Skip to main content
Advertisement

Dyn 82 oed yn marw ar ôl tân mewn tŷ ar Ynys Môn

Dyn 82 oed wedi marw ar ôl tân mewn tŷ ar Ffordd Penmynydd, Ynys Môn. Heddlu a gwasanaethau tân yn ymchwilio i'r digwyddiad.

·1 min read
Llun o Ffordd Penmynydd

Tân mewn tŷ ar Ffordd Penmynydd ar Ynys Môn

Mae gwasanaethau brys yn ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl i ddyn 82 oed farw yn dilyn tân mewn tŷ ar Ynys Môn.

Cafodd yr heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Ffordd Penmynydd ger Porthaethwy tua 17:00 ddydd Sul, 19 Ebrill.

Cafodd corff y dyn ei ddarganfod y tu allan i'r eiddo, ac yn ddiweddarach cyhoeddwyd ei fod wedi marw.

Ad (425x293)
"Mae'n rhaid i ni ddangos ein cydymdeimlad dwys gyda theulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd yma," meddai Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio ar y cyd i'r digwyddiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News