Skip to main content
Advertisement

Tafwyl Celebrates 20 Years with Live Music and Family Fun in Cardiff

Dathliadau 20 mlynedd Tafwyl yn parhau gyda cherddoriaeth fyw, bwyd stryd a gweithgareddau teuluol yng Nghaerdydd dan yr haul tanbaid.

·3 min read
Lloyd a Dom ar y llwyfan yn ystod perfformiad Parti 20 Tafwyl

Dathliadau 20 Mlynedd Tafwyl yn Parhau Dydd Sul

Fe wnaeth dathliadau 20 mlynedd Tafwyl barhau mewn steil dydd Sul o dan yr haul tanbaid.

Daeth y torfeydd yn ôl i diroedd Castell Caerdydd i fwynhau diwrnod arall o gerddoriaeth fyw, bwyd stryd blasus a gweithgareddau i'r teulu. Roedd yr awyrgylch ar draws y brifddinas yn drydanol wrth i Tafwyl gloi penwythnos o ddathlu dau ddegawd o'r ŵyl.

torf enfawr
Disgrifiad o’r llun, Edrychwch ar y dorf!

Delweddau o'r Dydd

Plant yn mwynhau. Roedd yr ardal cysgodlyd o dan y coed yn boblogaidd gyda theuluoedd efo plant ifanc am resymau amlwg!

Plant yn mwynhau. Roedd yr ardal cysgodlyd o dan y coed yn boblogaidd gyda theuluoedd efo plant ifanc am resymau amlwg!
Disgrifiad o’r llun, Plant yn mwynhau. Roedd yr ardal cysgodlyd o dan y coed yn boblogaidd gyda theuluoedd efo plant ifanc am resymau amlwg!

Martyn Geraint yn diddanu ar y brif lwyfan ar ddydd Sul. Ym mis Gorffennaf bydd Martyn yn perfformio am y tro olaf ar fandstand Y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Martyn Geraint yn diddanu ar y brif lwyfan ar ddydd Sul. Ym mis Gorffennaf bydd Martyn yn perfformio am y tro olaf ar fandstand Y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Disgrifiad o’r llun, Martyn Geraint yn diddanu ar y brif lwyfan ar ddydd Sul. Ym mis Gorffennaf bydd Martyn yn perfformio am y tro olaf ar fandstand Y Sioe Fawr yn Llanelwedd

Y Gwerinle oedd y lle i fwynhau cerddoriaeth fwy traddodiadol.

Roedd y 'Gwerinle' yn le i da i fwynhau cerddoriaeth fwy traddodiadol ei naws
Disgrifiad o’r llun, Y Gwerinle oedd y lle i fwynhau cerddoriaeth fwy traddodiadol

Edwin 'Sacs' Humphreys yn perfformio ar y brif lwyfan.

Edwin 'Sacs' Humphreys yn perfformio ar y brif lwyfan
Disgrifiad o’r llun, Edwin 'Sacs' Humphreys yn perfformio ar y brif lwyfan

Mabli Tudur a Miriam Isaac yn perfformio gyda Carwyn Ellis.

Mabli Tudur a Miriam Isaac yn perfformio gyda Carwyn Ellis
Disgrifiad o’r llun, Mabli Tudur a Miriam Isaac yn perfformio gyda Carwyn Ellis

Un o staff Tafwyl yn cerdded rhwng y ddwy ardal o adloniant ar y safle.

Advertisement
Un o staff Tafwyl yn cerdded rhwng y ddwy ardal
Disgrifiad o’r llun, Un o staff Tafwyl yn cerdded rhwng y ddwy ardal o adloniant ar y safle

Rose Datta, prif leisydd y grŵp Taran ac enillydd cyfres Y Llais yn 2025, gyda criw o blant.

Rose Datta, prif leisydd y grŵp Taran ac ennilydd cyfres Y Llais yn 2025, gyda criw o blant
Disgrifiad o’r llun, Rose Datta, prif leisydd y grŵp Taran ac enillydd cyfres Y Llais yn 2025, gyda criw o blant

Eban Elwy o'r grŵp TewTewTennau ar y brif lwyfan.

Aelod o'r grŵp TewTewTennau ar y brif lwyfan
Disgrifiad o’r llun, Eban Elwy o'r grŵp TewTewTennau ar y brif lwyfan

Osgoi bod yn rhy boeth gyda diod oer yn y cysgod.

Dwy ferch yn mwynhau
Disgrifiad o’r llun, Osgoi bod yn rhy boeth gyda diod oer yn y cysgod

Disgyblion Ysgol Glantaf yn perfformio gyda Parti 20 Tafwyl ar y brif lwyfan ar nos Sul.

Disgyblion Ysgol Glantaf yn perfformio gyda Parti 20 Tafwyl ar y brif lwyfan ar nos Sul
Disgrifiad o’r llun, Disgyblion Ysgol Glantaf yn perfformio gyda Parti 20 Tafwyl ar y brif lwyfan ar nos Sul

Dilynwch a Chysylltwch

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig a Straeon Perthnasol

Rhai wedi methu â chael mynediad i Tafwyl yn dilyn 'ambell anhawster'.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News