Parc Cenedlaethol Glyndŵr yn Wynebu Ymchwiliad Cyhoeddus
Mae gan Gymru dri pharc cenedlaethol yn barod - Eryri, Arfordir Penfro a'r Bannau Brycheiniog. Yn awr, mae cais i sefydlu'r parc cenedlaethol newydd gyntaf yng Nghymru ers 1957 yn wynebu ymchwiliad cyhoeddus, ar ôl i nifer o gynghorau wrthwynebu'n ffurfiol.
Yn ôl cefnogwyr, mae'r cynllun i greu Parc Cenedlaethol Glyndŵr yn wynebu "moment dyngedfennol", gydag etholiad y Senedd ym mis Mai yn ychwanegu at yr ansicrwydd.
Awdurdodau lleol yng ngogledd ddwyrain Cymru sy'n mynegi pryderon ynghylch ariannu'r parc, trefniadau cynllunio, a'r effaith ar wasanaethau lleol a'r iaith Gymraeg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai bwriad y parc cenedlaethol oedd cael "effaith gadarnhaol sylweddol ar ein hamgylchedd naturiol a gallu pobl i'w fwynhau" a'i bod hi'n iawn "bod y materion hyn yn cael eu hystyried yn ofalus iawn".
Parc Cenedlaethol newydd yn 'gyfle unwaith mewn cenhedlaeth'
Roedd sefydlu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru yn rhan o gynnig y llywodraeth Lafur bresennol ym Mae Caerdydd cyn etholiad y Senedd yn 2021.
Byddai'r parc yn seilio ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gan ymestyn hefyd i ogledd Powys, a byddai'n ffinio â pharc cenedlaethol Eryri tua'r de.
Ymysg yr atyniadau poblogaidd fyddai Moel Famau ym Mryniau Clwyd, traphont ddŵr Pontcysyllte, Wrecsam, rhaeadr Pistyll a llyn Efyrnwy ym Mhowys.
Byddai traphont ddŵr Pontcysyllte yn rhan o'r parc cenedlaethol newydd

Cafodd proses ffurfiol i benderfynu a oedd yr ardal arfaethedig yn ateb gofynion parc cenedlaethol ei harwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan gostio oddeutu £700,000 y flwyddyn rhwng 2022-25.
Ym mis Ionawr 2026, pleidleisiodd bwrdd y sefydliad o blaid cefnogi'r cynlluniau a chyhoeddi gorchymyn dynodi ar gyfer Parc Cenedlaethol Glyndŵr.
Roedd 58% o'r 1,678 o ymatebion i'r ymgynhoriad terfynol o blaid y parc, gyda 14% yn rhagor yn cynnig cefnogaeth amodol. Roedd 31% yn erbyn y cynlluniau, a 3% eto i benderfynu.
Fodd bynnag, datganodd pum cyngor fydd yn cael eu heffeithio gan ffiniau'r parc amheuon, gan gynnwys gwrthwynebiad ffurfiol gan nifer ohonynt.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r broses symud at ymchwiliad cyhoeddus lleol, lle bydd arolygydd cynllunio yn craffu ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn cyn cyflwyno argymhelliad i weinidogion.
Yn ogystal, nid yw'r llywodraeth bresennol yn medru penderfynu ar ddyfodol y parc cyn etholiad y Senedd, gan y bydd y penderfyniad yn nwylo'r llywodraeth newydd ar ôl 7 Mai.
'Mae'n fy ofni i'
Dywedodd Cyngor Powys eu bod yn poeni y byddai dynodi parc cenedlaethol newydd yn arwain at "bwysau ychwanegol ar ein cymunedau gwledig tra'n cynnig fawr ddim o ran buddion go iawn".
Rhybuddiodd Cyngor Wrecsam y byddai cynnydd mewn ymwelwyr yn "effeithio ar y galw am wasanaethau a chyllidebau awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill".
Yn ôl Cyngor Gwynedd, "roedd y rhesymau dros wrthwynebu yn cynnwys diffyg eglurder ar faterion penodol yn cynnwys yr iaith Gymraeg, cynllunio, cyllideb, llywodraethu a'r ardal ymgeisiol".
Mae Elin Lewis yn poeni am yr effaith bosib ar brisiau tai a'r iaith Gymraeg

