Skip to main content
Advertisement

Traddodiad Canu Cymraeg yn Dychwelyd i Dafarn y Tŷ Gwyn yn Nyffryn Conwy

Mae tafarn y Tŷ Gwyn yn Nyffryn Conwy wedi ailgyflwyno traddodiad canu Cymraeg poblogaidd, gan groesawu cymunedau lleol a cherddwyr ar lwybr y pererinion.

·4 min read
Alun ac Ann

Alun ac Ann tu ôl i'r bar yn y Tŷ Gwyn

Mae tafarn yn Nyffryn Conwy wedi ailgyflwyno traddodiad poblogaidd sydd wedi bod yn rhan bwysig o'r gymuned cefn gwlad ers degawdau.

Pob nos Wener yn nhafarn y Tŷ Gwyn ym mhentref Rowen, roedd y lle'n llawn gyda phobl yn mwynhau canu Cymraeg. Roedd pobl yn teithio mor bell â Wrecsam i gymryd rhan yn y digwyddiad. Er i'r nosweithiau hyn stopio yn ystod y cyfnod clo, mae perchnogion newydd y dafarn wedi dechrau eu hailgyflwyno unwaith y mis.

Ty Gwyn
Disgrifiad o’r llun, Mae'r dafarn ar lwybr y pererinion

Mae Ann Anderson, gwreiddiol o Rowen, wedi treulio 30 mlynedd yn byw dramor yn Tanzania a Sweden cyn dychwelyd i Gymru. Ers dros flwyddyn, hi, ei gŵr John, a'i brawd Alun, sydd wedi cymryd drosodd y dafarn.

Mae'r dafarn ar lwybr y pererinion

"Pan wnaethon ni y penderfyniad i gymryd drosodd, roedden ni jyst eisiau troi'r lle yn ôl i fod yn dafarn a lle i bobl allu dod i gymdeithasu, a'r ffocws ar yr ochr gymdeithasol yna."

Mae Alun wedi byw yn yr ardal drwy ei oes ac yn cofio'r nosweithiau canu'n glir. Yn gymdeithasol, roedd yn adnabyddus yn y gymuned, gan chwarae rygbi i dîm Nant Conwy am ddegawdau, ac yn cael ei goroni fel Y Cymro Cryfaf yn 1991 gan y diweddar Orig Williams.

Alun a thlws Cymry Cryfaf
Disgrifiad o’r llun, Alun gyda'i dlws am ennill Y Cymro Cryfaf yn 1991

Mae'r tlws yn cael ei arddangos y tu ôl i'r bar i'w weld gan bawb.

Yn ôl Ann, mae canu Cymraeg wedi bod yn rhan bwysig o hanes y dafarn.

"Yn ôl be' dwi'n ddeall mae canu Cymraeg wedi bod yn mynd ymlaen yn fan hyn ers degawdau,"
meddai.
"Mae Dad wedi bod yn canu yma ers 1945 ac roedd canu pob nos Wener yn y cyfnod yna hyd at jest cyn Covid gyrraedd.
Dwi ddim yn gwybod sut oedden nhw'n llenwi'r lle pob nos Wener ond roedd pobl yn dod yma o bob man."

Advertisement

Mae Ann yn annog pobl ifanc i ymuno â'r canu ac yn gwahodd unrhyw gôr i gysylltu os ydynt eisiau cyfle i ymarfer.

"Fel mae'r blynyddoedd wedi mynd mae'r hen fois 'ma i gyd yn dechre blino. Pan wnaethon ni gymryd drosodd 15 mis yn ôl y peth cynta' naethon ni 'neud oedd rhoi'r canu Cymraeg yn ôl,"
meddai.

Ymdrechion i wneud y dafarn yn gynhwysol

Un o flaenoriaethau Ann, John ac Alun oedd gwneud y dafarn yn lle cynhwysol. Mae Rowen yn bentref gyda chymdogion Cymraeg, rhai'n ffermio'r tir ac eraill wedi byw yno gydol eu hoes, tra bod eraill wedi symud i'r ardal i fyw.

Mae lleoliad y pentref ar droed mynyddoedd y Carneddau yn ei wneud yn boblogaidd gyda cherddwyr, ac mae'r dafarn hefyd wedi'i lleoli ar ochr llwybr y pererinion.

"O'n i'n gweld o fel cyfle i ddod â'r dafarn yn ôl yn rhywle i'r gymuned ac i bobl y pentref,"
meddai Ann.
"Rwy'n ceisio bod yn gynhwysol yn y ffordd yna hefyd achos mae Rowen yn bentra reit wahanol, mae dipyn o Gymry a ffermwyr sydd dal yn asgwrn cefn y gymuned, i ddweud y gwir, ond mae yna lot o bobl yn amlwg wedi symud i mewn.
"Rhai wedi symud ers blynyddoedd maith yn ôl ac yn rhan o'r pentra ers hanner canrif a mwy, ac mae pobl eraill sydd wedi symud i mewn yn reit ddiweddar.
"Yr her ydi cael y cydbwysedd fel bod ni'n cael cadw'r Cymreictod, ond ei wneud o fel bod o'n rhywbeth mae pawb yn gallu teimlo'n rhan ohono fo."

Agor y dafarn hefyd wedi galluogi Alun i setlo'n ôl yn ei gynefin ar ôl cyfnod o weithio i ffwrdd.

"Mae hyn yn newid i be' o'n i'n 'neud o'r blaen; ro'n i wedi gweithio i ffwrdd o hyd a byth adra a daeth y cyfle i agor y lle 'ma a dod a fo'n ôl i sut oedd o ers talwm,"
meddai Alun.

Dyfodol y traddodiad

Wrth edrych ymlaen, mae Ann yn bwriadu cyflwyno rhagor o ddigwyddiadau i hybu Cymreictod ac yn annog unrhyw un i fod yn rhan o draddodiad pwysig sydd wedi bod yn rhan o gymuned fach gefn gwlad yng Nghonwy ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

  • O'r 'stafell ddosbarth i'r Llew Coch yn Llansannan
  • Tafarn gymunedol Ty'n Llan yn Llandwrog yn agor ar ei newydd wedd

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News