Skip to main content
Advertisement

Cerddoriaeth a Gofid ar Fryn Briallu i Ddathlu Iolo Morganwg

Dathlu 200 mlynedd ers marwolaeth Iolo Morganwg ar Fryn Briallu, Llundain, gyda chanu Gweddi'r Orsedd gan Gôr Meibion Taf a gosod cofeb i gofio ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru.

·6 min read
Côr ar y bryn

Seremoni Gyntaf yr Orsedd ar Fryn Briallu

Ar Fryn Briallu yn Llundain, cynhaliwyd y seremoni gyntaf yr Orsedd yn 1792 gan Iolo Morganwg.

Ers 2009, mae cofeb wedi bod ar y bryn i'r bardd o Sir Forgannwg, ac ar ddydd Sadwrn, 6 Mehefin, casglwyd dros 60 o gantorion i nodi 200 mlynedd ers ei farwolaeth.

Rhian Medi oedd trefnydd y digwyddiad, lle canodd aelodau o Gôr Meibion Taf Gweddi'r Orsedd fel rhan o'r dathliad.

Hi hefyd oedd y syniad gwreiddiol i osod y gofeb i Iolo ar y bryn.

Côr Meibion Taf yn canu Gweddi'r Orsedd ar Fryn Briallu

Yr Orsedd ar y Bryn

Yn awr yn byw yn Ynys Môn, roedd Rhian wedi byw yn Llundain am 30 mlynedd ac roedd hi'n teimlo bod angen nodi dylanwad Llundain ar ddiwylliant Cymru.

"O'dd gen i un droed yn y ddau le – Cymru a Llundain.

"O'n i'n cystadlu dipyn mewn eisteddfodau – 'nes i ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Sir Fôn yn 1999 – ac o'n i'n arfer mynd efo mhlentyn i i chwarae pêl-droed ar gaeau Bryn Briallu, a meddwl – 'waw, fan hyn ddaru o gychwyn'.

"Dwi'n meddwl fod yr hadyn wedi ei blannu yn fy mhen bod rhaid cael rhywbeth yna i goffáu'r ffaith bod rhan mor fawr o'n hetifeddiaeth ni a phwy ydyn ni fel Cymry yn deillio o'r lle yna yn Llundain."

Yn y 1790au cynnar, roedd Edward Williams, neu Iolo Morganwg, wedi bod yn byw yn Llundain am tua pum mlynedd.

Iolo Morganwg
Disgrifiad o’r llun, Darlun pensil o Iolo Morganwg o tua 1800

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd diwylliant Cymru ar ei anterth yn Llundain gyda chymdeithasau diwylliannol Cymraeg fel y Gwyneddigion a'r Cymmrodorion yn ymgasglu yn y tafarndai, gan gynnwys Jac Glan-y-gors ac Owain Myfyr.

Iolo oedd yn ganolog i'r grwpiau hyn, gan farddoni a chreu llawysgrifau hynafol am draddodiadau Cymraeg hynafol y dywedodd ei fod wedi'u darganfod. Un o'r traddodiadau hyn oedd elfennau o seremonïau'r Orsedd, a oedd yn awyddus i'w hadfer yn ddiwylliant Cymru.

Yn y seremoni gyntaf ar Fryn Briallu, gosododd 12 carreg fach ar y llawr i gynrychioli Meini'r Orsedd a defnyddiodd gleddyf heb ei ddadweinio; dyma'r sylfaen i'r seremonïau Orsedd cyfarwydd inni heddiw.

Owain a Chôr Meibion Taf
Disgrifiad o’r llun, Owain, mab Rhian, yn gosod 12 carreg fach i gynrychioli Meini'r Orsedd, fel y gwnaeth Iolo Morganwg yn ei seremonïau yntau ar Fryn Briallu yn niwedd y 18fed ganrif

Mae cerfiad efydd o ben Iolo yn edrych yn union tua'r dwyrain at yr haul, yng nghanol llechen o Ffestiniog, wedi'i amgylchynu gan ddarn o farmor Moelfre – carreg wen a ganmolwyd gan Iolo ar ôl ymweld â'r chwarel.

Cofeb Iolo Morganwg
Disgrifiad o’r llun, Mae cerfiad efydd o ben Iolo yn edrych yn union tua'r dwyrain at yr haul, yng nghanol llechen o Ffestiniog, a'r cyfan wedi ei amgylchynu gan ddarn o farmor Moelfre – carreg wen roedd Iolo ei hun wedi ei ganmol ar ôl ymweld â'r chwarel

Er bod y cyfan yn dwyll, gan nad oedd derwyddon yn rhan o draddodiad Cymreig, mae syniadau Iolo bellach yn ganolog i ddiwylliant Cymru.

Gyda chefnogaeth Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol ar y pryd, a chefnogwyr eraill gan gynnwys yr Orsedd, rhoddodd sefydliad The Royal Parks ganiatâd i osod cofeb i Iolo ar Fryn Briallu.

Ar Hirddydd Haf 2009, tadorchuddiwyd y gofeb gan Rhian mewn seremoni a fu'n bresennol gan yr Orsedd gyfan, gan gynnwys Robin McBryde gyda'r Cleddyf Mawr, yn adleisio'r cleddyf a ddefnyddiwyd yn seremonïau gwreiddiol Iolo.

