Skip to main content
Advertisement

Teyrngedau celf i Richard a Wyn Jones yn Eisteddfod Y Garreg Las

Mae pobl ardal Eisteddfod Y Garreg Las wedi addurno eu milltir sgwar â theyrngedau i Richard a Wyn Jones, aelodau Ail Symudiad a fu farw yn 2021.

·2 min read
'Sefyll ar y sgwar':

Gyda Eisteddfod Y Garreg Las ar gychwyn mae pobl yr ardal wedi bod yn brysur yn addurno eu milltir sgwar i groesawu ymwelwyr i'r brifwyl yn Llantwd. Yn nghanol y celfwaith, mae nifer o deyrngedau wedi bod i Richard a Wyn Jones, y ddau frawd o'r ardal fu farw yn 2021.

Roedd cyfraniad y ddau i fyd cerddoriaeth ac i ddiwylliant yng Nghymru yn fawr, drwy'r grŵp pync poblogaidd, Ail Symudiad ac hefyd drwy sefydlu label recordiau annibynnol Fflach a stiwdio recordio yn Aberteifi.

Meddai Dafydd Jones, mab Wyn:

"Mae gweld yr holl gelfwaith a'r palets wedi'u addurno fel teyrnged i Ail Symudiad wir yn amazing, a dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi mynd i'r ymdrech i greu rhywbeth er cof am dad a Wyn.
"Er ei bod nhw'n codi tamaid o hiraeth, mae fe'n twymo'r galon i weld faint oedden nhw'n ei olygu i bobol yr ardal. Diolch yn fowr i chi gyd."

Sut mae pobl yr ardal wedi ymateb?

Dyma flas o'r teyrngedau gan bobl ardal y Garreg Las.

Sioe Sefyll ar y Sgwâr yn deyrnged i Richard a Wyn o Ail Symudiad

Mari Elen, un o'r awduron, yn trafod y sioe gyda Ffion Emyr

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Advertisement

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Teyrngedau Ail Symudiad

Beth arall sy'n gysylltiedig?

## Pynciau cysylltiedig

## Hefyd o ddiddordeb:

'Ni gyd wedi codi'n socs lan': Adfywiad sin gerddorol Aberteifi

Lluniau harddu bro Eisteddfod Y Garreg Las

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News