Skip to main content
Advertisement

Pryder am Effaith Ffliw Ceffylau ar Sioeau Amaethyddol yr Haf

Mae pryder cynyddol ynghylch effaith ffliw ceffylau ar sioeau amaethyddol yr haf wedi arwain at ganslo adran geffylau Sioe Amaethyddol Pontargothi. Mae 68 achos wedi cael eu cadarnhau ers mis Mawrth, gyda brechu a mesurau bioddiogelwch yn cael eu hargymell yn gryf.

·5 min read
Ceffyl

Pryder am Effaith Ffliw Ceffylau ar Sioeau Amaethyddol yr Haf

Mae pryder cynyddol ynghylch effaith ffliw ceffylau ar sioeau amaethyddol yr haf wedi codi yn sgil cynnydd sylweddol mewn achosion o'r afiechyd.

Dros y penwythnos, cadarnhaodd Sioe Amaethyddol Pontargothi na fydd adran geffylau yn cael ei chynnal yn y sioe ar ddiwedd mis Mai.

Erbyn hyn, mae 68 achos wedi cael eu cadarnhau o ffliw ceffylau ar draws 33 sir yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ers diwedd mis Mawrth, yn ôl y Tîm Gwyliadwriaeth Clefydau Heintus Ceffylau.

Mae ffliw ceffylau yn afiechyd heintus iawn sy'n lledaenu'n gyflym ymhlith ceffylau.

Er bod brechiad ar gael, gall ceffylau sydd wedi cael eu brechu drosglwyddo'r afiechyd i rai heb gael brechiad.

"Roedd yna leihad mawr yn nifer y ceisiadau eleni oherwydd pryder ymhlith perchnogion," meddai Mathew Jones, Cadeirydd Sioe Amaethyddol Pontargothi.

Mathew Jones
Disgrifiad o’r llun, Yn ôl Mathew Jones, Cadeirydd Sioe Amaethyddol Pontargothi, roedd yna leihad mawr yn nifer y ceisiadau eleni oherwydd pryder ymhlith perchnogion

Yn ôl Mathew Jones, er nad yw ffliw ceffylau fel arfer yn salwch angheuol, mae'n achosi twymyn, peswch a llesgedd i'r ceffylau sy'n dioddef.

"Mae lot o drafod wedi bod ers wythnosau bellach ond nos Wener ddiwethaf fe wnaethon ni benderfynu tynnu'r plwg ar yr adran geffylau eleni oherwydd doedd dim lot o bobl wedi entro oherwydd y ffliw a hefyd roedd e'n ymledu go gloi yn yr ardal," ychwanegodd.

"Y peth gorau i ni wneud oedd i stopio fe cyn iddo ymledu ymhellach. Roedden ni lawr tua 85% ar rifau y llynedd.

"Ni'n aml yn cael dros 300 o geffylau 'ma ar ddiwrnod sioe a hyd yn hyn, dim ond cyrraedd 50 wnaethon ni."

Sioe Amaethyddol Pontargothi

Milfeddygon sy'n cynghori'r pwyllgor wedi argymell na fyddai'n briodol cynnal cystadlaethau i geffylau eleni.

"Ni'n lwcus iawn i gael milfeddygon yn rhan o'r sioe fan hyn. Roedd lot o achosion a hefyd lot o achosion yn mynd heb eu reportio," meddai Mathew Jones.

"Eu barn nhw oedd cael bennu gydag adran y ceffylau eleni. Mae fe'n gallu bod yn yr awyr am filltir a hanner felly mae risg i geffylau sydd yn byw yn yr ardal a heb fynychu'r sioe. Mae llawer o bobl wedi cysylltu i ddiolch i ni am ganslo."

Er hynny, bydd y sioe yn parhau fel arfer gyda dosbarthiadau i wartheg, defaid, alpacas a geifr.

"Mae'r iardiau i gyd nawr, lot ohonyn nhw yn yr ardal ac yn ne Cymru, wedi eu cau lawr," meddai Shan Cothi, cyflwynwraig a chantores sydd â thri cheffyl, dau ohonynt yn cael eu cadw ar iard yn Sir Gaerfyrddin.

Advertisement
Shan Cothi
Disgrifiad o’r llun, "Mae'r iardiau i gyd nawr, lot ohonyn nhw yn yr ardal ac yn ne Cymru, wedi eu cau lawr," meddai Shan Cothi

"Does yna ddim digwyddiadau a dim symudiad ceffylau. Hwnna yw'r unig ffordd i leihau'r risg o'r haint yma yn cydio.

"Chi ddim eisiau fe. Chi ddim eisiau eich ceffyl i gael y ffliw neu strangles ac mae un ffurf arall sydd yn fwy niwrolegol.

"Y peth yw mae'n mynd i effeithio ar y digwyddiadau a thymor y sioeau. 'Sdim bob ceffyl wedi cael y pigiad...

"Mae'r ceffylau i gyd yn cario'r haint ond mae rhai sydd yn cael y pigiad ddim yn datblygu'r symptomau mor wael. Os 'wnewn ni rhywbeth nawr mae yna rywfaint o obaith y bydd tymor y sioeau ar ôl."

Mae'n ofynnol i bob ceffyl sy'n mynychu Sioe Frenhinol gael eu brechu yn erbyn ffliw ceffylau, meddai Aled Jones, Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

"Ers 2019, mae hi'n angenrheidiol i bob ceffyl sy'n dod i'r sioe gael eu brechu yn erbyn ffliw ceffylau," meddai.

"Fe fyddwn ni yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn ofalus a chefnogi cystadleuwyr sydd yn arddangos ceffylau wrth baratoi ar gyfer y sioe ym mis Gorffennaf."

Aled Jones
Disgrifiad o’r llun, Mae'n angenrheidiol i bob ceffyl sydd yn mynd i'r Sioe Frenhinol gael eu brechu yn erbyn ffliw ceffylau, meddai Aled Jones

Cyngor i Atal Lledaeniad Ffliw Ceffylau

  • Sicrhau bod brechiadau'n gyfredol
  • Monitro arwyddion clinigol cynnar megis peswch, hylif o'r trwyn, twymyn a llesgedd
  • Gweithredu mesurau bioddiogelwch llym
  • Ynysu ceffylau newydd gyrraedd a rhai sydd amheuir eu bod yn ddioddef o'r ffliw yn brydlon

'Annog Pobl i Fod yn Wyliadwrus'

Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd eu bod yn "ymwybodol o'r cynnydd mewn achosion o ffliw ceffylau".

"Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus am arwyddion o glefyd a chysylltu â'u milfeddyg os oes ganddynt bryderon.

"Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac Awdurdodau Lleol yn gwneud penderfyniadau am iechyd a lles anifeiliaid yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

"Os ydynt yn credu bod digwyddiad yn peri risg rhy uchel, gallant ddewis peidio â rhoi trwydded.

"Brechu yw'r ffordd bwysicaf o leihau risg ac effaith ffliw ceffylau. Mae bioddiogelwch a hylendid da yn allweddol i atal ei gyflwyno a'i ledaenu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News