Mesur Cymorth i Farw yn Nhŷ'r Arglwyddi
Mae Aelodau o'r Senedd wedi pleidleisio o blaid rhoi'r grym i weinidogion reoli gwasanaethau cymorth i farw yng Nghymru, os bydd deddf San Steffan yn cael ei gymeradwyo.
Yn y bleidlais, cefnogodd 28 o Aelodau'r Senedd y cynnig, tra gwrthwynebwyd gan 23, gyda dau yn ymatal.
Mae hyn yn golygu y bydd gan weinidogion Cymru'r awdurdod i sefydlu gwasanaethau cymorth i farw ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Byddai deddfwriaeth San Steffan yn caniatáu i rai oedolion sy'n dioddef o salwch terfynol yng Nghymru a Lloegr ddod â'u bywydau i ben.
Mae'r pwnc yn parhau i rannu barn, gyda phryderon gan bobl o fewn y sector iechyd a gofal ynghylch manylion y mesur.
Ar hyn o bryd, mae'r mesur yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Arglwyddi, lle mae cefnogwyr wedi mynegi pryderon y gallai nifer fawr o welliannau olygu na fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei basio.
Dilynwch y Newyddion
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap i gael y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig a Straeon Perthnasol
- Mam wedi newid ei barn ar gymorth i farw yn sgil salwch ei mab
- Cymorth i farw: 'Gallai sefydliadau preifat ddarparu gwasanaeth'







