Datrysiad i Dagfeydd M4 yng Nghasnewydd
Mae prif weinidog Cymru wedi addo dod o hyd i ateb i dagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd. Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod twneli Brynglas yn "broblem economaidd i Gymru" ac y bydd yn dod o hyd i "ddatrysiad".
Mewn cyfweliad â rhaglen Walescast y BBC, ni wnaeth arweinydd Plaid Cymru ymrwymo i gynllun penodol, ond dywedodd fod angen ateb "yn seiliedig ar ffyrdd".
Roedd Plaid Cymru wedi bod yn gwrthwynebu'r ffordd liniaru arfaethedig ar gyfer yr M4 pan wnaeth y llywodraeth Lafur flaenorol roi'r gorau i'r cynllun.
Yn y cyfamser, mae'r prif weinidog wedi ail-ymrwymo i ddod ag amseroedd aros o ddwy flynedd neu ragor yn y GIG i ben o fewn blwyddyn, ar ôl i'w weinidog iechyd ddweud wrth ITV Cymru y gallai gymryd hyd at bedair blynedd.
Ond dywedodd y byddai'n "onest" os oes "rhwystrau" sy'n atal y llywodraeth rhag symud mor gyflym ag y gallai.
Cynllun Liniaru'r M4 a'i Hanes
Cafodd £114m ei wario ar gynllunio ar gyfer y ffordd liniaru cyn i'r prosiect gael ei atal.

Roedd ffordd liniaru'r M4, a elwir hefyd yn llwybr du, yn brosiect dadleuol i adeiladu traffordd newydd ar draws gwastadeddau Gwent i'r de o ddinas Casnewydd. Byddai wedi osgoi twneli Brynglas, sy'n cael trafferth ymdopi â faint o draffig sydd ar yr M4 ar adegau brig.
Y cyn-brif weinidog Carwyn Jones oedd yr arweinydd Llafur Cymru olaf i gefnogi'r prosiect, cyn iddo gael ei wrthod gan ei olynydd Mark Drakeford am resymau amgylcheddol a chostau.
Roedd Reform a'r Ceidwadwyr wedi addo adeiladu ffordd liniaru'r M4. Dywedodd Drakeford wrth BBC Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiadol ei fod yn credu y "byddai'r costau heddiw yn hollol afresymol".
Ffordd Liniaru'r M4 yn Dal i Gynhyrfu'r Dyfroedd
Wrth siarad yn Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn, dywedodd y prif weinidog ei bod yn bolisi Plaid Cymru ers "blynyddoedd lawer" bod "angen gwneud rhywbeth i ddatgloi tagfa Brynglas".
"Rydym yn parhau i fod yn erbyn y llwybr du hwnnw fel y'i gelwid, nad oedd ei angen."
Dywedodd fod angen "ateb seiliedig ar ffyrdd" ochr yn ochr â gorsafoedd rheilffordd newydd a gynigiwyd rhwng Caerdydd a thwnnel Hafren.
Pan ofynnwyd iddo pa fath o beth oedd ganddo mewn golwg, dywedodd fod "cynnig i gryfhau'r rhwydwaith ffyrdd gan ddefnyddio'r hen A40", a soniodd am y llwybr glas, a fyddai'n cynnwys uwchraddio ffordd ddeuol bresennol trwy dde Casnewydd.
"Yr hyn sydd angen yw gwneud y gwaith, a byddwn yn gwneud hynny, i ddod o hyd i'r datrysiadau sy'n datgloi'r broblem honno, sy'n broblem economaidd i Gymru."
'Rhaid Gwella' Sefyllfa Dros y Fenai
Dywedodd ei fod yn dal i fod eisiau newid "dulliau teithio", sef annog pobl i ddefnyddio dewisiadau amgen i geir.
"Da ni'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen digwydd, ac nid oes dim wedi digwydd ers blynyddoedd o dan y llywodraeth Lafur flaenorol."
Ni wnaeth Rhun ap Iorwerth ddiystyru trydydd croesfan newydd dros y Fenai ychwaith, ar ôl i Bont y Borth gau dair gwaith mewn wythnos, ond ni wnaeth ymrwymo i adeiladu un.
"Rhaid gwneud rhywbeth i wella gwydnwch croesfan Britannia," meddai, gan gyfeirio at y bont sy'n cludo'r A55.
"Un ateb yw cael strwythur arall wrth ei hymyl. Un arall a wnes i ei wthio ers blynyddoedd yw cael rhyw fath o fodel tair lôn."
Pryd Fydd Arosiadau Dwy Flynedd yn y GIG yn cael eu Dileu?
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd am i neb aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth y GIG o fewn blwyddyn gyntaf llywodraeth Plaid Cymru.
Wrth siarad ag ITV Cymru, addawodd y gweinidog iechyd newydd Mabon ap Gwynfor i sicrhau bod arosiadau dwy flynedd yn cael eu "dileu erbyn diwedd ein tymor" - sef 2030.
Pan ofynnwyd iddo am y sylw, glynodd ap Iorwerth at ei darged gwreiddiol, a gwadu bod y ddau yn dweud pethau gwahanol.
"Dydw i ddim am newid yr hyn rydw i wedi'i ddweud, oherwydd rydyn ni eisiau eu dileu cyn gynted â phosibl.
"Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw bod yn onest gyda phobl.
"Os byddwn yn canfod bod rhwystrau sy'n ein hatal rhag symud ymlaen mor gyflym ag rydw i wedi dweud y byddem, byddwn yn agored gyda phobl ynglŷn â'r hyn ydyn nhw."
Mae'r ffigyrau diweddaraf o ran perfformiad y GIG yn dangos bod y rhestrau aros am driniaeth wedi gostwng ym mis Mawrth, am y 10fed mis yn olynol.
Fe ostyngodd y nifer sy'n aros dwy flynedd neu fwy 42.7% o'i gymharu â mis Chwefror, i ychydig llai na 2,600.
Ond mae'r ffigyrau yn dal yn wael o'u cymharu â Lloegr, ble dim ond dwsinau o bobl sy'n gorfod aros dwy flynedd am driniaeth - gyda Chymru yn y miloedd o hyd.

'Rhwyd ddiogelwch'
Yn y cyfweliad gofynnwyd i'r prif weinidog a oedd yn poeni am faint o bobl yng Nghymru sydd ar fudd-daliadau.
Dywedodd ap Iorwerth: "Dwi'n credu bod angen i ni beidio â siarad am fudd-daliadau a'r system les fel peth drwg.
Dwi wedi elwa ohono. Pan oedd ein plant yn ifanc, trwy fuddal plant, er enghraifft."
Dywedodd fod "mater cynaliadwyedd" ac ychwanegodd bod angen "rhoi'r gefnogaeth i bobl i fod mewn lle nad oes angen y rhwyd ddiogelwch honno arnynt".
"Ond mae yna bobl a fydd bob amser angen y rhwyd ddiogelwch honno ac mae'n deg ein bod yn gofalu amdanyn nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






