Skip to main content
Ad (425x293)

Hyfforddwr o Wynedd yn 'flin' ar ôl i gwmni ddefnyddio ei luniau heb ganiatâd

Hyfforddwr ffitrwydd o Wynedd, Sion Monty, yn rhybuddio am ddefnyddio ei luniau heb ganiatâd gan gwmni lles i hyrwyddo gwasanaethau, gan achosi ymddiheuriad cyhoeddus gan y cwmni.

·3 min read
Llun Sion Monty cyn (chwith) ac ar ôl (dde) ei drawsnewidiad

Hyfforddwr ffitrwydd o Wynedd yn rhybuddio am ddefnyddio lluniau heb ganiatâd

Sylweddolodd Sion Monty bod cwmni arall wedi defnyddio llun o'i drawsnewidiad er mwyn hyrwyddo eu gwasanaethau nhw.

Mae hyfforddwr ffitrwydd o Borthmadog yn rhybuddio pobl i "beidio coelio pob dim maen nhw'n gweld ar-lein" ar ôl i gwmni lles ddwyn ei luniau a'u defnyddio i geisio denu cwsmeriaid newydd.

Pan welodd Sion Monty, 38, ei luniau ef o'i drawsnewidiad ffitrwydd yn cael eu defnyddio er mwyn hyrwyddo busnes lles, nad oedd erioed wedi'i ddefnyddio, roedd "yn flin".

Ond tyfodd ei ddicter ar ôl iddo gwestiynu'r defnydd o'i luniau heb ei ganiatâd a derbyn ymateb oedd yn honni bod un o hyfforddwr y cwmni wedi hyfforddi Sion, a hynny er iddo erioed weithio gyda nhw.

Yn fuan ar ôl hynny fe wnaeth y cwmni - Longevity Clinic - ddileu lluniau Sion o'u gwefan, gan hefyd ymddiheuro iddo.

Mae perchennog y cwmni hefyd wedi ymddiheuro yn gyhoeddus am y camgymeriad, gan ddweud bod yr hyfforddwr oedd wedi danfon y lluniau ato wedi colli ei swydd.

Mae BBC Cymru hefyd wedi gofyn i'r cwmni am ymateb.

'Yr holl beth yn neud fi'n rili flin'

Yn gorffluniwr llwyddiannus, hyfforddwr, perchennog campfa ym Mhenrhyndeudraeth, a thad i blentyn saith oed, mae Sion Monty wedi creu enw i'w hun yn y byd ffitrwydd.

Dechreuodd hyfforddi yn 2013, ac erbyn hyn mae ganddo bron i 240,000 o ddilynwyr ar Instagram.

Yn 2018, ar ôl genedigaeth ei blentyn, rhoddodd bwysau ymlaen, ac yn fuan ar ôl hynny fe benderfynodd golli'r pwysau a gweithio ar ei ffitrwydd eto.

Ad (425x293)

Postiodd fideo ar YouTube yn dangos ei drawsnewidiad, gan ddenu miliynau o wylwyr.

Rhannodd lun o'r trawsnewid ar Instagram hefyd, a dyna'r union lun y gwelodd ar dudalen cwmni arall dros y penwythnos.

"Mae boi sy'n reit boblogaidd yn y sin lles a ffitrwydd sydd efo bron 500,000 o ddilynwyr ar Instagram, a dyma lun fi ar Instagram fo," meddai Sion wrth BBC Cymru Fyw.
"Maen nhw'n gwerthu wellbeing programmes am $35,000 ac maen nhw 'di bod yn defnyddio lluniau fi i werthu'r programmes yma, ond dwi erioed 'di 'neud dim byd efo'u cwmnïau nhw o'r blaen.
"Dwi erioed 'di cyfarfod o, erioed di defnyddio services fo."

O lysho i'r gym: Trawsnewidiad corffluniwr o Port

Gwaith cwmni o Gaernarfon yn cael ei werthu ar-lein heb ganiatâd

Cwmnïau'n arddangos logo heb ganiatâd

Penderfynodd Sion gysylltu gyda pherchennog y cwmni trwy ei gyfrif Instagram.

"Nes i gysylltu efo fo yn cwestiynu pam bod o'n defnyddio lluniau fi ac yn gofyn iddo fo dynnu nhw off.
'Naeth o yrru neges yn ôl o yn dweud, 'be ti'n sôn am, un o hyfforddwyr ni naeth hyfforddi'r person yma'.
Dwi ddim yn meddwl oedd o'n sylweddoli mai fi oedd y person yn y llun, so, wrth gwrs mae o'n dweud clwyddau.
Mae o jyst yn dweud celwydd wrth bobl. Mae'r holl beth jyst yn 'neud fi'n rili flin."

'Annheg i'r rhai sydd wir yn gwneud y gwaith'

Erbyn hyn mae'r cwmni wedi cymryd llun Sion oddi ar y cyfryngau cymdeithasol a'u gwefan.

Ond, mae'r hyn sydd wedi digwydd yn rhwystredig i Sion.

"Mwy na dim byd dwi am i'r boi dysgu gwers fo, ond hefyd codi ymwybyddiaeth i bobl beidio coelio pob dim maen nhw'n gweld ar-lein.
"Nid dyma'r tro cyntaf mae hwn wedi digwydd i fi ac mae'n siŵr bod 'na sawl person yn 'neud er mwyn gwneud arian.
"Mae'n annheg i'r rhai sy' wir yn gwneud y gwaith ac yn ceisio helpu pobl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News