Stori Hannah
Hannah Stevenson o Aberteifi oedd y person ieuengaf yng Nghymru i gael ci tywys pan ddaeth Ozzie i'w bywyd yn 14 oed wedi iddi gael diagnosis o glaucoma blwyddyn ynghynt.
Ond ni wyddai'r teulu ar y pryd y byddai'r labrador brown hefyd yn newid bywyd mam Hannah, Jackie Stevenson, sy' erbyn hyn yn paratoi ci tywys arall ar gyfer ei waith yn helpu pobl dall.
Mae Hannah yn rhedeg hanner marathon Lerpwl ar Mawrth 15 er cof am Ozzie, ei ffrind ffyddlon a bu farw ym Mai llynedd.
Bu'r ddwy yn trafod effaith y 'ci arbennig' ar eu bywydau mewn sgwrs ar Bore Cothi ar Radio Cymru.

Mae Hannah, sy' erbyn hyn yn gweithio yn ysbyty Alder Hey, Lerpwl fel rheolwr yn yr uned argyfwng, yn cofio yn ôl i'r flwyddyn ddaeth Ozzie i fyw ati:
"Ges i'n 'ngeni da glaucoma a wedyn collais i fwy o 'ngolwg amser oedden i tua 13.
Amser o'n i tua 14 mlwydd oed, ges i ci tywys cynta' fi, Ozzie, y person cyntaf dan 18 yng Nghymru (i gael ci tywys).
O'n i'n lwcus iawn i allu cael Oz. O'n i wedi mynd trwyddo gyd o'r tests, fi oedd guinea pig bach nhw i weld a fyddai'n gweithio. Ond aeth popeth yn dda, daeth e i Ysgol Dyffryn Teifi gyda fi.
Oedd e'n joio ysgol, oedd e'n mynd i guide camps, oedd e'n dod i'r côr.
Unrhyw le o'n i'n mynd, oedd e'n dod, heblaw am y siop tsips ble o'n i'n gweithio. Oedd Oz 'da fi drwy'r coleg, daeth e i'r Commonwealth Games a Buckingham Palace fel ci tywys fi, oedd e'n neud bywyd lot yn haws ac yn neisach.
A marwodd e yn y haf, ac o'n i'n meddwl, beth dwi'n mynd i neud?

Rhedeg hanner marathon
"Synnai'n berson sy'n rhedeg o gwbl, fi'n dwetha ym mhob ras. So oedd e yn rial challenge ond fi'n rhedeg hanner marathon er cof am Oz ac i godi arian i elusen Cŵn Tywys Cymru.
Hannah Stevenson yn hyfforddi ar gyfer yr hanner marathon gyda'i chi tywys newydd, Coco

Oedd Dad arfer galw Ozzie yn cysgod fi. Oedd e'n rili bwysig bod ni'n neud popeth 'da'n gilydd. Oedd e moyn gweithio i fi, ac o'n i moyn neud popeth i fe.
Oedd e'n gorfod codi yn y bore a doedd e ddim yn gwybod a oedd e'n mynd i fod yn jwmpo ar drên a wedyn plên, neu a oedd e jyst yn mynd i orfod ishte yn y llyfrgell drwy'r dydd.
Roedd e'n gorfod cael y ffydd yna ynddo fi a wedyn o'n i'n gallu cael y ffydd 'na nôl ynddo fe.
Oedd e yn yr ysgol gyda fi i ddechrau, yn dod ar y bws gyda fi. Mae'n rili bwysig bod y cŵn ddim jyst yn gallu gweithio fel cŵn tywys, ond maen nhw'n iawn i aros yn llonydd.
Mae cŵn tywys yn cael eu hyfforddi yn Saesneg, ond achos es i i ysgol ffrwd Gymraeg newidion ni tra bod ni ar hyfforddiant i'r Gymraeg.
Ble bynnag o'n i'n mynd byddai fe'n iawn ac yn hapus – roedd hi'n berthynas cryf iawn."
Stori Jackie
Mae Jackie, mam Hannah, yn sôn am sut oedd y teulu yn ymddiried yn Ozzie:
"Roedd gweld y berthynas yma rhwng Hannah a Ozzie yn datblygu, a'r ffydd yma'n gweithio'r ddau ffordd, a bod hi'n gallu dibynnu arno fe.
Roedd perthynas cryf iawn 'da nhw, ond o'n i wedi bod yn eitha' lwcus - achos mae plentyn oedd Hannah yn cael Oz, o'n i'n gorfod mynd gyda hi amser oedd hi'n cael ei hyfforddi i weithio gyda fe.
O'n i'n dilyn nhw rownd Sblot yng Nghaerdydd am dair wythnos, ac o'n i'n gallu gweld sut gymaint o help oedd Oz i Hannah, ond hefyd faint o waith oedd e i Hannah i wneud yn siŵr bod hi'n gweithio Oz mewn ffordd oedd yn edrych ar ôl fe a wedd e yn deall beth oedd hi moyn.
Oedd hi â ffydd yn Oz, ond oedd eisiau ffydd yndda i yn Oz hefyd. O'n i'n gweld e'n cerdded gyda hi, reit lan i ymyl y pafin, stopio ac wedyn croesi'r hewl yn deidi.
Gyda amser o'n i wedi dod i ddeall mai Oz oedd un o'r pethe gore oedd byth wedi bod gyda Hannah.
Oedd hi'n neud a gallu neud popeth oedd hi moyn cyn hynny. Ond oedd gwneud e gyda Oz shwt gymaint yn rhwyddach. Roedd e'n helpu gweithio mas y ffordd gyda hi. Roedd partneriaeth sbeshal iawn gyda nhw.
Os na fydden i wedi dilyn hi amser oedd hi'n cael yr hyfforddiant, bydden i ddim wedi sylwi faint o waith oedd wedi mynd mewn i Oz i gael e i fod yn gi mor sbeshal.
Ond mae'n syndod beth maen nhw'n gallu neud, maen nhw'n sbeshal iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Plentyn â nam golwg 'wedi syfrdanu' gan y dechnoleg i wylio pêl-droed
- Dyn o Fôn eisiau helpu mwy o bobl sydd â nam golwg i fwynhau rhedeg







