Mae’r gwasanaethau brys yn credu bod tanau ar fynydd yn ne-ddwyrain Cymru wedi cael eu cynnau yn fwriadol, wrth i griwiau barhau i ddelio â’r fflamau yn Llanwynno ger Cwm Rhondda ers prynhawn Sadwrn. Mae’r digwyddiad yn dal yn “ddigwyddiad sylweddol” oherwydd maint y tân ac “amodau heriol”, gan gynnwys niwl a glaw.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod adroddiadau o “gynnau tân bwriadol” ar y mynydd dros nos ddydd Lun, wrth i ddiffoddwyr barhau i geisio ei gyfyngu. Nid ydy trigolion wedi gorfod gadael eu cartrefi, ond mae canolfan orffwys wedi cael ei sefydlu ar gyfer pobl sydd ddim eisiau aros adref oherwydd ansawdd aer gwael.
Yn ôl y gwasanaeth tân, maen nhw’n parhau i gydweithio gydag asiantaethau eraill i gyfyngu ar y tân a rhwystro lledaeniad pellach, gan helpu i warchod eiddo a chymunedau cyfagos.
“Roedd adroddiadau am gynnau tân bwriadol ar y mynydd,” meddai’r gwasanaeth.
“Bu diffoddwyr tân yn gweithio trwy’r nos mewn amodau heriol i fynd i’r afael â’r tân ac amddiffyn eiddo.”

Y lleoliad yn ‘apocalyptaidd’
Roedd un sy’n byw yn yr ardal, Dafydd Rogers, yn siarad ar y Post Prynhawn ddydd Mawrth, a dywedodd fod y lleoliad yn edrych yn “apocalyptaidd”. Mae ei ferch wedi cael ei gwahardd rhag mynd â char yn agos at y pentref, meddai, a bod y fflamau wedi bod “mor agos â hanner can llath” i’w thŷ.
Esboniodd fod diffoddwyr wedi “llwyr ymroi ac wedi blino’n lan yn gorwedd ar yr hewl”, pan aeth yno brynhawn Llun i edrych ar y sefyllfa.
“Mae’n edrych fel ’se fe wedi gwella ond glaw mân oedd e’ yn fwy na dim byd, a bydde’ unrhyw beth dwi’n meddwl yn helpu i dampio’r ardal lawr.
“Beth oedd y gwasanaeth tân yn dweud ddoe oedd bo’ nhw’n wyliadwrus am hot spots - ble roedd yna dân yn dal i losgi o dan ddaear ac yn debygol o ddod yn ôl eto.”
Dywedodd Caryl Holmes bod y sefyllfa’n “ddychrynllyd”. Esboniodd Caryl Holmes, sy’n byw yno, bod y rhan fwyaf o’i theulu yn byw yn yr ardal, gyda thŷ ei merch “ar y mynydd fwy neu lai”.

“Fi wedi bod yn gweld bod pawb yn iawn i fod yn saff nad yw’r tân yn agos i’w cartrefi, ond roedd e’n agos i gartre’ fy merch,” meddai.
“Roedd e’ mor agos ac yn ddychrynllyd i fod yn onest. Doedd dim hawl ’da hi i ddod adre’ nes ei fod wedi cael ei ddiffodd.”
Dywedodd hi fod y fflamau yn ddrwg nos Lun yn enwedig, pan fu “mwg mor dew nad o’n i’n medru anadlu”, gan ychwanegu bod y diffoddwyr wedi bod yn “anhygoel”.
Pa mor gymhleth yw’r tân?
Mae Christian Hadfield yn rheolwr ardal i’r gwasanaeth tân, ac eglurodd fod criwiau wedi bod yn bresennol yn y digwyddiad ers dydd Sadwrn, ond iddo gael ei ddatgan yn ddigwyddiad sylweddol ddydd Llun er mwyn diogelu cartrefi yn yr ardal.
“Rydyn ni’n creu bylchau tân ac yn monitro’r ardal,” meddai.
Dywedodd fod adroddiadau am “bocedi o gynnau tân bwriadol”, sy’n rhoi’r timau “mewn amgylchiadau peryglus ac yn rhoi straen ar y gwasanaeth”. Mae’r tân yn “waith cymhleth ac yn un na ellir ei ragweld”, meddai, gan ddweud y gallai diffoddwyr tân fod yno “am nifer o ddyddiau eto”.
Ychwanegodd Mr Hadfield fod hofrennydd ar gael i helpu, ond bod y tywydd yn rhy arw iddo fedru hedfan.

Mae’r tywydd rhy arw i hofrennydd fedru hedfan i helpu, medd Christian Hadfield
Y cyngor i drigolion sy’n cael eu heffeithio gan fwg ydy i gadw ffenestri a drysau ar gau lle bo’ modd. Mae ffyrdd yn parhau ar gau a’r cyngor i’r cyhoedd ydy i osgoi’r ardal.
Mae gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am gynnau tanau bwriadol gysylltu gyda Heddlu’r De.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







