Meg fisoedd cyn achos difrifol o MenB yng Nghaint, a arweiniodd at farwolaeth dau berson ifanc. Wedi hynny, gofynnodd Llywodraeth y DU i'r Pwyllgor Cydweithredol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ailystyried cymhwysedd brechlynnau llid yr ymennydd ar gyfer pobl ifanc.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ei bod yn bwysig i rieni wybod nad yw brechlyn MenB ar gyfer babanod, na brechlyn MenACWY ar gyfer pobl ifanc, yn amddiffyn rhag pob math o haint meningococcal nac yn erbyn pob haint a all achosi llid yr ymennydd.

'Fel ein bod ni'n gwastraffu amser y doctor'
Roedd Meg yn fenyw ifanc boblogaidd a mwynhaodd chwaraeon a bywyd cymdeithasol fel myfyriwr. Un noson, dywedodd wrth ei rhieni ei bod yn teimlo'n flinedig a diegni.
O fewn 24 awr, gwaethygodd ei symptomau gan gynnwys gwres, cur pen, chwydu a brech. Cafodd ei chludo gan ffrind i uned frys Ysbyty Brenhinol Bournemouth, ond dywedodd Helen a Lee Draper fod nyrs wedi "gwasgu botwm na" ar gyfrifiadur pan gafodd ei holi am sepsis, cyn i Meg gael ei gyrru yn ôl i'w llety yn y brifysgol.
Teithiodd Helen a Lee o dde Cymru i Bournemouth i fynd â Meg yn ôl i'r uned frys.
"Yn syth, roedd fel ein bod ni'n gwastraffu amser y doctor ac roedd yn eithaf swrth gyda Meg," meddai Helen.
"Pan oedd hi wedi drysu ac yn methu cofio ei dyddiad geni roedd e wir yn rhwystredig. Gofynnodd iddi dair gwaith beth oedd ei dyddiad geni, ac edrychodd arna i ac roedd rhaid i fi ateb."
Dywedodd Helen fod y meddyg wedi dweud fod y symptomau'n "ddim byd sinistr", ac y dylai Meg fynd adref i orffwys.
Yn ddiweddarach penderfynodd Helen a Lee fynd â Meg yn ôl i Gymru, ond ar y ffordd gwaethygodd ei symptomau ac fe gafodd ei derbyn i Ysbyty Southmead ym Mryste, lle bu farw.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth GIG Dorset:
"Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Megan. Fodd bynnag, gan ein bod yn dal i aros am y cwest i'w marwolaeth, ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Pwy sy'n gymwys am frechlyn MenB?
Mae brechlyn ar gyfer straen meningitis A, C, W a Y yn cael ei gynnig i bobl ifanc yng Nghymru a Lloegr am ddim. Mae brechlyn MenB ar gael gan y GIG i blant a anwyd ar ôl Mai 2015, gan eu bod yn cael eu hystyried â'r risg fwyaf.
Ar gyfer plant hŷn neu oedolion, mae brechlyn neu bigiad atgyfnerthu ar gael yn breifat am tua £220.
Yn 2014, daeth y JCVI i'r casgliad na fyddai brechu pobl ifanc rhag MenB yn "gost effeithiol".
Mae Helen a Lee'n mynegi pryder y gallai achosion fel yng Nghaint ddigwydd eto os na fydd brechlyn MenB ar gael i bobl 15-24 oed ar y GIG.
Yn yr wythnosau ar ôl marwolaeth Meg, cynhaliodd meddygfa ar gampws Prifysgol Bournemouth dri chlinig brechu, ond roedd y brechiad a gynigiwyd yn erbyn MenACWY, nid MenB.
"Cafodd dim ei ddweud wrth rieni na myfyrwyr fod Meg wedi marw o MenB ac na fyddai'r brechiad hwn yn eu hamddiffyn rhag MenB," meddai Helen.
"Mae'n eithaf peryglus mewn ffordd, y wybodaeth anghywir a'r camarwain hynny. Byddai'r myfyrwyr hynny wedi meddwl yn naturiol y bydden nhw'n iawn ac yn mynd ati i fyw eu bywyd fel yr arfer."
Dywedodd Prifysgol Bournemouth nad oedd y feddygfa ar y campws yn gallu darparu brechlyn MenB, ond ychwanegodd fod MenACWY yn frechiad sy'n gallu achub bywyd.
