Adolygiad Annibynnol o Lywodraethiant Elusennau Esgobaeth Bangor
Mae adolygiad annibynnol o waith dwy elusen o fewn Esgobaeth Bangor yn disgrifio "dirywiad llywodraethiant da a phrosesau priodol" dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar waith Bwrdd Cyllid Esgobaethol Bangor (BCEB) a'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor (YEB).
Mae'n dod i'r casgliad y dylai'r elusennau hyn "fod wedi'u harwain gan leygwyr, a dylai'r BCEB fod wedi gweithredu fel gwrthbwysedd a chyfaill beirniadol i ffocws gweinidogaethol yr Esgob".
"Collwyd y tensiwn cadarnhaol hwnnw, a chollodd byrddau'r ymddiriedolwyr olwg ar eu swyddogaeth a'u pwysigrwydd,"
yn ôl awduron yr adroddiad, Jim Clifford ac Alice Hulbert o Sonnet Advisory & Impact, arbenigwyr ym maes elusennau.
Mae'r adroddiad yn cydnabod bod "cynnydd sylweddol wedi'i wneud i unioni'r sefyllfa" ers canol 2025, ac yn ystod cyfnod yr adolygiad.
Cynlluniau i Benodi Esgob Dros Dro ym Mangor
Cadeirlan Bangor: Ymgyrchwyr yn codi £14,000 i achub swyddi
Cadeirlan Bangor yn ystyried diswyddo dwy ran o dair o'i gweithlu

Canfyddiadau Allweddol yr Adolygiad
Un o ganfyddiadau'r adolygiad yw bod Cyngor yr Esgob wedi'i sefydlu ac "wrth i'w gylch gwaith ddatblygu fe ymledodd i gymryd penderfyniadau oddi wrth yr Ymddiriedolwyr".
Ychwanegodd yr adroddiad bod penderfyniadau ar "faterion â goblygiadau ariannol yng Nghyngor yr Esgob (gan gynnwys penderfyniadau ariannol a wnaed heb unrhyw fewnbwn ariannol amlwg na diwydrwydd dyladwy), ac yna naill ai'u cyflwyno i'r Ymddiriedolwyr fel materion eisoes wedi'u penderfynu, neu heb eu cyflwyno i'r Ymddiriedolwyr o gwbl".
"O ganlyniad, roedd Ymddiriedolwyr nad oeddent yn aelodau o Gyngor yr Esgob yn anymwybodol o ymrwymiadau ariannol allweddol."
Cafodd safbwyntiau a llais annibynnol ar y Bwrdd "eu lleihau neu eu tawelu", ac fe aeth "gwybodaeth ariannol gyfyngedig at yr Ymddiriedolwyr."
Cafodd "rheolaethau mewnol eu datgymalu a'u tanseilio" ac roedd "bylchau critigol" mewn cofnodion a dogfennau hefyd, meddai'r adroddiad.
Gwelliannau a Argymhellir
Mae'r adroddiad yn nodi bod gwelliannau wedi'u gwneud ers canol 2025 gan gynnwys arweinyddiaeth newydd ac adrodd ariannol cryfach.
Mae'r argymhellion yn cynnwys uno'r ddwy elusen esgobaethol - BCHEB ac YEB - yn un corff, diweddaru aelodaeth a chyfrifoldebau byrddau'r ymddiriedolwyr a chryfhau cynllunio ac adrodd ariannol.
Dywedodd Hywel Parry-Smith, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: "Er nad ydym yn tanamcangyfrif o gwbl y gwaith sydd o'n blaenau, rwy'n galonogol o'r ymateb cadarnhaol a'r gefnogaeth barod gan ymddiriedolwyr, staff a rhanddeiliaid eraill.
Gyda chyfeiriad clir ac ymdeimlad a rennir o bwrpas, gallwn symud ymlaen gyda gobaith ac egni newydd."
Dywedodd Jim Clifford, prif awdur yr adolygiad: "Mae ein hadolygiad yn egluro beth a achosodd iddynt chwalu, ond hefyd yn dangos sut y gellir eu hailadeiladu ar sail yr hyn sydd eisoes wedi'i wneud.
Yn ei hanfod, mae Bwrdd Cyllid Esgobaethol yn galluogi Cenhadeth yr Esgobaeth, ond hefyd yn gweithredu fel cyfaill beirniadol i'r tîm gweinidogaeth wrth nodi beth sy'n bosibl a sut i'w gyflawni."
Dilynwch a Chysylltwch
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







