Skip to main content
Advertisement

Teulu yn talu teyrnged i Lee Barber o Geredigion wedi marw mewn gwrthdrawiad

Mae teulu Lee Barber, 19 oed o Aberaeron, wedi rhoi teyrnged iddo ar ôl iddo farw mewn gwrthdrawiad ar yr A482 yng Ngheredigion ddydd Mawrth, 24 Mawrth.

·2 min read
Llun o Lee Barber fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion

Teyrnged i Lee Barber o Aberaeron wedi marw mewn gwrthdrawiad

Mae teulu Lee Barber, dyn o Aberaeron a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A482 yng Ngheredigion, wedi rhyddhau teyrnged iddo.

Bu farw Lee Barber, 19 oed, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A482 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chiliau Aeron ddydd Mawrth, 24 Mawrth.

"Does na ddim geiriau all ddisgrifio'r boen 'dan ni'n ei deimlo fel teulu.

Mae colli ein mab Lee, wedi ein llorio ni ac wedi effeithio'n ddwys ar y gymuned ehangach."

Yn eu teyrnged, mae teulu Lee yn ei ddisgrifio fel "fab cariadus wnaeth fyw ei fywyd i'r eithaf".

"Bydd Lee yn cael ei gofio am ei garedigrwydd, ei gryfder, a'i agwedd bositif.

Roedd ganddo'r gallu i ddod â phobl at ei gilydd gan adael effaith barhaol ar bawb oedd yn ei nabod."

Ad (425x293)

Mae'r teulu hefyd wedi diolch i'r gymuned am y gefnogaeth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Diolch i bawb yn y gymuned leol ac ymhellach am yr holl gefnogaeth rydym wedi'i derbyn.

Mae'r holl negeseuon, y straeon, yr atgofion a'r lluniau sydd wedi'u rhannu gyda ni yn golygu mwy nag y gall geiriau ei fynegi.

Bydd ein bachgen Lee yn byw am byth yn ein calonnau ac yn ein meddyliau."

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn gallu galaru yn breifat.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok am y diweddaraf.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News