Mae'r ffermwraig Sarah Lewis o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys yn mynegi pryderon y byddai'r parc cenedlaethol newydd yn gwneud bywyd yn anoddach i'w theulu a'i fusnes.
Yn ddiweddar, maen nhw wedi adeiladu sied ieir newydd a thyrbin gwynt, prosiectau arallgyfeirio y mae'n credu na fyddai wedi bod yn bosib pe bai trefniadau llymach o ran caniatad cynllunio yn eu lle.
"Ar ddiwedd y dydd mae'n ardal amaethyddol, ry'n ni'n barod yn gofalu am gefn gwlad, yn cefnogi byd natur ac yn cynhyrchu bwyd," meddai Sarah, sy'n gyn-lywydd mudiad clybiau ffermwyr ifanc Cymru.
"Dwi'n meddwl ei fod e'n anhygoel pan fod 'na broblemau eraill yn wynebu Cymru o ran y gwasanaeth iechyd, addysg, cyflwr ein ffyrdd a'n seilwaith... ein bod ni'n mynd ar ôl prosiect 'neis-i'w-wneud' [fel parc cenedlaethol]," meddai.
"Mae'n fy ofni i i fod yn onest," ychwanegodd ei merch Elin Lewis, sy'n gweithio fel seicolegydd addysg cynorthwyol yn Wrecsam.
"Dwi'n meddwl yn benant bydd prisiau tai yn mynd fyny a dy' pobl ifanc ddim gallu fforddio hynny - pam 'da ni angen cael label fydd yn pwsho ein cymuned ni allan just i 'neud yn siwr bod twristiaid yn gallu dod mewn?" meddai.
"Dwi'n berson ifanc yn byw a' di cael fy magu yma yn y gymuned ac yn rhan o glwb ffermwyr ifanc Dyffryn Tanat - mae gynnon ni dros 100 o aelodau... fydd gobeithio yn aros yn y cymunedau yma."
"I fod yn onest dwi heb siarad â lot o bobl yn ein cymuned ni sy'n cefnogi fo," meddai.
'Dwi'n gyffrous'
Mae'r naturiaethwraig Ffion Mitchell-Langford o Langollen yn gweld pethau'n wahanol.
"Dwi'n really gyffrous am y cyfle yma, a fel person ifanc sy'n byw yn yr ardal dwi'n gobeithio bydd 'na lawer o gyfleoedd newydd yn gallu dod i genedlaethau'r dyfodol," meddai.
Mae'n credu bod cynnal ymchwiliad cyhoeddus yn gam nesa' "pwysig iawn" yn y broses - ac yn gyfle i bobl sy'n byw yn ardal y parc arfaethedig i "greu syniad a gweledigaeth gyda'n gilydd o be 'da ni angen y parc cenedlaethol newydd yma i fod... i neud yn siwr bod e mynd i 'neud gwahaniaeth positif".
Mae Josef Roberts yn creu fideos arlein yn egluro enwau llefydd Cymraeg

Mae Josef Roberts, sy'n creu fideos ar-lein drwy ei gyfrif Tirlun yn egluro ystyr enwau llefydd Cymru, yn gefnogol hefyd.
"Dwi'n gwybod sut mae parciau cenedlaethol yn gallu gwneud lot i hyrwyddo ein hiaith a'n treftadaeth," meddai.
"Mae lot o bobl yn mynd i'r parciau i gysylltu a'u hunaniaith dipyn bach," esboniodd, gan gredu bod 'na "fwyafrif tawel" yn lleol o blaid y syniad o greu parc newydd yn yr ardal.
Mae hefyd yn gefnogol o'r syniad o ymchwiliad cyhoeddus gan ddweud "os mae pobl yn neud dewis maen nhw angen digon o wybodaeth".
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies AS "bod parciau cenedlaethol yn cyflawni i Gymru" gyda'r parciau presennol yn "denu tua 12 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cyfrannu tua £1 biliwn i economi Cymru".
"Yn yr un modd, rwy'n deall y pryderon a'r amheuon sydd gan awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â sefydlu parc cenedlaethol newydd ac awdurdod parc cenedlaethol newydd," meddai.
"Mae'n newid mawr – yn fwriadol, gan ei fod wedi'i gynllunio i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein hamgylchedd naturiol a gallu pobl i'w fwynhau.
"O ganlyniad, mae'n iawn bod y materion hyn yn cael eu hystyried yn ofalus iawn.
"Rwyf bellach wedi gofyn i'm swyddogion ddechrau gweithio ar sefydlu'r ymchwiliad lleol cyhoeddus, gan gynnwys paratoi ei gylch gorchwyl, ei brosesau a'i weithdrefnau a chymryd camau i nodi person priodol sydd â'r arbenigedd a'r gallu i gynnal yr ymchwiliad hwnnw."
Mae'r parc arfaethedig yn ymestyn o arfordir y gogledd at Lyn Efyrnwy ym Mhowys

Safbwyntiau Gwleidyddol a Pherthnasol
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod angen i unrhyw gynnig am barc cenedlaethol newydd "weithio gyda, nid yn erbyn, y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymunedau hyn".
Gallai biwrocratiaeth ychwanegol wneud bywyd yn anoddach i ffermwyr yr ardal, meddai llefarydd, a "bydd 'na effaith bosib ar brisiau tai, isadeiledd lleol a phwysau gan dwristiaid, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n cael trafferth ymdopi fel ag y mae," ychwanegodd.
Dywedodd Plaid Cymru bod yna "gymaint o gwestiynau heb eu hateb" a dim syndod felly "nad oes un awdurdod lleol wedi cefnogi'r cynnig".
"Mae parciau cenedlaethol presennol Cymru wedi dioddef blynyddoedd o doriadau ariannol. Oni ddyle ariannu'r parciau sydd gyda ni'n barod fod yn flaenoriaeth cyn ymestyn yr adnoddau prin rheiny ymhellach?" meddai.
Yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r cynnig am barc cenedlaethol Glyndŵr yn dal i gael ei wthio yn wyneb "gwrthwynebiad clir yn lleol" a dylai gael ei "sgrapio".
"Byddai'n pentyrru mwy o gyfyngiadau, costau uwch a rhwystrau cynllunio ar gymunedau gwledig sy'n barod dan bwysau," meddai.