"Mae ein cyngor iechyd i fyfyrwyr yn ei gwneud hi'n glir bod angen iddyn nhw gael cymorth meddygol ar unwaith os ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau llid yr ymennydd, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael brechiad," meddai llefarydd.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU nad oedd brechlyn MenB wedi'i gynnig i fyfyrwyr yn Bournemouth gan mai "achos sengl o lid yr ymennydd" oedd marwolaeth Meg, gan ychwanegu ei fod yn cydymffurfio'n llawn â'i ganllawiau ei hun.
Dywedodd fod cyfoedion agos Meg wedi cael gwrthfiotigau.
'Gwybodaeth yn anhygoel o wael'
Dywedodd Lee fod "dryswch" tebyg wedi bod yn ystod achosion diweddar yng Nghaint, a arweiniodd at farwolaeth myfyriwr 21 oed o Brifysgol Caint a Juliette, disgybl chweched dosbarth yn Faversham.
"Roeddech chi'n gallu gweld faint o ddryswch oedd o'r cychwyn cyntaf, nid yn unig gan rieni a myfyrwyr ond hefyd yn y wasg yn ehangach," meddai Lee.
"Mae'r dryswch hynny'n deillio o'r diffyg gwybodaeth a chanllawiau yn gyffredinol ar MenB, sy'n mynd yn ôl flynyddoedd. Fe wnaethon nhw'r penderfyniad i beidio â brechu yn erbyn MenB ddegawd yn ôl.
"Hyd yn oed nawr, fi'n gwybod bod llawer o wefannau'n cael eu diweddaru, ond os edrychwch chi o gwmpas mae faint o wybodaeth a pha mor glir yw e dal yn anhygoel o wael."
"Mae angen dysgu gwersi," ychwanegodd Helen.
Dywedodd Helen a Lee fod Meg wedi cael ei gwrthod gan yr uned frys ddwywaith cyn iddi farw.

Dywedodd UKHSA fod taflenni i bob rhiant a myfyriwr yn nodi'n "glir iawn nad yw MenACWY yn amddiffyn rhag MenB", gan ychwanegu bod eu taflen am y brechlyn MenACWY hefyd yn egluro "na fydd yn eich amddiffyn rhag pob math o glefyd meningococcal, fel MenB, ac felly mae'n dal yn bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau".
Ychwanegodd fod eu cyfathrebu dyddiol ar achosion yng Nghaint hefyd yn "glir iawn o'r cychwyn cyntaf".
Dywedodd Dr Mary Ramsay, dirprwy gyfarwyddwr rhaglenni iechyd cyhoeddus UKHSA:
"Roedd yn ddrwg iawn gennym glywed am farwolaeth y fenyw ifanc yma.
"I bob rhiant, mae'n bwysig gwybod nad yw'r brechlyn MenB ar gyfer babanod na'r brechlyn MenACWY ar gyfer pobl ifanc, a gafodd eu cyflwyno yn 2015, yn eu hamddiffyn rhag pob math o haint meningococcal nac yn erbyn pob haint a all achosi llid yr ymennydd.
"Dyna pam ei bod mor bwysig bod pawb yn gwybod y symptomau i fod yn wyliadwrus ohonynt, gan y gall triniaeth gynnar achub bywydau."
Dywedodd Helen a Lee nad oedden nhw'n gwybod am frechlyn MenB cyn i Meg farw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru:
"Rydym yn cymryd cyngor am raglenni brechu gan y JCVI. Gofynnwyd i'r JCVI ailystyried cymhwysedd ar gyfer brechlynnau llid yr ymennydd yn sgil yr achosion diweddar yng Nghaint.
"Yn dilyn yr achosion yng Nghaint, mae adnoddau a gwybodaeth wedi cael eu rhannu gyda sefydliadau addysg uwch a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau eu bod yn chwilio am arwyddion llid yr ymennydd ac yn gwybod beth i'w wneud mewn ymateb."
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru y dylai gweinidogion ystyried ymestyn mynediad at frechlyn MenB i bobl ifanc a myfyrwyr prifysgol.
Yn ôl Plaid Cymru, mae'n rhaid i Gymru fod yn ymwybodol ac yn effro i fygythiadau iechyd cyhoeddus ac anogodd y llywodraeth a'r GIG i addasu'n gyflym a gweithredu ar dystiolaeth wyddonol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig:
"Os yw'r cyngor meddygol arbenigol yn glir y byddai ymestyn y brechlyn MenB i bobl ifanc yn atal salwch difrifol a marwolaethau, yna ni ddylai Llywodraeth Cymru oedi cyn gweithredu."
Mae Reform a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




