Disgyblion ysgol Ynys Môn yn cysylltu â gwasanaethau brys i achub padlfyrddiwr
Roedd Grug (chwith) ac Ania (dde) ar y traeth yn dathlu pen-blwydd Efa (canol) pan sylwodd y grŵp ar badlfyrddiwr yn mynd i drafferth yn ystod storm.
Mae criw o ddisgyblion o Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, Ynys Môn, wedi rhannu eu profiad o gysylltu â gwasanaethau brys pan welon nhw berson mewn trafferth yn y môr.
Galwyd criw RNLI Moelfre i glogwyni ger Cemaes nos Fercher, 27 Mai, ar ôl i ddynes ar badlfwrdd fynd i drafferth gyda'i chi yng nghanol storm.
Roedd Ania, Efa, Grug, Ellis a Logan ar y traeth y diwrnod hwnnw ac fe wnaethant rybuddio gwylwyr y glannau am y digwyddiad.
Yn ôl Vince Jones o griw RNLI Moelfre:
"Mae'n wych gweld y gymuned leol ac yn enwedig y genhedlaeth iau yn meddwl am ddiogelwch eraill."
Roedd hi'n ddiwrnod braf a phoeth yng Nghemaes pan benderfynodd y paddlfyrddiwr fynd i'r dŵr.
"Roedden ni wedi penderfynu dathlu pen-blwydd Efa ar y traeth oherwydd y tywydd da, felly roedden ni'n chwarae yn y tywod pan 'naeth o droi'n rili drwg yn reit sydyn," meddai Grug, 13.
Wrth i'r storm gyrraedd, sylweddolodd y grŵp fod dynes ar badlfwrdd yn cael trafferth cyrraedd y traeth.
"Roedd hi'n dechrau symud tuag at y creigiau ac roedd y storm jyst yn gwaethygu a doedd na'm ffordd iddi hi gael allan o 'na," meddai Ellis, 14.
Dechreuodd y grŵp gwestiynu a oedd angen help ar y fenyw a'i chi.
"Roedden ni'n cwestiynu a ydyn ni'n mynd i fynd mewn i'r dŵr i helpu hi," meddai Logan, 13.
"Roedden ni'n teimlo'n drist ac yn rili poeni amdani."
Ellis (dde) gyda chefnogaeth Logan (chwith) benderfynodd ffonio 999.

Sylweddolodd y grŵp fod y ddynes wedi ffeindio ei ffordd i garreg wrth y clogwyn a dringo arni.
'Naeth ni gyd redeg i ben arall y traeth i weld os oedd rhywun yn y creigiau, a welais y ddynes yna heb y padlfwrdd - roedd hi'n sbïo lawr i'r môr i ble roedd o.
Yna dywedodd person mewn car bod nhw wedi gweld yr un peth a bod ganddi gi, ac felly o'n i'n teimlo ei bod hi mewn trafferth.'
Ychwanegodd Ania:
"Oedden ni jyst yn meddwl gan fod hi wedi bod yn eistedd yna am hir ac roedd y tywydd yn mynd yn waeth a bod angen help arni."
Penderfynodd y grŵp ffonio mam Efa i wirio a oedd eu teimlad bod angen cysylltu gyda gwylwyr y glannau yn gywir.
"Oedden ni'n drysu wrth benderfynu os oedden ni am ffonio neu ddim, ac roedd y storm wedi gwneud i ni deimlo'n ofn," meddai Efa.
Wedi'r sgwrs gyda mam Efa, fe wnaeth Ellis ffonio'r RNLI.
"O'n i'n ofnus am ffonio'r coastguard rhag ofn iddi [y ddynes] ddod allan ar ben ei hunain, ond o'n i'n sicr ar ôl 'chydig fy mod i wedi gwneud y peth cywir.
O'n i'n poeni mwy amdani hi na'r sefyllfa."
Ymateb y criw RNLI a phwysigrwydd cysylltu
Roedd Vince Jones yn un o saith aelod o griw RNLI Moelfre oedd yn gweithio'r noson honno pan ddaeth galwad Ellis.
"Daeth yr alwad 'chydig cyn iddi nosi i ddweud bod padlfyrddiwr wedi'i ddal wrth ymyl y clogwyni," meddai.
"Doedd yr amodau ddim yn dda o gwbl - y gwaethaf dwi wedi gweld mewn dros 20 mlynedd o weithio ym Moelfre."
Gyda help y grŵp ar y traeth, daeth y criw bad achub o hyd i'r ddynes a'i chi, ond gan ei bod hi mewn dŵr bas roedd yn rhaid lansio cwch llai er mwyn ei chyrraedd.
"Fe wnaethon nhw'r peth iawn drwy ein galw ni yn gynnar," meddai Mr Jones.
Roedd gan y ddynes broblem gyda'i phadlfwrdd - roedd yn colli gwynt yn araf, oedd yn golygu ei bod yn cael trafferth dal ei phwysau.
'Da ni'n dibynnu ar bobl, fel y grŵp ifanc yma, yn cysylltu efo ni i rybuddio bod rhywun mewn perygl," ychwanegodd Mr Jones.
Roedd Vince Jones yn un o saith o griw RNLI Moelfre oedd wedi ymateb i alwad Ellis.

Erbyn i'r criw achub gyrraedd y ddynes a'i chi, roedden nhw'n dioddef yn yr oerfel ar ôl bod yn sownd yn y creigiau ynghanol y storm am gyfnod hir, ond doedd hi ddim wedi cael ei hanafu.
Cafodd y ddau eu tywys i'r lan at dîm gwylwyr y glannau oedd yno i helpu.
Roedd y grŵp o ddisgyblion hefyd ar y traeth ar ôl aros er mwyn helpu'r criw achub i ganfod y ddynes.
"Daeth y tîm RNLI draw atom ni i ddweud diolch.
Fe wnaethon nhw ddweud bod y paddleboard wedi popio ac felly bod o'n alwad dda, a galla'r sefyllfa wedi bod yn wael iawn."
Ychwanegodd Grug:
"Roedd o'n dda gweld y ddynes yn dod i'r lan, ond 'naethon ni ddim siarad gyda hi yn bersonol achos roedd hi wedi cael bach o sioc, felly roedd hi am fynd yn syth."
Mae'r grŵp yn annog unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw, beth bynnag eu hoedran, i ffonio am gymorth.
"Go with your gut feeling fydda fy neges i, ac i wneud o cyn gynt â phosib, achos gyda'r tywydd yna gallai hi wedi bod mewn llawer mwy o drafferth os bydden ni wedi aros."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







