Skip to main content
Advertisement

Cyffur Canser Zanidatamab Yn Cynnig Gobaith Newydd i Gleifion Cholangiocarcinoma

Teulu Huw Jones sy'n marw o ganser yn 33 oed yn croesawu cymeradwyaeth cyffur Zanidatamab, sy'n cynnig gobaith newydd i gleifion cholangiocarcinoma prin.

·5 min read
Llun Huw, Idris a Cadi

Teulu Huw Jones Yn Croesawu Cymeradwyaeth Cyffur Newydd

Mae teulu dyn ifanc a fu farw o ganser yn 33 oed yn dweud bod cymeradwyaeth cyffur newydd yn dod â "gobaith" i gleifion eraill.

Yn 2024 cafodd Huw Jones o Lanuwchllyn, Gwynedd ddiagnosis o fath prin o ganser, cholangiocarcinoma, sy'n dechrau yn nwythellau'r bustl ac yn effeithio ar yr iau.

Mae'n ganser sy'n tueddu i gael ei ddarganfod yn hwyr gan olygu nad yw'n bosib cynnal llawdriniaeth effeithiol.

Roedd hynny'n wir am Huw, gyda'i ganser wedi cyrraedd cam 4, y mwyaf difrifol, erbyn iddo gael diagnosis.

Ond diolch i waith ymchwil y teulu, fe gafodd Huw gyffur Zanidatamab, sy'n gallu arafu'r math o ganser oedd ganddo.

Mae ei deulu'n argyhoeddedig bod y cyffur wedi rhoi amser prin i Huw gyda'i fab newydd Idris, a hefyd rhoi amser gwerthfawr iddyn nhw cyn iddo farw ym mis Chwefror eleni.

Nawr, mae'r corff sy'n cynghori ar gyffuriau a thriniaethau - NICE - wedi cymeradwyo'r cyffur ar gyfer y gwasanaeth iechyd, gan ddod a "gobaith" i gleifion eraill yn ôl tad Huw, Gareth Jones.

Huw a'i dad
Disgrifiad o’r llun, Huw a'i dad Gareth yn ystod sialens feicio i godi arian i elusen ganser

'Cyffur Wedi Gwneud Gwahaniaeth Aruthrol'

Cafodd Huw wybod fod ganddo cholangiocarcinoma fis Medi 2024, pan oedd ei wraig, Cadi, yn disgwyl babi cyntaf y cwpl.

Daeth yn ymwybodol bod rhywbeth yn bod tra'n nofio yn Llyn Tegid fel rhan o'i hyfforddiant ar gyfer triathlon.

Ar ôl gweld meddygon, daeth cadarnhad bod ganddo cholangiocarcinoma a bod y canser wedi lledaenu i'w ysgyfaint ac ymhellach.

Gyda llai nag un o bob tri o bobl sy'n cael diagnosis tebyg i Huw yn goroesi yn Lloegr pob blwyddyn, roedd y pâr yn wynebu sefyllfa anodd iawn.

Oherwydd natur y canser a phroblemau iechyd eraill Huw, doedd dim llawer o opsiynau triniaeth ar gael.

Cafodd gemotherapi a gweld dim gwellhad, gan arwain Cadi i chwilio am dreialon arbennig ar ganser yn nwythellau'r bustl yn Llundain.

Dyma ble cafodd Huw gynnig y cyffur Zanidatamab.

Ad (425x293)

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd ei dad, Gareth:

"Roedd Huw yn ffodus ofnadwy i fedru cael y cyffur newydd yma drwy ddoctoriaid yn Llundain.
Pan gafodd Huw'r diagnosis doedd y cyffur ddim ar gael ar y gwasanaeth iechyd, roedd rhaid i ni ffeindio fo ein hunain.
Roedd y cyffur wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol iddo."

Mae'n dweud bod effaith hynny ar y teulu wedi bod yn enfawr.

"Gobaith, dyna ydy'r gair mwyaf, roedd gan Huw gymaint o obaith ac roedd o'n edrych ymlaen at wella a dyna nath gynnal o am gymaint."

Beth ydy Zanidatamab?

Mae Zanidatamab yn driniaeth gwrthgyrff ar gyfer cleifion â lefel uwch na'r arfer o brotein o'r enw HER2, sy'n ysgogi tiwmorau i dyfu.

Mae'n ysgogi'r system imiwnedd i gael gwared ar y celloedd canser ac yn lleihau lefelau HER2, sy'n atal y canser rhag tyfu.

Mae treialon clinigol yn awgrymu y gallai'r driniaeth bron a threblu disgwyliad oes cleifion o'i gymharu â'r triniaethau eraill sydd ar gael.

'Angen y Gobaith Yna ar Bawb sy'n Dioddef'

Yn ôl Gareth, fe ganiataodd y cyffur i Huw ddod i nabod ei fab newydd, Idris, ac iddo dreulio mwy o amser gyda'i deulu cyn iddo farw.

Yn ystod y cyfnod, bu Huw yn galw am i'r cyffur fod ar gael i bawb ar y gwasanaeth iechyd.

Bu farw cyn i hynny digwydd, ond mae ei deulu yn "falch iawn" bod ei ddymuniad bellach wedi'i gyflawni.

"Mae'r newyddion yma yn rhy hwyr i Huw - ond i fod yn deg - mi gafodd weld Idris yn troi yn un oed, a rŵan ella all teuluoedd eraill gael help hefyd," dywedodd Gareth.
"Mae'n hollbwysig i'r cleifion sy'n dioddef o'r canser yma bod hwn ar gael.
Roedd y cyffur yma wedi galluogi i'r tiwmor leihau yn sylweddol gan ddod â lygedyn o obaith."
"Mae angen y gobaith yna ar bawb sy'n dioddef."
Llun Huw, Cadi ac Idris
Disgrifiad o’r llun, Roedd Huw yn galw am i'r cyffur fod ar gael i bawb sy'n dioddef

Roedd Huw yn galw am i'r cyffur fod ar gael i bawb sy'n dioddef

Mae NICE yn amcangyfrif y bydd tua 65 o gleifion y flwyddyn yn elwa o'r driniaeth, sy'n cael ei roi unwaith bob pythefnos.

Dywedodd Helen Knight, cyfarwyddwr gwerthuso meddyginiaethau yn NICE:

"Rwy'n falch ein bod wedi gallu argymell y triniaeth newydd effeithiol hwn, y cyffur cyntaf sy'n targedu HER2 y mae NICE wedi'i argymell ar gyfer pobl â chanser y llwybr bustl.
Dywedodd cleifion ac arbenigwyr clinigol a oedd yn rhan o'r asesiad wrthym sut y byddai'r driniaeth hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr trwy ymestyn bywydau pobl a gwella ansawdd eu bywyd - rhywbeth nad oedd bob amser yn bosibl gyda chemotherapi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon Perthnasol

Dartio 100,000 pwynt yn Llanuwchllyn i gefnogi claf canser

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News