Mae "pawb yn teimlo'r golled" yng nghymuned wledig Uwchaled yn dilyn marwolaeth dyn 25 oed yn y Sioe Frenhinol, meddai cynghorydd lleol.
Yn gynharach ddydd Llun rhoddodd teulu Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr deyrnged iddo, gan ei alw'n
"fab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus".
Bu farw ar Fferm Penmaenau yn Llanelwedd dros y penwythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Gwennol Ellis, sy'n cynrychioli ardal Llanfihangel Glyn Myfyr, ei bod yn gobeithio bod y
"don o gariad"sy'n cael ei anfon at y teulu
"yn fodd o'u cynnal nhw trwy'r brofedigaeth erchyll yma".







