Skip to main content
Advertisement

Eisteddfod to discuss sensitivity reader use in judging process

Bydd aelodau llys yr Eisteddfod yn trafod cynnig i gynnig darllenydd sensitifrwydd i feirniaid, yn dilyn dadl ehangach ar ôl atal y Fedal Ddrama yn 2024.

·5 min read
Cyfansoddiadau

Mae disgwyl i aelodau llys yr Eisteddfod drafod brynhawn Iau argymhelliad y Brifwyl i gynnig gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid sy'n dymuno hynny. Mae'r mater wedi dod fwy i'r amlwg ers atal y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2024.

Mae'r union reswm dros ganslo'r fedal yn parhau yn ddirgelwch, ond ers y digwyddiad mae sawl trafodaeth wedi bod ar sicrhau sensitifrwydd mewn llenyddiaeth, a hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w brofiad personol.

Pa argymhellion sydd gerbron?

Yn dilyn trafodaeth rhwng Dylan Iorwerth, Myrddin ap Dafydd a'r Pwyllgor Diwylliannol - ac Eifion Lloyd Jones gan ei fod wedi cynnig bod y pwyllgor yn trafod y mater - deallir bod y cyngor a bwrdd rheoli'r Brifwyl wedi argymell y dylid:

cynnig gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid sy'n dymuno hynny;

os defnyddir darllenydd sensitifrwydd yn ystod y broses feirniadu, rhaid nodi hynny yn y feirniadaeth;

gan fod rheolau cystadlu'r Eisteddfod Genedlaethol eisoes yn nodi bod angen diarddel cystadleuwyr sy'n torri'r gyfraith, cytunwyd y dylid gofyn i gyfreithwyr yr Eisteddfod lunio canllaw i'r beirniaid gan restru pa gategorïau o waith creadigol sy'n anghyfreithlon - e.e. deunydd cam-drin plant yn rhywiol, cynnwys sy'n annog neu'n hyrwyddo terfysgaeth, trais neu gasineb hiliol/grefyddol, gwaith sy'n enllibus, a gwaith sy'n datgelu data personol;

byddai'r canllaw hefyd yn nodi sut y dylai beirniaid gyfeirio cynnwys sensitif a/neu ddadleuol at sylw cyfreithwyr yr Eisteddfod.

O ble daeth yr argymhellion?

Mae'r argymhellion yn seiliedig ar ddau gynnig a gafodd eu cyflwyno ger bron cyfarfod Llys yr Eisteddfod ym mis Awst 2025 - y naill gan y Prifardd Dylan Iorwerth a'r llall gan Myrddin ap Dafydd, ac fe eiliodd y ddau eu cynigion ei gilydd.

Roedd Cynnig 1 yn nodi: Yng nghystadlaethau cartref yr Eisteddfod Genedlaethol, dylai dyfarniad beirniad fod ar sail gwerth y gwaith, heb wybod enw cystadleuwyr na dim am eu hunaniaeth.

Os oes angen, cyn cyhoeddi neu berfformio gwaith, gall yr Eisteddfod ddefnyddio gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i'w chynghori.

A Chynnig 2 yn nodi: Yn ystod y broses feirniadu yng nghystadlaethau cartref yr Eisteddfod Genedlaethol, lle mae cystadleuwyr yn ymgeisio dan ffugenw, mae angen gwarchod cyfrinachedd cystadleuwyr yn llwyr - ac eithrio cystadlaethau unigol lle nad yw hynny'n berthnasol.

Os oes defnydd o ddarllenydd sensitifrwydd yn ystod y broses feirniadu, mae angen nodi hynny yn y feirniadaeth, gan grybwyll y rheswm, y cyngor a'r casgliad.

Nodwyd fod pwynt cyntaf y ddau gynnig eisoes yn weithredol.

Pam mae'r drafodaeth yn codi nawr?

