Ynys Enlli - rhan mwyaf gorllewinol yr etholaeth enfawr
Ymhlith 16 o etholaethau newydd, llawer ohonyn nhw'n enfawr, Gwynedd Maldwyn yw'r fwyaf yn nhermau ei hardal ddaearyddol.
Yn ôl data Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru mae'n gorchuddio 1,927 o filltiroedd sgwâr. Mae'n cynnwys Ynys Enlli yn y pen gorllewinol a chymunedau ar y ffin gyda Lloegr yn y dwyrain.
Mae'n etholaeth amrywiol, sy'n cynnwys ardaloedd gwledig ac amaethyddol, pentrefi ôl-ddiwydiannol a rhannau sy'n ddibynnol ar dwristiaeth; cymunedau yng nghadarnleoedd yr iaith Gymraeg a rhai lle mae'r bobl yn mynd dros y ffin i Loegr i siopa a chael mynediad at wasanaethau.
O un ochr yr etholaeth i'r llall mae'n bellter o tua 100 milltir mewn cerbyd ac yn daith o ddwy awr a hanner ar y ffordd.
Felly, sut mae'r ymgeiswyr wedi ymdopi wrth ymgyrchu mewn ardal mor fawr?
Es i ar daith o gwmpas yr etholaeth i gwrdd â rhai ohonyn nhw.
Fe gwrddais i â Glyn Preston – prif ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol a chynghorydd ar Gyngor Sir Powys - yn Llanidloes.
Dywedodd ei fod wedi gwneud llawer iawn o deithio yn yr "etholaeth anferth".
"Dwi wedi bod fyny yng Nghricieth a Dolbenmaen yn canfasio, ac mae gennym ni dîm sy'n canfasio f'yna hefyd.
Mae'n enfawr – a dwi ddim yn meddwl y gallwch chi wir gynrychioli yr holl ardal os ydych chi'n cael eich ethol i fod yn y Senedd.
Dyw e ddim yn gwneud synwyr i fi – ond 'da ni yn trio ein gorau i ymgyrchu ar draws y sedd i gyd."

Mae Llanidloes yn un o drefi'r etholaeth

O Lanidloes, taith o lai na hanner awr i'r Drenewydd i gwrdd ag ymgeisydd annibynnol.
Dan yr hen fap etholiadol, Russell George oedd cynrychiolydd Sir Drefaldwyn yn y Senedd ar ôl ennill y sedd fel Ceidwadwr yn 2021.
Ond y llynedd cafodd ei ddiarddel gan y blaid ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau betio – mae Mr George yn gwadu'r cyhuddiadau.
Pwysleisio yr hyn y mae wedi'i gyflawni yw nod Russell George wrth ymgyrchu
"Mae'r ymgeiswyr eraill yn sôn am yr hyn y byddan nhw'n ei wneud", meddai Mr George.
"Dwi ddim yn gwneud hynny. Dwi'n dweud 'Dyma beth dwi wedi'i wneud. Dyma fy record i, a dyma beth bydda i'n parhau i wneud os caf fy ailethol'."
Ychwanegodd Mr George ei fod yn credu y byddai'n anodd iawn i unrhyw un gynrychioli pob cymuned yn yr etholaeth yn effeithiol, gan ddweud "dyna pham dwi'n meddwl bod hyn yn anghywir, mae'n system wael ar gyfer democratiaeth".

Dywedodd Siân Gwenllian ei bod yn "fraint" cael mynd i'r ardaloedd ar y ffin
Ym Machynlleth, lleoliad senedd-dy Owain Glyndŵr, fe gwrddais i â Siân Gwenllian, prif ymgeisydd Plaid Cymru.
Mae'r blaid yn gobeithio gallu anfon sawl aelod i'r Senedd i gynrychioli Gwynedd Maldwyn.
Tra'n cydnabod bod yr etholaeth yn fawr, dywedodd Siân Gwenllian bod y seddi rhanbarthol dan yr hen drefn yn heriol hefyd.
"Da ni'n gobeithio anfon tîm mawr i'r Senedd ac wrth gwrs mi fyddai hynny yn ei hun yn ei gwneud hi'n haws i ni fedru cynrychioli ardal fawr, yn rhannu'r gwaith allan ac yn gallu agor swyddfeydd newydd efallai hefyd a threfnu cymorthfeydd yn y gwahanol ardaloedd.
Mae hi wedi bod yn fraint mynd i'r ardaloedd ar y ffin – Rhosllannerchrugog ac yn y blaen – a chael derbyniad gwresog iawn."

