Cynllun i godi fferm wynt ar fynyddoedd Cambria ger Tregaron
Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn pwysleisio bod pobl yn gwerthfawrogi'r tir am ei harddwch naturiol.
Bydd trigolion Tregaron yn cael cyfle dros y misoedd nesaf i roi eu barn ar gynllun i godi fferm wynt ar y mynyddoedd gerllaw.
Yn ôl cwmni EDF, gallai prosiect Nant y Maen gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 146,000 o gartrefi, ond mae gan Gymdeithas Mynyddoedd Cambria amheuon ynghylch cynlluniau o'r fath.
Byddai'r melinau gwynt yn cael eu gosod i'r dwyrain o Dregaron, gyda'r tyrbinau'n weladwy ar hyd y llwybr i gapel hanesyddol Soar y Mynydd.
O holi barn pobl yn y dref, roedd yn amlwg bod ganddynt farn am fanteision ac anfanteision y prosiect.
Mae Elinor Ashworth Chandler a Jordan Taylor yn deall manteision ac anfanteision fferm wynt o'r fath.

"Sai'n siŵr," meddai Jordan Taylor, gŵr ifanc 24 oed. "Ma' fe'n un anodd, anodd i gael energy, niwclear a petha fel 'na. "Os hwnnw 'di'r unig ffordd ni'n gallu cael solution... ia. So fi'n 100%, does dim lot o solutions eraill 'da ni."
Ond roedd Elinor Ashworth Chandler yn llai cefnogol i'r syniad o gael melinau gwynt. "Na, dim rili. Fi yn meddwl bod hi'n dda i gael egni o felin wyntoedd a petha' [adnewyddadwy] ond mae fe'n ardal mor hardd, fydde fe'n siom fi'n meddwl i sbwylio'r tirlun. "Mae mynyddoedd y Cambria jyst mor rhydd a mor wyllt, a fi ddim yn credu fydde fe'n beth neis i roi lan 'na."
Mae cwmni EDF yn pwysleisio y byddai cynllun Nant y Maen yn darparu ynni glan, sy'n rhan bwysig o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Maen nhw hefyd yn nodi y byddai'r prosiect yn darparu ynni dibynadwy mewn cyfnod o ansicrwydd byd-eang.
Yn ogystal, byddai'r prosiect yn creu cyfleoedd gwaith i fusnesau Cymreig, gan gynnwys ymgynghorwyr amgylcheddol Dulas, BSG Ecology, a changen Aberystwyth o wasanaethau EDF.

Mae gan Gymdeithas Mynyddoedd Cambria amheuon ynghylch cynlluniau o'r fath.
Ar eu gwefan, maen nhw'n pwysleisio bod pobl yn gwerthfawrogi'r tir am ei harddwch naturiol, ac o gael melinau gwynt o gwbl, mae'n rhaid i'r rheiny fod yn ddigon bach i beidio ag amharu gormod ar y dirwedd.
Safbwynt y llywodraeth
Dywedodd Adam Price fod y llywodraeth eisiau "gweld Cymru yn cael y budd o'i photensial o ran generadu ynni glan".

Gyda llywodraeth newydd wrth y llyw ym Mae Caerdydd, holodd rhaglen Newyddion S4C farn y gweinidog ynni, Adam Price.
"'Dan ni ddim yn gallu sôn am unrhyw brosiect yn unigol am resymau sydd yn ddealladwy," meddai. "Ry'n ni eisiau wrth gwrs gweld Cymru yn cael y budd o'i photensial o ran generadu ynni glan. "Mae hynny'n greiddiol i'n gweledigaeth ni ar gyfer yr amgylchedd, ar gyfer yr economi - er mwyn sicrhau bod y budd yna sydd gyda ni o ran potensial ynni glan, yn helpu cymunedau Cymru, helpu economi Cymru er mwyn ffynnu. "A bod y budd yna wrth gwrs i'r graddau sydd yn bosib yn aros yma yng Nghymru."
Mae'r datblygwyr wedi cyflwyno cais i Gyngor Ceredigion i osod offer ar y tir i fesur cyflymder y gwynt.
Dros yr hydref, bydd cyfle i bobl Tregaron ddweud a fydden nhw am weld fferm wynt yn yr ardal, wrth i ddigwyddiadau holi barn gael eu cynnal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- 'Dim lle i beilonau' ar gyfer cysylltiadau trydan newydd - gweinidog ynni
- Biliau ynni i godi yn sgil effaith y rhyfel yn Iran
- Pryder bod pentref yn troi'n 'ynys' ynghanol paneli solar







