Skip to main content
Advertisement

Cofiwch Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004? Atgofion a Manylion Llawn

Cofiwch Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004? Atgofion manwl gan Alwen Jones, Geraint Thomas, Hywel Griffiths a Derek Evans am yr ŵyl fawr ar Ynys Môn dros 20 mlynedd yn ôl.

·6 min read
Cae Sioe Mon

Cae Sioe Môn oedd cartref Eisteddfod yr Urdd 'nôl yn 2004

Gydag wythnos Eisteddfod yr Urdd ar ei hanterth ar Ynys Môn, pwy sy'n cofio'r tro diwethaf i'r ŵyl ymweld â'r ynys?

2004 oedd y flwyddyn honno, dros 20 mlynedd yn ôl erbyn hyn.

Dyma atgofion pedwar unigolyn sy'n cofio'r Eisteddfod honno'n dda.

Y pafiliwn
Disgrifiad o’r llun, Y pafiliwn ar y flwyddyn honno

'Mi gymrodd o oria'!'

Alwen Jones o Amlwch oedd ysgrifennydd y pwyllgor gwaith ar gyfer yr Eisteddfod yn 2004.

A dyma sy'n aros yn y cof iddi hi.

"Un o fy swyddi, a be' dwi'n cofio fwyaf, oedd tywys llywyddion y dydd o amgylch. Oedd 'na Lywydd y Dydd, gwahanol rai bob dydd.
"Dwi'n cofio tywys Gwyn Hughes Jones. Roedd o wedi cynnal cyngerdd ar y nos Sul ac mi oeddwn i'n ei dywys ar y dydd Llun, a dau gam, ac roedd 'na rywun yn ein stopio ni!
"Mi gymrodd o oria', pobl yn ei longyfarch o.
"Un arall dwi'n cofio cymryd o gwmpas oedd Iwan Llywelyn Jones o Amlwch ac wrth gwrs roeddwn i'n 'nabod o hefyd.
"Be' dwi'n gofio 'efo fo - mynd i babell a phrynu crys-t a gofyn i mi ddewis pa grys-t iddo fo wisgo..."

Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Alwen ei bod hi'n "cofio gweld Iwan ar ryw raglen deledu wrth ymyl ei biano mawr yn ei gartref yn Llundain a'r crys-t 'ma amdano fo, a fi ddudodd wrtho fo am brynu hwnna!"

Alwen Jones
Disgrifiad o’r llun, Alwen Jones yn tywys llywyddion dydd yr ŵyl n'ôl yn 2004

Dywedodd ei bod hefyd yn cofio gweld y prif weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth yn un o'r "arweinyddion ifanc newydd yn cyflwyno un o'r prif dlysau ar y llwyfan".

"Be' dwi'n cofio fwya' dim oedd y beirniadu celf a chrefft, oedd o bron â'n lladd ni!
"Beirniadu'n genedlaethol, oedd y cyntaf, ail a'r trydydd yn mynd trwyddo bryd hynny... ac oedden nhw'n beirniadu yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch... ma' 'na lot o risiau yna!
"Ac oedd cario'r modelau ma', y lluniau 'ma, a gofalu nad oedden nhw'n cael unrhyw niwed, oedd o'n lladdfa! Dwi'n cofio'r darn yna 'de."

Un arall a fu'n brysur yn ystod wythnos yr Eisteddfod oedd Geraint Thomas o Amlwch, oedd yn brif stiward.

Dyma oedd ganddo i'w ddweud wrth edrych yn ôl ar ei rôl yn ystod y cyfnod hwnnw:

"Roedd rhaid gofalu bod 'na wirfoddolwyr ar gael i wneud y tasgau oedd angen eu gwneud, bo' nhw yn y lle iawn ar yr amser iawn ac yn gwneud y gwaith i orau eu gallu.
"Oedd y diwrnod yn hir! A dwi'n cofio mai'r traed oedd yn dioddef fwyaf!"