Seremoni gyda'r Orsedd
Disgrifiad o’r llun, Seremoni dadorchuddio'r gofeb ar Hirddydd Haf 2009

Cyfraniad gwerthfawr cymeriad dadleuol

Er iddo fod yn gaeth i laudanum ac yn cael ei gofio am dwyllio enwau mawr diwylliedig Cymry gyda cherddi ffug a thraddodiadau ffug, mae Iolo Morganwg yn bersonoliaeth ddadleuol yn hanes Cymru.

Rhian roddodd hanes Iolo i'r dyrfa, gan gynnwys aelodau o deulu Côr Meibion Taf: Rhodri Jones (cadeirydd y côr), Huw Llywelyn Davies, a Marian a John Evans sydd hefyd yn aelodau o'r Orsedd.

Advertisement
Rhian ac aelodau o Gôr Meibion Taf
Disgrifiad o’r llun, Rhian yn rhoi peth o hanes Iolo i'r dyrfa, a rhai o aelodau o deulu Côr Meibion Taf: Rhodri Jones (Cadeirydd y côr), Huw Llywelyn Davies, a Marian a John Evans sydd hefyd yn aelodau o'r Orsedd. Yn ôl yr arweinydd, Steffan Jones, roedd y digwyddiad yn "ffordd arbennig o ddechrau'r penwythnos yn Llundain, a orffennodd nos Sul yn Neuadd Frenhinol Albert yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain"

Yn ôl arweinydd y côr, Steffan Jones, roedd y digwyddiad yn:

"ffordd arbennig o ddechrau'r penwythnos yn Llundain, a orffennodd nos Sul yn Neuadd Frenhinol Albert yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain"

Rhian eglurodd bod Iolo wedi cyfrannu llawer at ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg mewn sawl ffordd ac mae hi wedi ymchwilio iddo'n drylwyr.

"Roedd Iolo yn unigryw, yn ddyn ag egwyddorion cryf, ac roedd hi'n eironig bod angen gofyn i The Royal Parks am ganiatâd i osod y gofeb, achos o'dd Iolo yn weriniaethwr. Ond roedd yn pragmatydd, a byddai'n gwybod 'needs must'!

"Roedd yn gymaint o radical drwy'i fywyd ac roedd o eisiau cicio yn erbyn y tresi. Dwi'n meddwl oedd o'n rhyw fath o gymeriad marmite mewn ffordd – 'sa chi unai yn meddwl y byd ohono fo, neu 'sa chi'n ei gasau o, yn enwedig 'sa fo 'di twyllo chi fel oedd o yn ei waith hanesyddol a llengar."

Owain, mab Rhian, oedd yn gosod 12 carreg fach i gynrychioli Meini'r Orsedd, fel y gwnaeth Iolo yn ei seremonïau ar Fryn Briallu yn y 18fed ganrif.

Er bod ei bersonoliaeth yn fawr a dadleuol, mae Rhian yn teimlo bod cyfraniad Iolo i Gymru a diwylliant Cymraeg wedi bod yn hynod werthfawr.

"Roedd o 'di creu gymaint o eiriau - peiriant, tirwedd, carcus, anghytbwys, melodaidd - yn ogystal â thermau fel Alban Arthan ac Alban Hefin i ddisgrifio pegynau'r flwyddyn. O'dd o'n casglu caneuon gwerin.

"O'dd o 'di mynd ati i greu barddoniaeth na fyddai neb am ganrif yn gwybod 'na nid Dafydd ap Gwilym oedd 'di sgwennu o, gan ddefnyddio ieithwedd canoloesol.

"Mae lot o bobl wedi bod yn bychanu Iolo ond dwi'n meddwl fod y ffaith ei fod o wedi llwyddo i ffugio hwn yn anhygoel.

"A gyda'r Orsedd, ffurfiodd ein sefydliad cyntaf ni. O'dd o'n codi hyder y Cymry a dwi'n meddwl 'sa Iolo ei hun yn yn gwefreiddio at yr hyn sydd gynnon ni rŵan yng Nghymru, fel y Llyfrgell Genedlaethol, y prifysgolion a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Côr Meibion Taf yn cerdded i fyny i gopa Bryn Briallu, gydag adeiladau dinas Llundain i'w gweld yn y pellter

"Dwi'n meddwl bod Iolo o flaen ei amser, ond roedd o'n gweld cwmpawd lot pellach, ac ystod i'w freuddwydion o.

"Dwi'n meddwl pan fod rhywun fel yna mor arbennig, mae hi mor bwysig i gario'r fantell a pharhau."

Gweddi'r Orsedd, a ddyfeisiodd Iolo, oedd i'w chlywed dros Fryn Briallu ar fore Sadwrn i gofio am y gŵr a ddyfeisiodd hen draddodiadau a barhaodd yn ein diwylliant heddiw.

"Ac yng ngwybod, gwybod y cyfiawn,

Ac yng ngwybod y cyfiawn, ei garu..."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News