Teyrngedau i Tony Jones o'r ddeuawd Tony ac Aloma
Mae nifer o deyrngedau wedi cael eu rhoi i Tony Jones, y canwr a oedd yn un hanner o'r ddeuawd Gymraeg boblogaidd Tony ac Aloma, sydd wedi marw yn 86 oed.
Wedi'i fagu yn Rhos-meirch ar Ynys Môn, bu Tony Jones yn swyno cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt am dros hanner canrif.
Roedd y ddeuawd yn gyfrifol am rai o glasuron y Gymraeg, megis 'Dim Ond Ti A Mi' a 'Tri Mochyn Bach', ac fe berfformiodd hefyd fel artist unigol.
Atgofion gan artistiaid a chyflwynwyr
Y canwr Dylan Parry, y cyflwynydd Glan Davies a'r gantores Margaret Williams fu'n rhannu eu hatgofion ohono ar Dros Frecwast, Radio Cymru.
Oeddwn i tua 12 oed pan wnes i glywed nhw gyntaf, oeddan nhw yn ddylanwad mawr arna i.
Oeddan nhw mor dda, oeddan nhw yn gwpl smart, oedd yr harmonies ganddyn nhw ac oedd caneuon oedd Tony yn ei sgwennu yn mynd i'r galon, a phobl Cymraeg yn licio hynna. Maen nhw yn neud i chdi chwerthin a chrïo a mae'n noson dda wedyn.
Pan wnes i glywed 'Wedi Colli Rhywun Sy'n Annwyl', dyna'r gân wnaeth ddylanwadu arna i a wedyn pan es i ffwrdd i'r llynges yn 14 oedd y record yna gynna'i a o'n i yn chwara' hwnna ar y cwch ac o'n i yn ffan mawr ohonyn nhw.
Pan wnes i adael y môr yn 22 wnes i ymuno efo grŵp or enw Castaways a wedyn Traed Wadin a wnes i erioed feddwl y baswn i'n cael y cyfle i ganu efo Tony ac Aloma.
Naethon ni ddipyn o gyngherddau efo nhw a dod i nabod nhw reit dda a wedyn pan nath Neil ddechrau canu efo fi nathon ni ddechrau mynd i'r Gresham. Oeddan ni yna am tua pymtheg mlynadd i gyd efo llond bys o Gymry ac oeddan ni yn cael croeso.
Ar ôl gorffan canu oeddan ni yn siarad am oriau tan y bora ac oedd Tony yn medru bod yn reit ddoniol. Oedd o'n dderyn y nos. Oedd o ar ei draed tan tua 3-4 y bora.
Oedd Tony ac Aloma yn dda ofnadwy efo'r gynulleidfa, oedd o fatha tylluan, ar ei draed drwy nos ac yn cysgu yn dydd.
Roedd yna lond bys yn mynd efo ni i'r Gresham am 15 mlynedd. Oedd y Cymry wrth ei bodd efo ni. Ac o'n i yn gofyn i Tony 'ti ddim yn hiraethu am Sir Fôn ac oedd o'n deud 'na dwi'n gweld mwy yn fanma o Gymry na dwi'n ei weld adra'. Oedd o'n hoff iawn o Blackpool.
Y gân 'nath ddechra dylanwadu arna i oedd 'Wedi Colli Rhywun Sy'n Annwyl'. O'n i jest yn hoff iawn o sgwennu Tony. Oeddach chi'n clwad nhw ac oedd o'n neud chdi isio crïo, y ddau ohonyn nhw efo'i gilydd, oedd yr harmoni yn ffantastig.
Roedd eu lleisiau nhw'n asio yn berffaith.
Glan Davies, cyflwynydd y rhaglen canu ysgafn boblogaidd Hob y Deri Dando, sy'n cofio darganfod Tony ac Aloma wrth chwilota am dalent newydd i'r gyfres:
Oedden ni yn gwneud dwy raglen o Fangor, Ruth Price a Meredydd Evans yn cynhyrchu. O'n i wedi bod trwy Gymru gyfan yn chwilota am dalent newydd a mi ddoth Tony ac Aloma hefyd ar yr un pryd, yr un penwythnos a Hogia'r Wyddfa a Hogia Bryngwran.
Oedd lot o bobl newydd wedi dod ar y sîn a roedd y rhaglen yn mynd nos Sadwrn a'r canlyniad oedd fod y cwmni recordiau yn awyddus iawn i siarad â Ruth Price ar fore dydd Llun i ffeindio allan pwy oedd y grwpiau yma.
Dyna'r cychwyn ar amser prysur iawn yng Nghymru pryd welon ni y Cambrian a Recordiau'r Dryw yn Llandybïe yn cynhyrchu recordiau, a datblygiad pellach oedd Y Pinaclau, Y Tribanau Pop a Pop y Sosban.
Oedd yr artistiaid wedyn i gyd yn perfformio yn y nosweithiau yma o flaen cynulleidfa ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid o flaen dwy i dair mil o bobl.
Dyna'r tro cyntaf i ni ddod ar eu traws nhw. Oedd hi'n amlwg bryd hynny eu bod yn llwyddianus dros ben ym myd canu a byd y recordiau ac ym myd adloniant ysgafn yng Nghymru.
Y gantores Margaret Williams sy'n cofio dyddiau cynnar y ddeuawd ac ymddangosiad cyntaf Tony ac Aloma ar raglen Hob y Deri Dando:
O'n i yn nabod Aloma ers blynyddoedd ers dyddiau'r Eisteddfodau. O'n i ryw 16 a chriw fengach yn dod tu ôl i mi gan gynnwys Aloma a Christine Lee.
Byddai Aloma a Christine Lee yn canu deuawd wedyn mi ddaru y diweddar, hyfryd Idris Charles ddechrau nosweithia hefo Aloma a Christine a Tony. Wedyn mi nath Christine adael a mi ddechreuodd Tony ac Aloma efo'i gilydd efo Idris Charles.
Dwi'n cofio Tony ac Aloma yn dwad ar raglen Hob y Deri Dando am y tro cynta' ac oeddan nhw mor boblogaidd ac oedd eu delwedd nhw yn berffaith.
Aloma efo'i gwallt melyn hir a bŵts y 60au a wedyn Tony wrth ei hochr hi yn edrych arni mor gariadus.
Oedd gan Tony ddawn anhygoel i ysgrifennu, dwi dal i ryfeddu at ei ddawn o.
Pam 'dach chi'n meddwl am y gân Wedi Colli Rhywun Sy'n Ann...




