Skip to main content
Ad (425x293)

Rhun ap Iorwerth: Proffil o Arweinydd Plaid Cymru a'i Daith Wleidyddol

Proffil manwl o Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, gan gynnwys ei gefndir teuluol, gyrfa newyddiaduraeth, a'i daith wleidyddol hyd yn hyn.

·10 min read
Rhun ap Iorwerth yn rhoi araith

Yr Arweinwyr: Rhun ap Iorwerth

Wrth i etholiad Senedd Cymru agosáu, pwy ydy'r bobl sy'n gobeithio bod yn Brif Weinidog eu gwlad? Mewn cyfres o erthyglau, Cymru Fyw sy'n cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

Things Can Only Get Better, Dancing Queen, Moving on Up… mae cân yn gallu bod yn rhan gofiadwy o ymgyrch wleidyddol. Petai Rhun ap Iorwerth angen dewis un, byddai Mae'n Wlad i Mi yn sicr werth ei hystyried.

Mae'r geiriau gwladgarol a chynwysol yn siwr o fod at ddant cefnogwyr Plaid Cymru ac mae'r gân yn ddolen rhwng un o ffigurau amlyca'r blaid a'r arweinydd newydd. Ond mae hefyd yn awgrymu, er mai degawd yn ôl ddaeth Rhun ap Iorwerth yn wleidydd, bod yr egin wedi bod yno ers yn llawer hirach.

Yn 1966 - chwe blynedd cyn genedigaeth arweinydd Plaid Cymru - recordiodd Edward Morus Jones a Dafydd Iwan eu fersiwn nhw o anthem wleidyddol Woodie Guthrie This Land is Your Land.

Roedd y ddau wedi eu magu yn ardal Llanuwchllyn, ger Y Bala, gan ddechrau canu gyda'i gilydd yng ngwersyll Glan-llyn ac wedi aros yn ffrindiau ers hynny.

Roedd Dafydd Iwan ac Edward yn ddeuawd poblogaidd yn yr 1960au ac mae'r ddau wedi cyd-weithio nifer o weithiau ers hynny

Clawr Mae'n Wlad i Mi
Disgrifiad o’r llun, Roedd Dafydd Iwan ac Edward yn ddeuawd poblogaidd yn yr 1960au ac mae'r ddau wedi cyd-weithio nifer o weithiau ers hynny

Aeth Edward Morus Jones yn ei flaen i fod yn athro a phrifathro ac ymgyrchydd iaith.

Ar ôl cyfnod ym Mhontypridd a Meirionnydd fe setlodd yn Llandegfan gyda'i ddiweddar wraig Gwyneth Morus Jones, athrawes fu'n weithgar gyda nifer o fudiadau Cymraeg. Ac ar Ynys Môn magwyd eu plant, Awen Iorwerth a'i brawd bach Rhun.

Yn ôl Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru rhwng 2003-2010, y fagwraeth honno sydd wedi arwain at ddaliadau'r arweinydd newydd.

"Does 'na'm dwywaith bod ei dad a'i fam yn genedlaetholwyr cryf," meddai Dafydd Iwan wrth Cymru Fyw. "Ond hefyd mae'n bwysig dweud bod y ddau yn ymwneud â bywyd diwylliannol a chrefyddol Cymru mewn ffordd eang iawn.

"Ac wrth gwrs dyna'r fagwraeth mae o wedi ei gael gan ei rieni, sef i ymroi i fywyd cymuned a chymdeithas a bywyd diwylliannol Cymreig."

Rhun ap Iorwerth a Dafydd Iwan yn Stadiwm Dinas Caerdydd mewn gêm bêl-droed Cymru

Rhun ap Iorwerth a Dafydd Iwan
Disgrifiad o’r llun, Rhun ap Iorwerth a Dafydd Iwan yn Stadiwm Dinas Caerdydd mewn gêm bêl-droed Cymru

Roedd cerddoriaeth yn rhan o'r fagwraeth a blynyddoedd yn ddiweddarach fe wnaeth cyn-lywydd y blaid ganu ar yr un albwm a'r arweinydd presennol, gan fod plant 'Dafydd Iwan ac Edward' i'w clywed ar un o ganeuon Cwm-Rhyd-y-Rhosyn.

"Roedd y plant yr un oed wrth gwrs ac yn 'nabod ei gilydd nes 'mlaen trwy dyddia' coleg," meddai Dafydd Iwan.

"Ddes i ar draws Rhun eto yn ddiweddarach gan ei fod o mewn band. Dwi'n cofio ei weld yn rhedeg ar draws Maes yr Eisteddfod efo gitâr yn ei law - mae o'n gitarydd da iawn a dwi'n meddwl bod o'n cyfansoddi rhywfaint o ganeuon hefyd. Mae'n dipyn o all rounder."

Ond nid llwybr cerddor ddewisodd o, ond i astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yna i'r BBC.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Oes etholiad yn fy ardal i?

Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod

Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.

Rhun ap Iorwerth yn 1998, bedair blynedd ar ôl dechrau ei yrfa newyddiadurol. Bu'n gweithio ar raglenni newyddion, rhaglen wleidyddol Dragon's Eye ac yn gyflwynydd rhaglenni newyddion Radio Wales a Radio Cymru

Rhun ap Iorwerth yn gohebu yn 1998
Disgrifiad o’r llun, Rhun ap Iorwerth yn 1998, bedair blynedd ar ôl dechrau ei yrfa newyddiadurol. Bu'n gweithio ar raglenni newyddion, rhaglen wleidyddol Dragon's Eye ac yn gyflwynydd rhaglenni newyddion Radio Wales a Radio Cymru

Un sy'n ei gofio fel cyw newyddiadurwr yng Nghaerdydd yn yr 1990au ydi Elin Wyn, oedd yn gynhyrchydd newyddion ar y pryd cyn i'r ddau fynd i weithio i uned wleidyddol y BBC yn nyddiau cynnar Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Wy'n cofio Rhun yn dechrau yn bennaf gan fod e mor dal - lot talach na fi.

"Roedd hyder gyda fe reit o'r dechre' - falle bod e i wneud efo'r ffaith bod e'n dal. Roedd presenoldeb a carisma gyda fe hyd 'noed pryd hynny.

"Gyda rhai pobl pan ma' nhw'n dechre gweithio yn weddol ifanc ti'n gwybod yn syth ma' nhw yn mynd i fynd yn bell ac roedde ti'n gwybod bod [Rhun] yn mynd i fynd yn bell yn be' bynnag oedd e am 'neud."

Gweithiodd Rhun ap Iorwerth am gyfnod byr i'r gorfforaeth yn San Steffan, yr un pryd â'r darlledwr Guto Harri, ac am ddau ddegawd roedd yn wyneb a llais cyfarwydd ar BBC Cymru fel gohebydd gwleidyddol a chyflwynydd rhaglenni newyddion.

Rhun ap Iorwerth yn cyfweld Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan

Rhun ap Iorwerth gyda Rhodri Morgan
Disgrifiad o’r llun, Rhun ap Iorwerth yn cyfweld Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan

Gweithiodd am flynyddoedd yng Nghaerdydd cyn symud yn ôl i Ynys Môn gyda'i wraig Llinos i fagu eu tri o blant.

Ad (425x293)

Yn ystod ei gyfnod gyda'r BBC, roedd Dafydd Iwan yn dod ar ei draws ar lefel broffesiynol, lle'r oedd llai o harmoni.

"Dwi'n cofio pan golles i (sedd cynghorydd) Gwynedd, y fo oedd yn siarad efo fi ac roedd hwnnw'n un galed ond doedd o'n ddim yn dangos cydymdeimlad na dim felly," meddai. "Roedd o'n reit broffesiynol ac yn holi fi'n eitha' caled.

"Mae o'n un da mewn cyfweliadau rŵan am ei fod o'n deall ochr yr holwyr dwi'n meddwl. Mae o ar ben ei ffeithiau ac mae'n anodd iawn ei ddal o allan ar unrhyw bwnc gwleidyddol."

Rhun ap Iorwerth ar un o brif raglenni materion cyfoes BBC One Sunday with Laura Kuenssberg yn 2024

Rhun ap Iorwerth yn cael ei holi gan Laura Kuenssberg
Disgrifiad o’r llun, Rhun ap Iorwerth ar un o brif raglenni materion cyfoes BBC One Sunday with Laura Kuenssberg yn 2024

Ar ôl dau ddegawd gyda'r BBC, fe ddangosodd ei liwiau gwleidyddol yn 2013 gan adael ei swydd ac ennill enwebiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd is-etholiad Môn wedi i Ieuan Wyn Jones adael y Senedd.

Roedd yn fuddugoliaeth rhwydd ac eglurodd yn ddiweddarach bod marwolaeth ei fam wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i fynd mewn i wleidyddiaeth gan ei fod eisiau gwneud cyfraniad i'w gymuned.

Yn ôl un o'i gyd-weithwyr roedd yn syndod - ac eto yn gwneud synnwyr.

"Mae rhai pobl wedi deud o'n nhw'n gwybod bod e isio bod yn wleidydd - wel fyddwn i ddim yn dweud hynny, doedd e ddim wedi rhoi'r argraff yna i fi," meddai Elin Wyn. "Yn amlwg ni'n gorfod bod yn ddiduedd pan yn gweithio yn y BBC a 'nath e ddim rhoi'r argraff i fi, ond wrth gwrs pan 'nath e gyhoeddi bod e'n sefyll yn Ynys Môn roedd e'n 'neud sens hefyd."

Mae ei brofiad gyda'r BBC yn help iddo nawr, meddai Elin Wyn, sydd wedi bod yn hyfforddi gwleidyddion ar sut i ddelio gyda'r wasg ers iddi adael y gorfforaeth.

