Dirwy i nyrs am ymosod ar ei chymydog mewn ffrae dros barcio
Roedd gan Sharman, sydd i'w gweld yn y llun yma'n mynd i wrandawiad blaenorol, hanes o "ddrwgdeimlad" gyda'i chymdogion, clywodd y llys.
Mae nyrs 69 oed, a wthiodd ei ffordd i mewn i dŷ cymydog a'i dyrnu yn y frest mewn anghydfod ynghylch parcio, wedi cael dirwy o dros £2,000.
Roedd Christine Sharman, o Lan Ffestiniog yng Ngwynedd, yn flin bod ei chymdogion, Alun a Jane Jones wedi parcio yn y stryd y tu allan i'w chartref.
Fe wnaeth hi gerdded at eu drws ffrynt a mynnu eu bod nhw'n symud eu car cyn gwthio ei ffordd i mewn i'r tŷ.
Cafwyd hi'n euog ym mis Ebrill o ymosod ar ei chymydog Jane Jones, ac o ddefnyddio trais i fynd i mewn i'r tŷ.
Heddiw clywodd y llys fod Sharman yn dioddef o iechyd meddwl gwael a bod ei theulu'n bwriadu iddi werthu ei chartref er mwyn iddi allu symud i ffwrdd o Gymru.
Ymosodiad yn y tŷ
Yn ystod ei hachos llys ym mis Ebrill 2026, clywyd fod Sharman wedi "gwthio" i mewn i gartref ei chymdogion a dyrnu Jane Jones yng nghanol y frest o flaen ei dau ŵyr a oedd yn dair a chwech oed.
"Ro'n i'n ceisio ei gau, ond roedd hi'n gwthio yn ei erbyn gyda'i holl bwysau felly allwn i ddim.
Hyrddiodd i mewn. Wnes i fynd o'r ffordd a chefais fy nharo yn y frest gyda'i dwrn.
Ro'n i mewn sioc, do'n i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl."
Dywedodd Jane Jones wrth roi tystiolaeth fod Sharman "yn gwthio yn erbyn y drws".
'Hanes o ddrwgdeimlad'
Clywodd y llys fod yna hanes o "ddrwgdeimlad" rhwng Sharman a'i chymdogion ar draws y ffordd, Alun a Jane Jones, a bod y ffraeo yn aml yn ymwneud â pharcio.
Ar 25 Gorffennaf 2025, dywedodd Sharman ei bod yn teimlo dan straen ar ôl i Alun Jones barcio Vauxhall du y tu allan i'w thŷ.
Honnodd Sharman fod angen iddi lwytho ei char ei hun ar gyfer gwaith, a'u bod nhw'n rhwystro ei mynediad, a'i bod am siarad yn dawel â nhw.
Fe gafodd ddirwy o £2,215 gan yr ynadon a'i gorchymyn i dalu £886 i'r dioddefwr a £300 mewn costau – cyfanswm o £3,401.
Fe wnaethant hefyd ei gwahardd rhag mynd at ei chymdogion, neu fynd ar eu heiddo.
Amddiffyniad y nyrs
Wrth amddiffyn Sharman yn y gwrandawiad heddiw, disgrifiodd y cyfreithiwr Glyn Roberts hyn fel "achos trist iawn."
"Mae ganddi broblemau iechyd corfforol a meddyliol.
Mae'n gwbl afrealistig y dylai hi fyw ar draws y ffordd i (Mr a Mrs Jones)."
Bydd y tŷ yn cael ei roi ar y farchnad cyn gynted â phosibl er mwyn iddi allu symud yn ôl i sir Gollewin Efrog, lle mae hi'n dod a lle gall gael cefnogaeth ei theulu."
Manylion ychwanegol
Nyrs yng Ngwynedd yn euog o ymosod ar ei chymydog mewn ffrae dros barcio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






