Mae dyn busnes wedi galw am “fwy o ddiogelwch” ar faes y Sioe Frenhinol ar ôl i feiciau cwad gael eu dwyn dros y penwythnos. Dywedodd Will Ellis o Lanbedr Pont Steffan y byddai llai o fusnesau yn dod â stoc i’r sioe oni bai bod mwy yn cael ei wneud i atal digwyddiadau tebyg.
Mae adroddiadau bod sawl beic cwad wedi cael eu dwyn o faes y Sioe dros y penwythnos, ac mae’r Sioe Frenhinol wedi dweud eu bod yn ymwybodol o’r lladradau ac wedi cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol.
Wedi ei ganfod o fewn awr a hanner
Mae Will Ellis yn gyfarwyddwr ar gwmni D G Thomas Agri Ltd o Lanbed, ac mae wedi bod â stondin yn y Sioe Frenhinol ers blynyddoedd. Ond nid oedd wedi cael y dechrau gorau i’w wythnos ar ôl i un o’i feiciau cwad gael ei ddwyn oddi ar y maes.
Dywedodd iddo gyrraedd nos Wener i osod y stondin, ond fore Sul fe gafodd alwad ffôn gan Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod un o’i feiciau cwad wedi cael ei ddwyn.
Yn ffodus iddo, mae beiciau’r cwmni yn cynnwys ‘tracker’, ac felly roedd modd dod o hyd i’r beic yn sydyn.
“Ro’n i’n gwybod bod ’na tracker ar y beic, so galwad ffôn yn syth i’r cwmni tracker, a chware teg iddyn nhw, ’naethon nhw siarad yn syth gyda Heddlu Dyfed-Powys ac anfon gwybodaeth y live tracker iddyn nhw.
“O fewn awr a hanner roedden nhw wedi ffeindio’r beic ac roedd ar y ffordd ’nôl i’r sioe.”
Dyma’r beic cwad a gafodd ei ddwyn gan gwmni Will Ellis dros y penwythnos
Ag yntau wedi hen arfer â’r sioe, dywedodd Mr Ellis ei fod yn “siomedig iawn” ac wedi “cael ofn” yn dilyn y sefyllfa.
“Mae ’na obviously security fan hyn [ar y maes], a ’da ni’n talu lot am y stondin a meddwl bod stoc ni yn saff, a dydi o ddim.
“Ma’ hyn yn digwydd i ffermwyr ar draws Cymru ac ar draws Prydain - mae’n rhaid bod ’na rhyw fath o stop iddo.
“Roedd y beic ’ma dros £6,000. Mae ’na focs oedd ar y beic wedi cael ei ddwyn, a ’da ni ddim wedi cael hwnna ’nôl yn anffodus.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cael cais am sylw.
Gwybod bod problem yma
Mae Mr Ellis o’r farn bod angen mwy o ddiogelwch ar faes y sioe er mwyn atal digwyddiadau o’r fath.
“Yn sicr mae angen mwy o ddiogelwch yma ar y maes.
“Mae ’na gymaint o ymdrech a phres yn mynd mewn i’r stoc i gyd, a gan y dealers a’r manufacturers i gyd.
“Mi fydd rhaid i ni gael mwy o ddiogelwch i barhau i ddod â stoc yma. ’Da ni’n gwybod bod ’na broblem yma.”
Cafodd beic cwad cwmni Neil Keeble hefyd ei ddwyn dros y penwythnos
Un arall a welodd un o’i feiciau yn cael ei ddwyn dros y penwythnos oedd Neil Keeble o gwmni KYMCO.
Yn debyg i Mr Ellis, fe ddaeth i’r sioe ddydd Gwener i osod ei stondin, ond erbyn dydd Sul fe gafodd wybod bod un o’i feiciau cwad wedi cael ei ddwyn.
“O gofio ein bod wedi gosod y stondin yr un fath am y bum mlynedd ddiwethaf, ro’n i wedi synnu,”
“Ond mae’n codi cwestiwn beth mae’r diogelwch ar y maes yn gwneud i’r holl stondinwyr.”
Ychwanegodd fod y digwyddiad yn ei wneud yn ansicr am ddychwelyd y flwyddyn nesaf.
“Rydych chi wastad yn conscious yng nghefn eich meddwl bod y math hyn o bethau am ddigwydd.
“Ond pan chi’n talu am stondin sy’n cynnwys diogelwch 24 awr yna mae’n rhaid i chi ddibynnu ar y trefnwyr.”
Mesurau diogelwch ychwanegol
Dywedodd Sioe Frenhinol Cymru eu bod yn “ymwybodol o’r adroddiad o’r beiciau cwad wedi eu dwyn”.
“Rydym yn rhannu’r rhwystredigaeth a’r pryder a gafodd ei achosi gan y digwyddiadau hyn, ac rydym yn cefnogi’r masnachwyr sydd wedi eu heffeithio a’r heddlu yn eu hymchwiliadau.
“Rydym wedi cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol ac wedi darparu arweiniad a chyngor pellach ar ddiogelwch i’r rhai sydd â stondinau.
“Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif mawr ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau hyn i gysylltu â’r heddlu.”
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Lluniau: Dydd Llun yn y Sioe Fawr
Teyrnged i ddyn, 25, fu farw yn ardal y Sioe Fawr
Cyllideb taliadau amaeth tan 2030 yn cynnig 'sicrwydd i ffermwyr'









