Skip to main content
Advertisement

Mam yn newid ei barn ar gymorth i farw ar ôl gweld dioddefaint ei mab

Shelley Herniman, mam dyn ifanc gyda salwch terfynol, wedi newid ei barn ar gymorth i farw ar ôl gweld poen a dioddefaint ei mab Noah, sy'n cael triniaeth ar gyfer tiwmor ymennydd. Bydd y Senedd yn pleidleisio ddydd Mawrth ar y mater.

·5 min read
Noah Herniman ar y chwith yn gwisgo het due a chrys llwyd. Shelley Herniman ar y dde yn gwisgo het gwyn a sbectol.

Newid barn mam ifanc ar gymorth i farw

Mae Shelley Herniman, mam dyn ifanc sydd â salwch terfynol, wedi newid ei barn ar gymorth i farw ar ôl gweld poen a dioddefaint ei mab, Noah, sy'n cael triniaeth ar gyfer tiwmor ar ei ymennydd.

Yn wreiddiol, roedd Shelley yn erbyn rhoi'r hawl i gael cymorth i farw, ond newidiodd ei safbwynt ar ôl cael trafodaethau gyda Noah a gweld effaith y salwch arno.

"Des i â [Noah] i'r byd ac wrth gwrs dwi ddim eisiau bod yn gyfrifol am ddod a'i fywyd i ben, ond dydw i chwaith ddim eisiau ei weld yn dioddef," meddai Shelley.

Ddydd Mawrth, bydd y Senedd yn pleidleisio ar a ddylai roi'r grym i sefydlu gwasanaethau cymorth i farw ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, os bydd San Steffan yn cymeradwyo'r ddeddf.

Cafodd cymorth i farw ei wrthod fel egwyddor gan y Senedd mewn pleidlais ym mis Hydref 2024, ond gallai ddod yn gyfraith yng Nghymru a Lloegr petai San Steffan yn rhoi sêl bendith, gan nad yw'n fater datganoledig.

'Dyw hynny ddim yn urddasol'

Noah Herniman, o Gas-gwent, dechreuodd 74 wythnos o gemotherapi pan oedd yn 15 oed, wedi cael diagnosis terfynol o diwmor ar ei ymennydd.

Roedd y triniaeth yn achosi sgil-effeithiau difrifol; o fewn misoedd, gostyngodd ei bwysau i tua 50kg. Roedd disgwyl iddo ddechrau ail rownd o gemotherapi am 80 wythnos, ond ni allai ei gorff ymdopi, meddai ei fam.

Dechreuodd Noah drafod teithio dramor i gael cymorth i farw, ond doedd Shelley ddim yn fodlon ystyried hynny ar y pryd.

Wedi cyfnod o ymchwilio a gweld dioddefaint ei mab, newidiodd Shelley ei barn ar y mater.

Llun o Shelley Herniman yn ei thy
Disgrifiad o’r llun, Mae Shelley Herniman wedi newid ei barn ar ôl gweld effaith salwch ar ei mab
"Fe welais i pa mor wael aeth ei iechyd.
"Ar un cyfnod roedd hi'n anodd gweld Noah yn dychwelyd adref o'r ysbyty achos mi oedd e mewn cymaint o boen ac yn sgrechian gan ei fod mor wael.
"Fe effeithiodd y cemotherapi cymaint ar ei afu a'i arennau."

Er bod iechyd Noah wedi gwella ers peidio parhau gyda'r cemotherapi, mae'r tiwmor yn parhau i dyfu'n araf.

Mae'n anodd dweud faint o amser sydd ganddo i fyw, ond mae'n parhau'n bositif ac yn cynllunio mynd i'r brifysgol.

Fodd bynnag, mae Noah a'i deulu yn ymwybodol y daw diwrnod pan fydd ei gorff yn dechrau methu gweithio'n annibynnol.

Advertisement
"Yn y pendraw, mi fydd e'n methu gwneud pethau'n annibynnol a bydd e'n colli'r gallu i siarad oherwydd natur ei diwmor ar ei ymennydd.
"Dyw hynny ddim yn urddasol," meddai.

"Dwi eisiau marwolaeth gyflym ac heb boen" meddai Noah

Noah dywedodd ei fod yn "ofni" y syniad o farw, ond mae'n ceisio bod optimistaidd am ei ddyfodol.

Pan ddaw'r amser i wynebu marwolaeth o ganlyniad i'w salwch, mae'n benderfynol o gael marwolaeth gydag urddas.

Llun o Noah Herniman yn ei dy
Disgrifiad o’r llun, "Dwi eisiau marwolaeth gyflym ac heb boen" meddai Noah
"Un dydd fe fydd y tiwmor yn cyrraedd pwynt lle bydd rhaid dweud dyma ddechrau'r diwedd ac os felly, dydw i ddim eisiau marwolaeth hir a phoenus lle dwi ddim yn gallu gwneud unrhyw beth i fy hun.
"Dwi eisiau marwolaeth gyflym a dydw i ddim eisiau byw am fisoedd yn teimlo'n ofnus wrth ddioddef."

Mae Noah a'i deulu hefyd yn galw am fwy o ddealltwriaeth gan wleidyddion o'u safbwynt.

Cymorth i farw: 'Gallai sefydliadau preifat ddarparu gwasanaeth'

Mae'r pwnc yn parhau i rannu barn, gyda phryderon gan weithwyr iechyd a gofal ynghylch manylion y mesur.

Mae llawer o faterion i'w penderfynu yn San Steffan, lle mae'r mesur ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae cefnogwyr wedi mynegi pryder y gallai nifer fawr o welliannau rwystro pasio'r ddeddfwriaeth.

Dywedodd Mark Taubert, ymgynghorydd gofal diwedd oes: "Mae nifer o ddoctoriaid yn nerfus iawn am hyn.
"Does yna ddim digon o fesurau ar hyn o bryd i ddiogelu cleifion ac mae yna ddiffyg dealltwriaeth o gyflwr ein gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, sydd o dan straen enfawr."

Mae'n galw ar wleidyddion y Senedd i ystyried yn ofalus pwy ddylai fod yn gyfrifol am unrhyw ddeddfwriaethau cymorth i farw yn y dyfodol wrth iddynt benderfynu ar y bleidlais.

Nid yw canlyniad y bleidlais ddydd Mawrth yn sicr. Er nad yw Plaid Cymru wedi cadarnhau a fydd ei Aelodau yn cael cyfarwyddyd i bleidleisio'n benodol, disgwylir i'r rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd, gan gynnwys o Lafur a'r Ceidwadwyr, gael pleidlais rydd.

Gallai San Steffan anwybyddu pleidlais y Senedd, ond mae cefnogwyr y ddeddfwriaeth wedi dweud y bydden nhw'n newid y mesur i gael gwared ar rannau sy'n ymwneud â Chymru pe bai aelodau'n pleidleisio yn erbyn.

Os bydd y Senedd yn gwrthod caniatau'r mesur sy'n cael ei drafod yn San Steffan, gallai hynny olygu bod gwasanaethau cymorth i farw ar gael yng Nghymru ond nid ar y gwasanaeth iechyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News