Rhun ap Iorwerth yn mynd ben-ben gyda Nigel Farage, Reform UK, mewn dadl oedd yn cynnwys arweinwyr yr holl brif bleidiau cyn Etholiad Cyffredinol 2024

Rhun ap Iorwerth mewn dadl gyda Nigel Farage
Disgrifiad o’r llun, Rhun ap Iorwerth yn mynd ben-ben gyda Nigel Farage, Reform UK, mewn dadl oedd yn cynnwys arweinwyr yr holl brif bleidiau cyn Etholiad Cyffredinol 2024

Meddai: "Ma'n gwybod bod angen iddo fe baratoi a chael leins sy'n mynd i gael eu hail adrodd, a geiriau ac ymadroddion allweddol. Ma'n gwybod sut i 'neud hynny. Sa i 'di gweld e yn mynd yn tetchy neu golli ei dymer ac ma'n eitha calm and controlled.

"Ma'n gwybod sut i 'neud soundbite - sydd wastad un o'r pethe anodda' i wleidydd."

Bum mlynedd wedi iddo ennill Môn, fe heriodd arweinyddiaeth Leanne Wood gydag Adam Price - gan ddod yn ail.

Bu'n Weinidog Cysgodol dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid ond erbyn Medi 2022 roedd ei fryd ar fynd i San Steffan. Cyhoeddodd ei fwriad i sefyll dros y Blaid yn erbyn Aelod Seneddol Ceidwadol Môn Virginia Crosbie, fyddai'n golygu sefyll lawr o'r Senedd.

Ond newidiodd popeth pan ildiodd Adam Price yr arweinyddiaeth ym mis Mai 2023 ar ôl adroddiad damniol am fethu mynd i'r afael â diwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid.

Rhun ap Iorwerth yn lansio maniffesto ei blaid yn Y Deml Heddwch, Caerdydd, cyn Etholiad Cyffredinol 2024

Rhun ap Iorwerth gyda maniffesto ei blaid
Disgrifiad o’r llun, Rhun ap Iorwerth yn lansio maniffesto ei blaid yn Y Deml Heddwch, Caerdydd, cyn Etholiad Cyffredinol 2024

Rhun ap Iorwerth oedd yr unig un i roi ei enw ymlaen, ac yn 50 oed daeth yn arweinydd Plaid Cymru.

Ers hynny, mae ei broffil wedi codi yng Nghymru a thu hwnt, yn enwedig yn ystod Etholiad Cyffredinol 2024 a buddugoliaeth Plaid Cymru yn is-etholiad Caerffili y llynedd, pan ddaeth Reform yn ail.

Rhun ap Iorwerth yn dathlu buddugoliaeth Lindsay Whittle yn is-etholiad Caerffili fis Hydref 2025

Rhun ap Iorwerth yn dathlu buddugoliaeth Lindsay Whittle
Disgrifiad o’r llun, Rhun ap Iorwerth yn dathlu buddugoliaeth Lindsay Whittle yn is-etholiad Caerffili fis Hydref 2025

Ers ennill yr arweinyddiaeth, ynghyd â cheisio ymateb i adroddiad 2023 mae o wedi gorfod defnyddio ei sgiliau cyfathrebu i geisio cael ei neges drosodd.

Un o'r rheiny ydi polisi sy'n gallu bod yn sensitif i'w blaid: annibyniaeth. Er bod 'na gynllun tuag at annibyniaeth, yn wahanol i'w ragflaenydd tydi o ddim yn gaddo refferendwm yn ei dymor cyntaf os fydd o'n llwyddo i arwain y Senedd.

I un cyfaill teulu, sydd wedi bod yn canu am bwy biau'r wlad ers dros 50 mlynedd, mae'r dyfodol yn sicr.

"Sgen i ddim amheuaeth o gwbl am ei genedlaetholdeb o," meddai Dafydd Iwan. "Dydi'r ffaith bod o am ohirio annibyniaeth ddim yn poeni fi o gwbl. Dyna ydi'r nod ond mae'n rhaid i bobl Cymru fod yn barod am y neges.

"Mae'n amlwg rŵan mai Rhun ydi'r un sydd â'r gallu a'r nodweddion i gyd ar gyfer bod yn arweinydd. Mae'n un da o ran trin ei bobl ei hun a siarad gyda'r cyhoedd ond mae'n seiliedig bob amser ar wybod ei ffeithiau a throsglwyddo'r neges yn effeithiol."

Dewiswyd trefn cyhoeddi y darnau proffil ar hap - mi fydd yna erthyglau tebyg am arweinwyr pob un o'r brif bleidiau yn cael eu cyhoeddi rhwng nawr a'r 10fed o Ebrill

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Pa faterion sy'n poeni pleidleiswyr Cymru cyn etholiad y Senedd?
  • Etholiad 2026: Beth yw fy etholaeth i?

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News