Skip to main content
Advertisement

Dynes mewn poen barhaus ar ôl llawdriniaeth rhwyll yn rhannu ei stori

Kerry Watson, a gafodd rhwyll yn 2014, yw un o 25 o fenywod sydd wedi derbyn iawndal ar ôl llawdriniaethau gynaecoleg yng ngogledd Cymru. Mae'n profi poen barhaus ac yn galw am fwy o gefnogaeth a gwybodaeth i fenywod eraill.

·5 min read
Llun Kerry Watson

Dynes a gafodd rhwyll yn 2014 mewn poen barhaus ar ôl llawdriniaeth

Mae Kerry Watson, a gafodd rhwyll wedi'i osod yn 2014, yn profi poen barhaus ar ôl llawdriniaeth gynaecoleg ac yn dweud na ddylai menywod fel hi ddioddef yn dawel.

Mae Ms Watson yn un o 25 o fenywod sydd wedi derbyn iawndal yn dilyn llawdriniaethau a gafodd eu gwneud gan un llawfeddyg yng ngogledd Cymru.

Yn awr, mae'n rhaid iddi ddefnyddio ffon gerdded ac mae'n cymryd dros 100 o dabledi pob wythnos i ddelio â'r boen ar ôl cael rhwyll (mesh) yn y fagina wedi'i osod yn 2014.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro ac wedi cyfaddef nad oedd Ms Watson wedi cael gwybod yn llawn am y risgiau a'r sgîl-effeithiau, nac am yr opsiynau eraill oedd ar gael.

'Do'n i ddim eisiau bod yma o gwbl'

Cafodd Kerry Watson, 40 o Fae Cinmel yn sir Conwy, y rhwyll wedi'i osod i ddelio â phrolaps y bledren (bladder prolapse).

Ond deffrodd o'r llawdriniaeth mewn poen, sydd erioed wedi diflannu, ac sydd wedi gwaethygu dros amser.

"Roedd yn teimlo fel pe bai nodwydd yn mynd trwy fy nghefn, ac yn dod allan o'm blaen," meddai.
"Mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl. 'Da chi'n cael meddwl niwlog a 'da chi'n dioddef blinder.
"'Da chi ddim yn gallu gweithredu fel dynes - a dyna'r sefyllfa bob dydd am 10 mlynedd.
"Dwi'n fam i dri o fechgyn, ond o'n i'n teimlo fel 'mod i'n methu. Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, allwn i ddim hyd yn oed sefyll i'w gwylio nhw'n chwarae pêl-droed.
"Ar ôl 10 mlynedd, do'n i ddim yn gallu cerdded, do'n i ddim yn gallu gyrru, do'n i ddim yn gallu gwneud y pethau mae Mam fod i wneud dros ei phlant.
"Dyna pryd do'n i ddim eisiau bod yma o gwbl."

Llun Kerry gyda'i thri mab
Disgrifiad o’r llun, Roedd y poen wedi gadael Kerry Watson mewn sefyllfa lle nad oedd hi'n gallu "gwneud y pethau mae Mam fod i wneud dros ei phlant"

Erbyn mis Mehefin 2024, roedd pethau wedi gwaethygu cymaint fel y penderfynodd Ms Watson gael llawdriniaeth i dynnu rhan o'r rhwyll o'i chorff.

Mae'r boen wedi gwella, ond nid yw wedi diflannu, ac mae hi'n aros am lawdriniaeth bellach.

"Mae'n rhywbeth mae menywod yn gwneud - 'da chi'n trio cuddio popeth, 'da chi'n pellhau eich hun oddi wrth ffrindiau a theulu.
"Roedd y boen a'r ffordd ro'n i'n teimlo yn fy niffinio.
"Ond mae'r hyn sydd wedi digwydd i mi wedi digwydd i fenywod eraill hefyd.
"Dwi methu dioddef y syniad o fenywod eraill yn eistedd adref, mor anghyfforddus, mewn cymaint o boen.
"Rydw i'n rhannu fy stori i roi'r dewrder i eraill ddod ymlaen a pheidio dioddef ar eu pen eu hunain."

Llun Kerry gyda sawl bocs o thabledi o'i blaen hi
Disgrifiad o’r llun, Mae Kerry Watson yn gorfod cymryd dros 100 o dabledi pob wythnos i ddelio â'r boen yn dilyn ei llawdriniaeth

Yn 2018, cyhoeddodd y GIG y bydden nhw'n rhoi'r gorau i ddefnyddio rhwyll fagina yn dilyn pryderon ynghylch diogelwch cleifion.

Advertisement

Yr ymgynghorydd a wnaeth y llawdriniaeth ar Kerry Watson oedd Derek Klazinga, a wnaeth ymddeol yn 2016.

Mae Ms Watson yn un o sawl menyw sy'n dweud nad oedden nhw wedi cael digon o wybodaeth am y risgiau posib cyn i lawdriniaethau gael eu cynnal o dan ei ofal.

Cysylltodd BBC Cymru â Derek Klazinga i ofyn sut y cafodd ganiatâd Kerry Watson ar gyfer y llawdriniaeth, ac a oedd wedi egluro iddi fod triniaethau eraill yn bosibl.

Mewn datganiad i raglen Y Byd Ar Bedwar ar S4C, dywedodd:

"Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad diffuant bod y menywod hyn wedi gorfod dioddef poen corfforol a seicolegol o'r fath, a achoswyd gan yr hyn yr ydym bellach yn gwybod sy'n gynnyrch meddygol diffygiol, a gafodd ei ddefnyddio yn eu triniaethau.
"Cyn ymddeol yn 2016, roeddwn bob amser yn gweithredu gyda'r claf wrth wraidd fy ngofal, gan lynu at egwyddor gyntaf meddygaeth: 'yn gyntaf, peidiwch wneud niwed'."

Rhwyll fagina
Disgrifiad o’r llun, Cafodd rhwyll fagina ei osod mewn cyrff rhai menywod cyn 2018 er mwyn cefnogi organnau fel y bledren

Cafodd rhwyll fagina ei osod mewn cyrff rhai menywod cyn 2018 er mwyn cefnogi organnau fel y bledren.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n rhedeg y GIG yng ngogledd Cymru, wedi ymddiheuro am y dioddefaint y mae rhwyll fagina wedi'i achosi mewn rhai achosion.

Dywedodd y cyfarwyddwr meddygol gweithredol Dr Clara Day:

"Rydw i eisiau cydnabod y straen a'r boen y mae hyn wedi'i achosi i gyfran fach o fenywod yn ein rhanbarth a gafodd y llawdriniaeth hynny.
"Rydw i wedi cael gwybod am rai honiadau hanesyddol mewn perthynas ag un clinigwr a adawodd y bwrdd iechyd yn 2016.
"Trwy'r system gyfreithiol, rydym wedi cydnabod niwed corfforol i rai cleifion a gafodd driniaethau, ac rydym wedi canfod nad oedd cadw cofnodion a derbyn caniatâd wedi'u cwblhau i'r safon ofynnol mewn nifer o achosion.
"Mae pob hawliad wedi arwain at ddysgu i ni, sydd wedi cael ei graffu arno gan arbenigwyr y tu allan i'n bwrdd iechyd."

Os yw cynnwys yr erthygl wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • 'Mae angen pencampwr i gefnogi cleifion rhwyll pelfig'
  • 'Angen ffyrdd amgen o drin prolaps'

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News