Os na allwch chi weld yr elfen ryngweithiol, diweddarwch y dudalen
Beth mae'r pleidiau yn ei addo i chi?
Dysgwch beth yw polisïau'r prif bleidiau gwleidyddol drwy ddewis opsiwn isod.
Mae rhywfaint o'r maes polisi hwn yn parhau dan reolaeth llywodraeth y DU
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Mae rheolaeth dros y mater hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu'n rhannol
Dewiswch fater sydd o ddiddordeb i chi
Mae rheolaeth dros y maes hwn yn nwylo llywodraeth y DU yn gyfan gwbl neu rywfaint ohono
Llafur Cymru
Y Ceidwadwyr Cymreig
Plaid Cymru
Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
Plaid Werdd Cymru
Heritage Party
Mae pwysigrwydd amaethyddiaeth yn yr etholaeth hon yn amlwg ar y daith o'r Drenewydd i'r gogledd drwy ddyffryn afon Hafren.
Mae ffermydd i'w gweld ar ddwy ochr y ffordd fawr sy'n dilyn yr afon, ac yn Y Trallwng mae un o'r marchnadoedd da byw mwyaf yn Ewrop.
Ffermwr yw Aled Davies, prif ymgeisydd y blaid Geidwadol. Fe gwrddon ni ym mhentre' Llansilin – dafliad carreg o'r ffin gyda Lloegr.
Mae perygl o "golli cyswllt" gydag etholaeth mor fawr, meddai Aled Davies
Bu'n rhaid i Aled Davies deithio tua'r gorllewin er mwyn ymgyrchu a dywedodd ei fod wedi bod yng Nghaernarfon ac Abersoch, ond nad oedd wedi cyrraedd Ynys Enlli.
Dywedodd hefyd ei fod yn meddwl bod perygl o gael etholaeth mor fawr: "Y ffaith eich bod yn colli cyswllt rhwng aelod yn y Senedd a darn o dir.
Mae'n ddigon hawdd i un grŵp o barti fod o un ardal a neb yn yr ardal arall. Mae hynny'n risg fawr."

Er yr ardal fawr, mae Andrew Griffin yn credu bod modd cynrychioli pawb
Ychydig filltairoedd i ffwrdd oedd yr arhosiad nesaf yn Llanfyllin lle mae Andrew Griffin, prif ymgeisydd Reform UK, yn byw.
Yn ôl yr arolygon barn mae'n ornest rhwng Plaid Cymru a Reform i fod y blaid fwyaf yn y Senedd newydd.
Dywedodd Mr Griffin fod Llanfyllin yn lleoliad da i gyrraedd gwahanol rannau o'r etholaeth: "Mae'n llythrennol dros y mynydd i'r Bala, mae'n cymryd 15 munud ac yna mae'r rhwydwaith ffyrdd yn eithaf da.
Dim ond 40 munud ydw i o Wrecsam a thua awr i lawr i'r Drenewydd, felly mae'n bosibl o fan hyn."
Yn ôl Mr Griffin mae yn bosibl i gynrychioli'r ardal: "Fydden i ddim yn ei wneud os nad o'n i'n meddwl ei bod hi'n bosibl."

