Skip to main content
Advertisement

Ymwelwyr Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn Streicio am Fis Dros Anghydfod Cyflog

Mae dros 100 o ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dechrau streicio am fis dros anghydfod cyflog, gan fynnu talu band 7 yn hytrach na band 6, gyda diffyg o £8,000-£9,000 y flwyddyn yn cael effaith ar eu cyflog.

·4 min read
Ysbyty Pen-y-bont

Ysbyty Tywysoges Cymru yn Brif Ysbyty Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Mae Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn un o brif ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Gweithredu Diwydiannol gan Ymwelwyr Iechyd

Mae dros 100 o weithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dechrau ar gyfnod o weithredu diwydiannol yn dilyn anghytuno parhaus am eu band cyflog.

Ddydd Llun bydd rhan fwyaf o ymwelwyr iechyd y bwrdd yn dechrau streicio am gyfnod o bedair wythnos wrth iddyn nhw fynnu nad yw eu cyflogwr yn talu'r cyflog cywir iddynt - yn seiliedig ar eu cymwysterau.

Yn ôl undeb Unite, mae ymwelwyr iechyd yr ardal yn cael tâl band 6 yn hytrach na band 7.

Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau fand yn golygu bod gweithwyr ar eu colled o rhwng £8,000 a £9,000 y flwyddyn.

Safbwynt Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dweud eu bod nhw'n "ymwybodol fod newidiadau wedi'u gwneud i ofynion addysg ar gyfer ymwelwyr iechyd o ganlyniad i benderfyniadau a gymerwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth" a'u bod nhw "wedi ymrwymo i weithio drwy effaith y newidiadau hyn fel rhan o'r trafodaethau gydag undebau llafur".

Rôl Ymwelwyr Iechyd

Mae ymwelwyr iechyd yn cefnogi teuluoedd gyda phlant rhwng 0-5 oed.

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd mae ymwelwyr iechyd, nyrsys iechyd y cyhoedd a bydwragedd yn cynnig cyngor arbenigol a chefnogaeth i deuluoedd a phlant.

Maen nhw'n cefnogi iechyd a lles plant o'r cyfnod cyn geni hyd at 5 mlwydd oed drwy gynnig gwybodaeth a chyngor i rieni.

Mae ymwelwyr iechyd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol mewn nyrsio iechyd cyhoeddus cymunedol i ddod yn nyrsys arbenigol.

Mae'r hyfforddiant gyfwerth â gradd meistr ac yn ôl Unite mae hynny'n golygu y dylai'r swydd gael ei hystyried yn un band 7 ac felly dylid talu cyflog uwch i'r gweithwyr.

Advertisement
Llun ymwelydd iechyd gyda rhiant a phlentyn
Disgrifiad o’r llun, Mae ymwelwyr iechyd yn cefnogi teuluoedd gyda phlant rhwng 0-5 oed

Datganiad Undeb Unite

"Mae hwn yn gynllwyn gwarthus gan fwrdd iechyd - maen nhw'n ceisio osgoi talu'r arian y mae staff yn ei haeddu.
Mae hwn yn wahaniaeth cyflog sylweddol sydd wedi gadael ein haelodau â chyflog isel.
'Nid oes ganddynt lawer o ddewis ond mynd ar streic a bydd ganddynt gefnogaeth lawn Unite yn yr anghydfod hwn."

Newidiadau mewn Adran Frys a Symud Corffau

Ystafell drochi newydd mewn adran frys am 'newid cymaint o fywydau'.

Symud 500 o gyrff rhwng corffdai bwrdd iechyd oherwydd diffyg lle.

Datganiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Mae'r bwrdd iechyd wedi bod mewn trafodaethau gydag Unite a staff ymwelwyr iechyd ers i gwynion ffurfiol gael eu cyflwyno ym mis Chwefror 2024.

Roedd yna gais i ddiweddaru disgrifiad swydd ymwelydd iechyd Band 6 i adlewyrchu dyletswyddau'r rôl, ac i ailasesu'r swydd.

Cafodd disgrifiad o'r swydd ei ailasesu a chytunwyd mai swydd Band 6 yw hi.

Mae'r bwrdd iechyd yn ymwybodol, dros y blynyddoedd diwethaf, fod newidiadau wedi'u gwneud i ofynion addysg ar gyfer ymwelwyr iechyd o ganlyniad i benderfyniadau a gymerwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i weithio drwy'r newidiadau hyn fel rhan o drafodaethau cenedlaethol gydag undebau llafur.

Rydym yn parchu hawliau cydweithwyr i gymryd camau gweithredu diwydiannol a byddwn yn gweithio gyda thimau i leihau'r aflonyddwch i deuluoedd ar draws ein cymunedau yn ôl yr angen."

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod gan "GIG Cymru strwythur partneriaeth gymdeithasol cryf ac rydym yn annog y ddwy ochr i geisio cael datrysiad drwy ddefnyddio'r broses ffurfiol berthnasol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News