Skip to main content
Advertisement

Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynllunio cau tair uned strôc arbenigol

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cefnogi cau tair uned strôc arbenigol, gan gadw uned strôc arbenigol yn unig yng Nghaerfyrddin. Mae ymgyrchwyr yn mynegi pryderon am y newid, tra bod y bwrdd yn pwysleisio mai creu gwasanaethau cynaliadwy yw'r nod, nid arbed arian.

·6 min read
Protest Bronglais

Ymgyrchwyr yn mynegi pryder am gau uned strôc Ysbyty Bronglais

Mae ymgyrchwyr sy'n awyddus i gadw uned strôc yn Ysbyty Bronglais wedi mynegi eu bod yn teimlo bod y penderfyniad i gau tair uned strôc arbenigol yn "siomedig ac yn bryderus".

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cefnogi cynllun i leihau nifer yr unedau strôc arbenigol o bedwar i un yn eu hysbytai. Ar hyn o bryd, mae unedau strôc yn gweithredu mewn ysbytai yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Aberystwyth a Hwlffordd. Os bydd y cynllun a gymeradwywyd mewn cyfarfod arbennig ddydd Iau yn cael ei weithredu, dim ond yr uned yng Nghaerfyrddin fydd yn parhau i fod yn weithredol.

Mae ymgyrchwyr sy'n galw am gadw uned yn Ysbyty Bronglais yn mynegi pryder y gallai'r ysbyty fod heb ddoctor strôc yn y dyfodol.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, nid yw'r newidiadau hyn yn ymwneud ag arbed arian, ond maent yn rhan o ymdrech i gryfhau gwasanaethau bregus, eu gwneud yn gynaliadwy a sicrhau bod safonau clinigol yn cael eu cwrdd.

Ymgynghoriad a phenderfyniadau ar wasanaethau clinigol

Mewn ymgynghoriad yr haf diwethaf, cyflwynwyd nifer o opsiynau i'r cyhoedd ynghylch sut y byddai naw gwasanaeth clinigol yn cael eu rheoli yn y dyfodol. Mewn cyfarfod cyhoeddus eithriadol yng Nghaerfyrddin dros ddau ddiwrnod, trafododd y bwrdd iechyd y rhain, ynghyd â 22 opsiwn pellach a gyflwynwyd gan dros 4,000 o ymatebwyr i'r broses ymgynghori.

Daeth cadarnhad ddydd Iau fod y bwrdd iechyd wedi cymeradwyo newidiadau i naw gwasanaeth yn gyffredinol. Yn ogystal â'r newidiadau i wasanaethau strôc, bydd llawdriniaeth gyffredinol frys yn dod i ben yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, a bydd yr uned gofal dwys (UGD) yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli yn cael ei newid i fod yn uned gofal ychwanegol, sy'n darparu lefel is o ofal na'r UGD.

Ni fydd y newidiadau'n cael eu gweithredu ar unwaith, ac mae cleifion yn cael eu cynghori y bydd y gwasanaethau yn parhau fel arfer am y tro.

Clywodd y cyfarfod mai'r cynlluniau i newid gwasanaethau strôc Ysbyty Bronglais ac Aberystwyth oedd y rhai a ddenodd y gwrthwynebiad cryfaf.

Arwydd Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun, Clywodd y cyfarfod mai'r cynlluniau i newid gwasanaethau strôc Ysbyty Bronglais, Aberystwyth wnaeth ddenu'r gwrthwynebiad cryfaf

Ymddiheuriad a diolch gan y bwrdd iechyd

Wrth agor ail ddiwrnod y cyfarfod, diolchodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Neil Wooding, i'r rhai a gyfrannodd i'r ymgynghoriad, gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai'r penderfyniadau'n rhoi sicrwydd iddynt.

Roedd y newidiadau i wasanaethau strôc wedi bod yn destun ymgyrchu cryf yn Aberystwyth a dalgylch Ysbyty Bronglais. Yn ystod sesiwn gyntaf y cyfarfod, clywodd y bwrdd mai'r newidiadau hynny oedd "wedi denu'r gwrthwynebiad cryfaf".

Advertisement

Diwygwyd yr opsiwn a gefnogwyd ar gyfer gwasanaethau strôc o ganlyniad i awgrymiadau gan aelodau'r cyhoedd yn ystod yr ymgynghoriad. Mae hyn yn golygu y bydd uned strôc dan ofal arbenigwyr 24 awr y dydd yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, tra bydd "gwasanaeth trin a throsglwyddo" ac uned adsefydlu yn Aberystwyth. Yn Llanelli a Hwlffordd bydd unedau trin a throsglwyddo.