Mae'r drafodaeth wedi dwysáu oherwydd y cwestiynau ehangach ynghylch cynrychiolaeth, sensitifrwydd a'r berthynas rhwng rhyddid creadigol a chyfrifoldeb cyhoeddus. Mae hyn yn arbennig o wir yn dilyn y penderfyniad i atal y Fedal Ddrama yn 2024, a'r diffyg eglurder ynghylch pam y gwnaed hynny.

Angen amddiffyn hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w brofiad
Angen darllenwyr arbenigol yng Nghymru i sicrhau sensitifrwydd

Pwy sydd wedi bod yn trafod y mater yn y maes llenyddol?

Mae'r awdur a'r dramodydd Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor yn cynghori gweisg ar sut i sicrhau cynrychiolaeth deg a chydraddoldeb mewn llenyddiaeth.

Yn y gorffennol mae wedi dweud bod angen ystyried cael pobl arbenigol yng Nghymru i sicrhau sensitifrwydd mewn llenyddiaeth er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg a chydraddoldeb.

Advertisement

Roedd un o benaethiaid y Cyngor Llyfrau yn cytuno ac yn dweud bod y cyngor wedi trefnu hyfforddiant i weisg, ond mai'r cyhoeddwyr sy'n penderfynu a oes angen darllenwyr sensitifrwydd.

Ond dywedodd Arwel Jones, pennaeth datblygu cyhoeddi y Cyngor Llyfrau, bod angen amddiffyn hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w brofiad, ac ar yr un pryd sicrhau amrywiaeth o awduron.

Beth fydd yn digwydd yn yr Eisteddfod?

Ddydd Iau, seremoni Medal y Dramodydd fydd y prif ddefod yn y Pafiliwn.

Mae'r dramodydd buddugol, os bydd teilyngdod, yn cael ei wobrwyo am lunio braslun o ddrama - roedd ysgrifennu braslun yn hytrach na drama gyfan wedi cael ei benderfynu cyn yr hyn a ddigwyddodd yn 2024.

Roedd hi'n ofynnol i'r braslun gynnwys dechrau, canol, diwedd - lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn yn ogystal ag enghraifft o dair golygfa wedi eu deialogi, neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.

Mae cwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru wedi dod ynghyd i greu consortiwm fel rhan o bartneriaeth gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i gynnig pecyn o gyfleoedd i enillydd y fedal.

Aelodau'r consortiwm yw Frân Wen, Theatr Bara Caws, Theatr Clwyd, Theatr Cymru, Theatr Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch ynghyd â'r Eisteddfod.

Roedd y panel o feirniaid eleni yn cynrychioli aelodau'r consortiwm sef Daniel Lloyd (Theatr Clwyd), Rhian Blythe (Theatr Cymru), Ffion Dafis (Theatr Bara Caws), Gethin Evans (Frân Wen), Ffion Wyn Bowen (Cwmni Theatr Arad Goch), Lowri Morgan (Theatr y Sherman) ac Alice Eklund (Theatr y Torch).

Cafodd Leo Drayton a Nia Morais eu penodi i'r panel beirniaid fel ymarferwyr llawrydd.

Greta Siôn a enillodd Fedal y Dramodydd y llynedd ac fe gafodd ei drama ei pherfformio ar y maes brynhawn Mercher

Disgrifiad o’r llun, Greta Siôn enillodd Fedal y Dramodydd y llynedd, ac fe gafodd ei drama ei pherfformio ar y maes brynhawn Mercher
" alt="Disgrifiad o’r llun, Greta Siôn enillodd Fedal y Dramodydd y llynedd, ac fe gafodd ei drama ei pherfformio ar y maes brynhawn Mercher" />

Greta Siôn enillodd Fedal y Dramodydd y llynedd, ac fe gafodd ei drama ei pherfformio ar y maes brynhawn Mercher

Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam yn rhoddedig gan eu plant Hywel, Sioned a Steffan, a £3,000 yn rhoddedig gan Cware ac Olew Trefigin.

Nic Parry fydd yn arwain y seremoni.

Sut all darllenwyr ddilyn rhagor o newyddion?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News