Marwolaeth mewn gwrthdrawiad beic cwad ger Llandrillo
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Llandderfel a Llandrillo.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4401 tua 19:01 nos Sul, ac roedd yn cynnwys beic cwad Honda.
Dywedodd yr heddlu fod y beiciwr wedi ei gyhoeddi yn farw yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys a'r cyhoedd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i'r digwyddiad.
Mae perthnasau agosaf y dyn a'r crwner wedi cael gwybod.
Roedd Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig yn y fan a'r lle i gynnal ymchwiliadau cychwynnol, gan arwain at gau'r ffordd am sawl awr.
Diolchodd yr heddlu i'r cyhoedd am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.
Dywedodd y Rhingyll Duncan Logan ei fod yn "estyn ei gydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn ar adeg anodd iawn".
"Mae'r digwyddiad hwn bellach yn cael ei ymchwilio fel gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un a oedd yn teithio neu'n cerdded yn yr ardal ac sydd â gwybodaeth, lluniau teledu cylch cyfyng, dashcam neu fideo ffôn symudol i gysylltu â nhw.