Wyrcws Llanfyllin - un o'r lleoliadau amrywiol ar y daith

Wrth deithio yn bellach i'r gogledd mae'r etholaeth yn croesi ffiniau sirol allan o Bowys ac i mewn i Sir Ddinbych – mae ardaloedd Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Glyndyfrdwy a Chorwen yn rhan o'r etholaeth.
Hefyd, mae'n cynnwys rhannau o Sir Wrecsam lle mae newid mawr o naws wledig y daith hyd yn hyn i ardal ôl-ddiwydiannol.
Tyfodd Rhiwabon a Rhosllannerchrugog oherwydd y diwydiant glo yn y gogledd ddwyrain, ac er eu bod yn cael eu hystyried yn bentrefi mae ganddyn nhw fwy o boblogaeth na rhai trefi yng ngweddill yr etholaeth.
Yno fe wnes i gwrdd â dau o'r etholwyr lleol a gofyn am eu teimladau ynglŷn â bod yn rhan o Wynedd Maldwyn.
Dywedodd Sofiah Valentine: "Bach yn od, os dwi'n onest. Dy'n nhw ddim yn llefydd y byddwn i wedi meddwl cael ein grwpio mewn gyda."
Ymateb Gwynfor Jones oedd: "Mae o'n mynd i deimlo'n wahanol iawn yn dydy. Buasai'n well gen i cael Wrecsam fel Wrecsam."
Roedd cyfle am sgwrs gyda Steffan Chambers mewn caffi yn Nolgellau
Ar ôl llawer iawn o yrru – cannoedd o filltiroedd yn igam-ogam o le i le – roedd cyfle am baned mewn caffi yn Nolgellau a sgwrs gyda Steffan Chambers, un o ymgeiswyr y blaid Lafur.
Er bod prif ymgeiswyr y blaid yn dod o wahanol rannau o'r etholaeth, dywedodd y bydd yn "anodd i unrhywun i geisio cadw cysylltiad lleol, ar lawr gwlad gyda'r pleidleiswyr".
"Dwi'n gobeithio pan fydd y cynrychiolwyr yn cael eu hethol ar 7 Mai y bydd pob cwr o'r etholaeth yn cael eu cynrychioli yn deg."

Mae Nathan Jarvis yn bwriadu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio os fydd yn cael ei ethol
Fel ardal Rhosllannerchrugog, mae gan Fro Ffestiniog hanes diwydiannol hefyd.
Yno mae prif ymgeisydd y Blaid Werdd, Nathan Jarvis, yn byw. Mae eisoes yn meddwl am sut i gyrraedd yr etholwyr os yw'n cael ei ethol.
"Bydd angen defnyddio technoleg newydd a Zoom, sy'n gweithio'n syndod o dda mewn gwirionedd. Ond does dim ffordd o osgoi teithio – ac wrth gwrs, bydda i'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r trên yn ddiddorol ledled Cymru, yn enwedig i lawr i Gaerdydd o Gyffordd Llandudno. Felly mae'n mynd i fod yn her, ond dy'n ni'n barod amdani."

Daeth taith Craig Duggan i ben yn Uwchmynydd, dros 100 milltir o'r ffin yn yr Ystog
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cydnabod bod Gwynedd Maldwyn yn "fwy nag y byddai wedi dymuno" mewn byd delfrydol, gan ychwanegu y bydd adolygiad ar ôl yr etholiad, ac o bosib bydd newidiadau i etholaethau cyn 2030.
Daeth fy siwrne i ben yn Uwchmynydd ym mhen gorllewinol Pen Llŷn, a golygfa draw am Ynys Enlli – dros 100 milltir o'r ffin yn yr Ystog.
Diwedd fy nhaith i, ond i chwech o bobl fe fydd eu taith yn dechrau ymhen wythnos fel cynrychiolwyr newydd Gwynedd Maldwyn yn y Senedd.
Dechrau hefyd ar lawer iawn o deithio ar hyd a lled yr etholaeth enfawr.
Mae rhestr lawn o'r holl ymgeiswyr yn yr etholaeth hon ar gael yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd
- Etholiad y Senedd: Dewch i 'nabod yr arweinwyr
- Beth mae'r Senedd yn ei wneud? Ac ar beth mae £25bn yn cael ei wario?






