Skip to main content
Advertisement

Gwasanaeth Coffa Sgandal Gwaed Yn Dod â Heddwch i Deuluoedd

Gwasanaeth coffa yn Llundain i goffáu'r rhai a effeithiwyd gan y sgandal gwaed heintiedig, gyda dros 30,000 o bobl wedi derbyn gwaed heintiedig yn y 70au a 80au, gan gynnwys teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.

By The UK Pulse Editorial Team··3 min read·How we work
Rachel McGuinness yn 2024

Gwasanaeth Coffa i'r rhai a effeithiwyd gan y sgandal gwaed heintiedig

Mae gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ddydd Mawrth yn Llundain i goffáu'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y sgandal gwaed heintiedig.

Mae ystadegau'n dangos bod dros 30,000 o bobl wedi derbyn gwaed heintiedig yn ystod y 1970au a'r 1980au, gyda dros 3,000 wedi marw o ganlyniad.

Bu farw tad Rachel McGuinness, Christopher John Thomas, yn 1990 ar ôl cael HIV o ganlyniad i dderbyn gwaed heintiedig.

Roedd Christopher yn athro yng Nghaerdydd, a chafodd driniaeth yn wreiddiol gan yr Athro Arthur Bloom yn y brifddinas, cyn cael gofal gan ymgynghorydd ym Mangor ar ôl iddo ef a'i wraig symud i Ben Llŷn.

"Mae'r gwasanaeth yn gydnabyddiaeth i'r gymuned fod yna bobl wedi marw a bod cam wedi bod yn ein herbyn ni," medd Rachel McGuinness.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan St Paul's yn Llundain.

Ym mis Mai 2024, nododd ymchwiliad cyhoeddus chwe blynedd o hyd "gatalog o fethiannau" a dod i'r casgliad y gellid bod wedi "osgoi'r sgandal i raddau helaeth".

Sgandal gwaed: 40 mlynedd o aros am atebion

Dywedodd Rachel fod cynnal y gwasanaeth yn rhywbeth pwysig iawn ac yn rhywbeth cadarnhaol.

Er nad yw Rachel ei hun yn gallu mynychu, bydd ei chefnder yn cynrychioli'r teulu yn y gwasanaeth.

"Dwi'n gobeithio y bydd o'n dod â rhywfaint o heddwch i'r bobl sy'n gallu mynd i'r gwasanaeth," meddai Rachel.

"Fydd o'n ddiwrnod i gofio am y bobl wnaeth farw a hefyd yn adlewyrchiad."

Bu farw tad Rachel McGuinness yn 1990
Disgrifiad o’r llun, Rachel McGuinness gydag ei thad (canol)

Advertisement

Rachel McGuinness gydag ei thad (canol)

"Ma' Mam yn 77 a ma' Dad wedi marw ers 35 o flynyddoedd," meddai Rachel, gan egluro'r hyn a ddigwyddodd i'w thad.

"O'dd Dad yn hemoffiliac, felly 'nath o dderbyn gwaed heintiedig trwy'r driniaeth y g'nath o dderbyn yn yr 1970au."

Mae hemoffilia yn gyflwr prin sy'n effeithio ar y ffordd y mae gwaed yn ceulo (clot), gan wneud i berson gyda'r cyflwr waedu'n fwy na phobl eraill.

"Felly gath o ddiagnosis HIV positive yn 1984 ac wedyn bu farw yn 1990 o HIV ac AIDS."

'Ail-fyw'r galar'

"Y gwaed heintiedig o'dd wedi achosi'r drafferth ac maen nhw bellach wedi derbyn cyfrifoldeb, sy'n golygu fod o wedi marw heb raid," meddai Rachel.

"Felly mae o'n drist iawn i ni fel teulu ac i deuluoedd eraill sydd wedi cael eu heffeithio hefyd."

Eglurodd Rachel fod ei thad yn credu ar y pryd fod y driniaeth i dderbyn gwaed yn ddiogel, ac er hynny, mae diwrnod y seremoni'n parhau i fod yn emosiynol i'r teulu.

"Ma'r ymchwiliad ei hun - da' chi'n ail-fyw'r galar mewn ffor', felly mae o wedi bod yn gyfnod eitha' anodd i ni.

Dwi just yn gobeithio heddiw y bydden nhw'n cael amser i adlewyrchu a dod â'r bennod yna i ben," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News