Roedd gan ddydd Mawrth ar Faes yr Eisteddfod naws werinol, gyda Brwydr y Bandiau Gwerin, Hergest yn perfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, a Pedair yn cloi Llwyfan y Maes. Roedd hefyd yn ddiwrnod gwobrau coffa TH Parry-Williams a Daniel Owen, ac isod mae rhai o luniau'r dydd o'r Maes.
Pa beth oedd yn tynnu’r llygad ar y Maes?
Roedd nifer o atyniadau gweledol a cherddorol ar draws y Maes, gan gynnwys Storm Troopers yn cyhoeddi bod y ffilm ffantasi eiconig o 1977 Star Wars: A New Hope yn mynd i gael ei dybio'n Gymraeg a'i darlledu ar S4C.
'Doedden nhw'n ddyddiau da...'
Roedd y geiriau hynny'n ymwneud â Hergest, y band sydd wedi dod yn ôl at ei gilydd ar gyfer yr Eisteddfod i berfformio am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.

Sut oedd Brwydr y Bandiau Gwerin wedi mynd?
Roedd y Tŷ Gwerin dan ei sang ar gyfer cystadleuaeth Brwydr y Bandiau. Roedd pedwar grŵp yn cystadlu, gan gynnwys Mantach.

Roedd Lo-fi Jones yn ei morio hi ym mhabell Maes D.

Oedd gweithgareddau i’r teulu a’r gynulleidfa hefyd?
Oedd, ac roedd digon i bawb gymryd rhan. Roedd Dawnswyr Talog yn rhoi gwersi dawnsio gwerin i'r gynulleidfa, a doedd dim rhaid cael gwahoddiad i ganu ar rai o brif lwyfannau'r Eisteddfod eleni gan fod The Tebot Hud yn ofod newydd i gyd-ganu o gwmpas y piano a'r tân, efo paned o de wrth gwrs.


Ond bisged, nid panad, oedd Ani, o Aberaeron, eisiau wrth ymweld â'r Maes efo'i chwaer Heti.

Cara, o Fethel, oedd yn barod fel Medusa ar gyfer y gystadleuaeth dawnsio disgo gyda Chlwb Dawnsio Lowri.

Beth oedd yn digwydd yn y seremonïau gwobrau?
Roedd Rhys Michael, sy'n chwarae i fand Tredegar ar y Maes, yno er mwyn bod yn rhan o'r ffanfer yn seremoni Medal Goffa TH Parry-Williams.

Enillydd Medal Goffa TH Parry-Williams eleni oedd Islwyn Evans, sydd wedi arwain corau yng Nghymru ers dros 40 mlynedd. Daeth 130 o gyn-ddisgyblion i'w weld yn cael ei anrhydeddu yn Y Pafiliwn brynhawn Mawrth.

Sut ymatebodd ymwelwyr i’r tywydd a’r awyrgylch?
Fe gafodd Gruff a'i fam Stephanie o Gaerdydd fargen yng ngwlad y Cardis er mwyn cadw'n sych yn ystod y cawodydd. "Nes i brynu'r cotiau yn Aberteifi am £3 - i lawr o £5," meddai Stephanie.

Ond roedd digon o gyfnodau o heulwen drwy'r dydd, a chyfle i Naomi, Gronw a Modlen o ardal Pwllheli ymlacio.

Roedd Telyn yn cael reid gyda'i chefnder a'i chyfnither Guto a Gwen - ac roedd hynny'n addas, gan eu bod wedi dod drosodd yr holl ffordd o'u cartref yn Copenhagen i'w gweld hi ac ymweld â'r Eisteddfod.

Beth sydd newydd ar gyfer y gymuned LHDTC+?
Ar ôl pum mlynedd o Panad o Gê, mae'r stondin i'r gymuned LHDTC+ yn gallu cynnig llawer mwy yn eu gofod newydd. "Mae pobl o bob oed ac o bob cefndir yn dod i fwynhau'r gofod newydd - ni mor bles gyda'r ffordd mae wedi datblygu," meddai Jona Milone.

Lluniau: Dydd Sadwrn yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026
Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
## Pynciau cysylltiedig
## Hefyd o ddiddordeb:
Mwynhau er gwaetha'r mwd: Atgofion o Eisteddfod yr Hwch
Hergest yn ôl gyda'i gilydd ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las
'Ni gyd wedi codi'n socs lan': Adfywiad sin gerddorol Aberteifi