Caernarfon fydd cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028

Enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Ad (425x293)
"Dwi'n cofio bod nifer wedi cynnig eu hunain ymhell cyn llaw, felly roedd rhywun wedi gallu gwneud amserlen o flaen llaw," meddai Geraint.
Dywedodd fod y "bwrlwm wrth gwrs yn debyg iawn i be' mae o wedi bod tro hyn, casglu arian, gweithgareddau gwahanol a mwy o gystadlu oherwydd ei bod hi ar Ynys Môn.
"Ma' rhywun yn cofio deugain mlynedd o eisteddfodau'r Urdd erbyn hyn, a 'da ni wedi cael bod yn rhan o'r pedair ddiweddaraf ar Ynys Môn - gan gynnwys yr un bresennol."

Ar ôl ennill cadair yr Urdd ym Môn, aeth Hywel Griffiths ymlaen i ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015

Hywel Griffiths
Disgrifiad o’r llun, Ar ôl ennill cadair yr Urdd ym Môn, aeth Hywel Griffiths ymlaen i ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015

Hywel Griffiths enillodd y gadair y flwyddyn honno ac yntau'n fyfyriwr 21 oed ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y pryd.

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod, dywedodd ei bod hi'n "anodd credu bod hyn dros 20 mlynedd yn ôl!"

Dywedodd ei fod yn cofio'r "nerfusrwydd wrth aros am y seremoni ac eisiau sicrhau mod i'n cyrraedd fy sedd yn brydlon".

"Mae'r cof gen i am gael galwad i fynd i weld Llinos yn hen Swyddfa'r Urdd yn Aberystwyth i gael y newyddion tipyn cyn wythnos yr Eisteddfod, yn fyw iawn yn y cof!
"Gwefr wedyn o glywed y feirniadaeth gan Cen Williams ac Einir Jones ac o weld gwaith mewn print yng nghyfrol y cyfansoddiadau."

Ychwanegodd: "wrth edrych yn ôl rwy'n sylweddoli ei bod yn bwysig ofnadwy o ran magu hyder a chael anogaeth i ddal ati i gynganeddu a barddoni mewn ffordd, a gwybod bod pobl wedi mwynhau darllen rhywbeth yr o'n i wedi ei ysgrifennu.

"Mae'r anogaeth hwnnw i ysgrifenwyr ifanc yn un o bethau pwysicaf cystadlaethau'r Urdd wrth gwrs.

"Rwy'n cofio un o fy ffrindiau coleg yn prynu clustog Mr Urdd imi fel anrheg!"

Derek Evans oedd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn 2004 a dyma beth mae'n cofio am yr wythnos honno.

"Roedd o'n gyfnod prysur, yn gyfnod cyffrous iawn iawn, roedd o'n gyfnod bendigedig a dweud y gwir.
"O'n i'n digwydd bod yn gadeirydd y pwyllgor gwaith sir yr Urdd a dwi'n dal i fod yn gadeirydd pwyllgor sir yr Urdd, ma' hynna wedi bod yn amser maith.
"Mae'r mudiad yn golygu gymaint i mi, mae'r mudiad a Sir Fôn yn golygu gymaint i mi.
"Dwy 'Steddfod dwi 'di gweld ar Ynys Môn ers pan i mi ddechrau dysgu yn ôl yn 1978... mae just yn bleser cael gweld nhw.
"'Oedd fy merch i yn sioe ieuenctid yn ôl yn 2004 ac mae hi bellach newydd cael ei phen-blwydd yn ddeg ar hugain, mae o'n amser pell i ffwrdd yn dydi."

Ychwanegodd fod y sioe uwchradd yn "binacl" iddo a bod "nifer o'r aelodau o'r sioe honno bellach ar ein pwyllgor ni".

"Ma' Manon Wyn Williams, sy'n gadeirydd y pwyllgor gwaith yn y sioe yna ac yn y sioe uwchradd bellach, yn famau ac yn dadau ar yr ynys 'ma ac yn anfon eu plant i wneud pethau efo'r Urdd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News