Clywodd y cyfarfod fod y penderfyniad i gefnogi'r opsiwn amgen yn golygu y bydd angen cyfnod pellach o ymgysylltu â'r gymuned yn dilyn gwaith mewnol ychwanegol, gan gynnwys asesiad risg.

Pryderon Lisa Francis am drosglwyddo cleifion

Ar ôl y penderfyniad, dywedodd Lisa Francis, cadeirydd grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, ei bod yn siomedig.

"Mae'n ddiflas achos efallai fydd 'na ddim doctor strôc ym Mronglais ar ôl hynny," meddai.
"Fe fydd rhyw fath o rehab unit ond efallai bydd Bronglais heb strôc unit.
"Yn ystod y cyfarfod, roedd tua 25 o bobl yn eistedd rownd y bwrdd. Wnaeth dim un ddweud y gair 'ambiwlans' - os bydd ambiwlansys ar gael i wneud y trosglwyddo.
"A dim ond un, dwi'n credu, sydd wedi dweud unrhyw beth am yr ardal mae Bronglais yn gwasanaethu, fel de Meirionydd, fel Powys.
"Dwi'n poeni am y trosglwyddo. Sut mae pobl yn mynd i gael eu symud lawr i Gaerfyrddin i'r strôc unit?"
Lisa Francis
Disgrifiad o’r llun, Mae Lisa Francis yn poeni am sut y bydd cleifion yn cael eu trosglwyddo i Gaerfyrddin

Newidiadau nid ar sail arbedion

Ar ddechrau'r cyfarfod, dywedodd Huw Thomas, cyfarwyddwr cyllid y bwrdd iechyd, nad oedd y penderfyniadau'n ymwneud ag arbed arian.

"Heddiw dy'n ni ddim yn gwneud arbedion - nid dyna'r rheswm pam ni'n cael y cyfarfod yma," meddai.
"Ond rhesymau o fregusrwydd, creu gwasanaethau cynaliadwy a safonau clinigol. Ond mae 'da ni ddyletswydd i'r trethdalwr hefyd."

Gan grynhoi trafodaethau blaenorol y bwrdd iechyd, dywedodd Lee Davies, y cyfarwyddwr strategaeth a chynllunio:

"Mynychodd 4,000 o bobl ddigwyddiadau ymgysylltu, a chawsom dros 4,000 o holiaduron.
"O safbwynt gwasanaethau acíwt, edrychom ar dri gwasanaeth - llawdriniaeth gyffredinol frys, gofal critigol a strôc.
"[Yn y meysydd hynny] ry'n ni wedi clywed nad yw ein poblogaeth ar hyn o bryd yn elwa o'r datblygiadau mewn safonau yr ydym wedi'u gweld ar draws gweddill y DU a'r byd, ac mae angen i ni feddwl am sut y bydd ein gwasanaethau yn y dyfodol yn gosod y sylfeini i ni fod mewn sefyllfa i gyflawni'r safonau hynny."

Newidiadau i wasanaethau acíwt a gofal critigol

Bydd unedau trin a throsglwyddo strôc yn parhau yn ysbytai Bronglais, Llwynhelyg a Tywysog Philip.

Ysbytai Bronglais, Llwynhelyg a Tywysog Philip
Disgrifiad o’r llun, Bydd unedau trin a throsglwyddo strôc yn parhau yn ysbytai Bronglais, Llwynhelyg a Tywysog Philip

Bydd y newidiadau ar gyfer gwasanaethau acíwt – heblaw strôc – yn golygu diwedd ar lawdriniaeth gyffredinol frys yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Yn lle hynny, bydd Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) yr ysbyty yn cael ei gryfhau. Bydd llawdriniaeth gyffredinol frys yn parhau yn Aberystwyth a Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Ar gyfer gofal critigol, mae gan y pedwar ysbyty uned gofal dwys (ICU) ar hyn o bryd, gyda throsglwyddo'r cleifion mwyaf sâl yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. Penderfynodd y bwrdd gymeradwyo'r opsiwn a fyddai'n gweld unedau gofal dwys yn aros yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Hwlffordd, tra byddai'r gwasanaeth yn Llanelli yn newid i uned gofal ychwanegol, a all ddarparu gwasanaethau i gleifion sefydlog yn hytrach na'r lefel uwch o ofal sy'n cael ei ddarparu mewn ICU.

Newidiadau i chwe gwasanaeth arall

Cytunodd y bwrdd iechyd hefyd ar newidiadau i wasanaethau offthalmoleg, orthopedig, dermatoleg, wroleg, endosgopi a radioleg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News