Y gwrthdrawiad a'i ganlyniadau
Cafodd Rhys Jenkins ei ladd yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ym mis Tachwedd 2024, tra cafodd ei fab naw oed ei anafu'n ddifrifol.
Mae gyrrwr car a darodd gar arall gan arwain at farwolaeth tad i ddau o blant ac anafu difrifol i fab 9 oed, wedi dweud wrth y llys nad oedd yn gyrru ar "gyflymder gormodol" ac nad oedd ef na'i frawd yn "rasio".
Bu farw Rhys Jenkins o Ddeuddwr, Powys, yn lleoliad y gwrthdrawiad ar 16 Tachwedd 2024.
Cafodd ei fab, Ioan, ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gyda anafiadau difrifol.
Cyhuddiadau a gwadu
Mae Abubakr Ben Yusaf, 31 oed, ac Umar Ben Yusaf, 35 oed, yn gwadu cyhuddiadau o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.
Mae Abubakr Ben Yusaf hefyd yn gwadu cyhuddiad o achosi marwolaeth wrth yrru heb yswiriant.
Mae'r ddau frawd yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Tystiolaeth Abubakr Ben Yusaf yn y llys
Gan roi tystiolaeth yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, dywedodd Abubakr Ben Yusaf ei fod wedi bod yn gweithio fel optometrydd locwm yn Aberteifi ar adeg y digwyddiad, a bod ei frawd yn gwneud yr un swydd yn Aberystwyth, lle roedden nhw'n rhannu fflat.
Roedd y ddau yn gyrru'n ôl o Aberystwyth i gartref y teulu ym Manceinion pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Dywedodd Mr Ben Yusaf wrth y llys fod ei frawd wedi gadael o'i flaen mewn Audi A4 glas a'i fod ef wedi gadael mewn BMW X3 coch tua 17:00.
Clywodd y llys gan Abubakr Ben Yusaf mai car ei dad oedd y BMW a'i fod wedi'i yswirio ganddo, ond dywedodd ei fod yn credu bod ei dad wedi'i ychwanegu fel gyrrwr ychwanegol ar y polisi.
Dywedodd ei fod wedi gyrru'r car ar nifer o achlysuron, gan gynnwys gyda'i dad yn deithiwr.
Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o'i frawd yn gyrru'n agos y tu ôl iddo a dywedodd ei fod wedi disgwyl y byddai wedi bod ar y blaen oherwydd iddo adael Aberystwyth o'i flaen.
Dywedodd ei fod yn anghytuno â nifer o dystion a ddywedodd iddyn nhw weld y BMW yn gyrru ar gyflymder gormodol ar hyd yr A483 yn y munudau cyn y gwrthdrawiad.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng.
Ychwanegodd Mr Ben Yusaf, er iddo oddiweddyd nifer o gerbydau ar y daith, mai dim ond "pan oedd yn meddwl ei bod yn ddiogel" oedd yn gwneud hynny.
Y symudiad a'r colli gafael
Gofynnodd Hugh Barton, bargyfreithiwr Abubakr Ben Yusaf, os oedd yn derbyn fod y lluniau camera dashcam a gafodd eu dangos i'r llys nifer o weithiau yn dangos ei fod yn goddiweddyd car. Gofynnwyd iddo hefyd beth oedd ei farn am y symudiad.
"Dydy o ddim yn edrych yn dda…ar y pryd roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddiogel i'w wneud…wrth edrych yn ôl rŵan, gallwn i fod wedi gadael mwy o le…rhwng y cerbyd o flaen…doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn unrhyw beth peryglus i'w wneud ar y pryd."
Ychydig cyn y gwrthdrawiad, dywedodd fod ei gerbyd wedi "colli gafael" ar y ffordd.
"Teimlais fel pe bai newid sydyn yng nghyflwr y ffordd gyda'r ffordd y gwnaeth y cerbyd ymateb, nes i deimlo fod y cerbyd wedi colli gafael a dechreuodd symud o ochr i ochr".
"'Dw i'n credu fy mod wedi brecio i geisio cael rheolaeth ar y car. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn gallu," gan ychwanegu ei fod hi'n "rhyfedd sut roedd y car yn symud".
Adborth y gyrrwr ar ôl y gwrthdrawiad
Ar ôl y gwrthdrawiad, dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn cofio "deffro," a chanfod ei hun yn wynebu'r cyfeiriad arall ar y ffordd.
"Roeddwn i'n mewn cyflwr o sioc".
"Roeddwn i'n ymwybodol fy mod i wedi bod mewn damwain ond doeddwn i ddim yn deall beth oedd yn digwydd ar y pryd."
Dywedodd Mr Ben Yusaf iddo wedyn adael ei gar a gweld cerbyd roedd e'n ei "adnabod", sef cerbyd ei frawd, ac aeth i sedd teithiwr y car.
Eglurodd nad oedd yn cofio popeth:
"'Dw i'n teimlo 'mod i, ar y pryd, yn mynd mewn ac allan o ymwybyddiaeth," meddai, gan ychwanegu ei fod wedi colli ei olwg a'i glyw dros dro. Dywedodd mai ei atgof nesaf oedd bod yng nghefn ambiwlans.
Yn ddiweddarach, gofynnwyd iddo pam y atebodd "dim sylw" mewn cyfweliad gyda'r heddlu ar ôl cael ei arestio.
Dywedodd ei fod wedi gwneud hynny oherwydd y cyngor cyfreithiol oedd wedi ei dderbyn gan gyfreithiwr.
Ychwanegodd fod y digwyddiadau'r noson honno wedi "effeithio'n fawr" arno ac nad oedd "diwrnod yn mynd heibio" heb iddo feddwl amdano.
"Byddwn i'n dymuno y gallwn ei newid...mae fy nghalon yn mynd allan at y teulu," meddai.
Gwadu rasio
Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr ei frawd, Sean Minihan, fe wadodd ei fod wedi "rasio" ei frawd y noson honno, a dywedodd nad oedd Audi Umar Ben Yusaf wedi ei oddiweddyd.






