Dyn yn euog o drefnu saethu menyw ddieuog yn Ne Cymru o'i gell yn y carchar
Mae dyn a oedd eisoes yn y carchar am lofruddiaeth wedi'i gael yn euog o drefnu saethu menyw ddieuog yn Ne Cymru o'i gell yn y carchar.
Defnyddiodd Renaldo Baptiste "ffôn carchar" cudd i gyflenwi'r gwn a laddodd Joanne Penney yn Nhonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth 2025.
Mae Baptiste yn un o bedwar person arall a gafwyd yn euog am eu rhan yn llofruddiaeth Joanne Penney, gafodd ei dal yng nghanol 'rhyfel tiriogaeth' rhwng dau gang cyffuriau oedd yn gweithredu yn Ne Cymru.
Ar ddiwedd ail achos llys yn dilyn y saethu yn Nhonysguboriau, cafwyd Donna James a Laura John o Gaerdydd yn euog o gynorthwyo troseddwr, tra cafwyd Molly Cooper o Gaerlŷr yn euog o gaffael bwledi ar gyfer arf tanio.
Roedd pump arall eisoes wedi'u cael yn euog o lofruddiaeth Joanne Penney fel rhan o'r rhyfel tiriogaeth cyffuriau mewn achos llys cynharach eleni.
Bydd 11 aelod o'r gang troseddau cyfundrefnol sydd wedi'u cael yn euog mewn cysylltiad â llofruddiaeth Joanne Penney yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach.
Dilynwch Cymru Fyw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Ergyd gwn i'w brest laddodd menyw yn Nhonysguboriau - cwest
- Saethu Rhondda Cynon Taf: Chwech yn llys y goron
- Teyrnged teulu i fenyw 'caredig a chryf' a gafodd ei saethu






