Fflat yn Aurora wedi bod yn broblem ers bron i ddwy ddegawd
Mae fflat Jayne McGregor yn natblygiad Aurora wedi achosi "cur pen" iddi ers ei brynu bron ugain mlynedd yn ôl.
Roedd prynu fflat mewn datblygiad yn Abertawe i fod yn fuddsoddiad ar gyfer ymddeoliad Jayne McGregor, ond 18 mlynedd yn ddiweddarach, nid oes modd gwerthu'r fflat.
Mae hi'n un o 30 o lesddeiliaid sy'n dwyn achos yn erbyn cwmni yswiriant Zurich yn yr Uchel Lys, gan gyhuddo'r cwmni o roi gwarant er nad oedd y fflatiau wedi cael eu harchwilio'n drylwyr.
Mae cyn-weithiwr o Zurich yn datgan nad oedd y cwmni wedi archwilio'r fflatiau, sydd â risg tân, yn drylwyr.
Mae cyfreithiwr yn nodi bod perchnogion wedi cael eu caethiwo gan anallu i werthu eu heiddo.
Mae Zurich Insurance yn gwrthod yr honiadau o gyhoeddi dogfennau'n amhriodol ac yn mynnu nad ydynt wedi camliwio canfyddiadau arolygiadau.
'Gwybod nad oedd yn iawn'
"Doedd dim digon o oriau mewn diwrnod [i wneud yr holl swyddi]," meddai'r cyn-weithiwr.
"O fy mhrofiad i, fe ddigwyddodd hyn dair neu bedair gwaith. Daeth cyfarwyddyd e-bost [a oedd yn dweud] 'Rydw i wedi cyhoeddi'r gwaith papur, allwch chi fynd i archwilio'r fflatiau yr wythnos nesaf?'
"Wel byddai pobl yn byw yn y fflatiau yr wythnos nesaf, felly allwn i ddim mynd i'w harchwilio. Roedd y sefyllfa'n hurt.
"Roeddwn i'n gwybod nad oedd yr hyn yr oedden ni'n ei wneud yn iawn ond roedd angen i mi gadw esgidiau ar fy nhraed a chael bwyd ar y bwrdd."
Mae'r datblygwr, Persimmon, yn parhau i drwsio diffygion niferus yn natblygiad Aurora ym marina Abertawe.

Lesddeiliaid ar draws y DU wedi cymryd camau cyfreithiol tebyg yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd pryderon am ddiogelwch blociau fflatiau uchel, yn enwedig ar ôl trychineb tân Grenfell yn 2017.
Yn Abertawe, dechreuodd trigolion symud i ddatblygiad Aurora yn 2009.
O ganlyniad i broblemau dŵr yn dod i mewn i'r adeilad a diffygion diogelwch tân, dywed Jayne McGregor ei bod hi'n "amhosib gwerthu'r fflat".
"Mae'r straen oherwydd y problemau ariannol sydd wedi codi yn sgil yr holl broblemau gyda'r fflat wedi achosi problemau iechyd," ychwanegodd.
Roedd problem gollwng dŵr yn natblygiad Aurora yn fuan ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau, a chanfuwyd diffygion diogelwch tân yn ddiweddarach.
"Yn 2017, gyda thrychineb Grenfell, fe wnaeth hynny gynyddu lefelau straen pawb," meddai Keith Evans, un o berchnogion sy'n arwain y camau cyfreithiol yn erbyn Zurich.
"Rydyn ni'n teimlo ein bod wedi ein twyllo yn 2008 pan gafodd yr fflatiau eu codi."
Nid Aurora yw'r unig ddatblygiad ar lan y môr yn Abertawe lle mae diffygion difrifol wedi'u canfod yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Zurich nad yw'r cwmni erioed wedi bod yn gyfrifol am unrhyw golledion y mae lesddeiliaid Aurora wedi'u dioddef ac nad oes unrhyw hawliadau wedi'u talu o dan y warant deng mlynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Zurich:
"Rydym yn gwerthfawrogi'r straen y mae'r sefyllfa hon wedi'i achosi i lesddeiliaid. Cyfrifoldeb y datblygwr, sef Persimmon Homes, yw cywiro'r diffygion yn natblygiad Aurora.
"Mae polisi Zurich ond yn weithredol os yw'r datblygwr yn mynd i'r wal.
"Rydym yn gobeithio y bydd Persimmon yn gallu datrys y sefyllfa hon i lesddeiliaid cyn gynted â phosibl."
Ychwanegodd Zurich eu bod yn ymwybodol o bryderon llwyth gwaith ymysg y gweithlu tua 2009-10, a'u bod wedi cymryd "pob cam rhesymol i gefnogi syrfewyr" ac i "gynnal safonau uchel".
Mae'r datblygwr Persimmon Homes yn parhau i wneud gwaith ar yr adeilad ar ôl iddyn nhw gytuno gyda pherchnogion i dalu am yr holl waith.
Cyngor Abertawe oedd yn gyfrifol am sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.
Mae cais wedi cael ei roi i Gyngor Abertawe am ymateb ond nid yw'r lesddeiliaid yn dwyn achos yn erbyn yr awdurdod lleol.
Achosion tebyg
Mewn achos tebyg yn 2022, cyrhaeddodd perchnogion fflatiau yn adeilad uchaf Cymru, Tŵr Meridian, setliad gyda Zurich tu fas i'r llys ar ôl honiadau tebyg.
Roedd honiadau bod syrfëwr Zurich wedi methu â chyflawni archwiliadau cyn cyflwyno tystysgrifau yswiriant ar gyfer adeilad gyda nifer o broblemau gan gynnwys diffygion diogelwch tân.
Mewn achos arall ym Manceinion a gyflwynwyd yn yr Uchel Lys yn 2019, dywedodd y barnwr Stephen Davies fod adeilad New Lawrence House yn cynnwys "nifer o ddiffygion difrifol".
Mae trawsgrifiadau llys yn datgelu bod rhai syrfewyr Zurich yn "bryderus" nad oedd "digon o weithwyr" yn yr adran i gyflawni'r gwaith o archwilio'r holl fflatiau cyn prosesu gwarantau.
Dywedodd y Barnwr Davies ei fod yn "fodlon" gyda'r farn bod arolygydd Zurich wedi cymeradwyo'r fflatiau oherwydd eu bod "mor awyddus i gwblhau ei waith ar y safle".
Derbyniodd lesddeiliaid filiynau o bunnoedd mewn iawndal o ganlyniad i'r achosion hyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyfraith newydd i Gymru ddegawd ar ôl trychineb Grenfell
- Galw am ymchwiliad wedi cwynion am waith cwmni ynni a aeth i'r wal







